Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Y broblem bresenoliaeth (presenteeism)

Dyma sut mae'r CIPD yn ystyried presenoliaeth (presenteeism) ac absenoliaeth (leaveism), a byddwch yn trafod hyn ymhellach yn y gweithgaredd nesaf:

Presenteeism (people working when unwell) and leaveism (employees using allocated time off such as annual leave to work or if they are unwell, or working outside contracted hours) are not the signs of a healthy workplace. With debate continuing about the wellbeing risks of an ‘always on’ culture and the rapid increase in homeworking, organisations need to ensure that the boundaries between people’s work and home lives do not become blurred.

(CIPD, 2022)

Gweithgaredd 8 A yw presenoliaeth wedi mynd yn ddigidol?

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Darllenwch yr erthygl hon (1500 gair) sy'n dwyn y teitl Why presenteeism wins out over productivity [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] gan BBC Worklife (Lufkin, 2021). Wrth i chi ei darllen, cadwch y cwestiynau canlynol mewn golwg:

  • I ba raddau oedd presenoliaeth yn broblem yn eich gweithle cyn-COVID, a sut mae hynny wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda mwy o weithio o bell a hybrid?
  • Pa effaith mae'n ei chael ar eich llesiant personol?
  • Pa effaith mae'n ei chael ar eich tîm neu'ch adran?
  • Os ydych yn rheolwr neu'n arweinydd, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â phresenoliaeth?

Nodwch y pwyntiau allweddol sy'n apelio atoch chi. Cewch ddefnyddio'r blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Yn ôl adroddiad mis Ebrill 2022 CIPD Health and Wellbeing at Work 2022, mae gweithwyr yn gweithio pan maent yn sâl (presenoliaeth) yn dal i fod yn gyffredin – ac mae hyd yn oed yn uwch ar gyfer y rheini sy'n gweithio gartref (81% yn erbyn 65% ymhlith y rheini mewn gweithle). Gall y diwylliant hwn arwain at salwch meddwl a straen ar gyfer gweithwyr, a all arwain at salwch hirdymor. Felly, mae'n broblem na ellir mo'i hanwybyddu os yw eich sefydliad am lwyddo.

Mae'n bwysig nad yw sefydliadau yn anghofio am fuddion gweithio hyblyg, sydd wedi agor cymaint o ddrysau i ystod lawer ehangach o weithwyr na chyn y pandemig. Gall dod o hyd i'r cydbwysedd cywir gymryd cyfnod o arbrofi lle mae cyflogwyr a gweithwyr yn rhoi cynnig ar fwy nag un opsiwn cyn dewis mabwysiadu'n barhaus beth sy'n gweithio'n dda. Serch hynny, ni ddylai diwylliant o bresenoliaeth fod yn rhan o hyn.