5.1 Cyfathrebu mewn byd gweithio hybrid
Yn y gweithle, bydd sgiliau cyfathrebu effeithiol yn eich galluogi chi fel unigolyn i ryngweithio'n fwy effeithiol gyda chydweithwyr ac eraill, yn ogystal â gwella eich tebygoliaeth o ennill dyrchafiad neu sicrhau cyflogaeth newydd. Mae hyn yn wir pa un ai a ydych wedi'ch lleoli mewn swyddfa fawr, cynllun agored neu'n gweithio gartref neu leoliad arall o bell.
Mae tystiolaeth sylweddol hefyd, o'r 1970au ymlaen, i gefnogi cysylltiad rhwng cyfathrebu effeithiol yn y gweithle a bodlonrwydd gwell mewn swydd. Dadansoddodd Clampit a Girard (1993) gyfansoddiad bodlonrwydd cyfathrebu, gan gasglu bod:
Communication satisfaction factors provide an effective way to distinguish between employees who are in the upper and lower parts of the spectrum in terms of both job satisfaction and self-estimates of productivity.
Yn fwy diweddar, casglodd astudiaeth o nyrsys mewn unedau gofal dwys paediatrig – sy'n amgylchedd gwaith arbennig o ddwys – fod:
There is a relationship between effective communication and job satisfaction that needs to be of a greater importance for organizations to achieve a higher success.
Os yw'r rheini o'ch cwmpas chi yn cyfathrebu'n effeithiol ac mae gennych synnwyr clir o'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonoch a sut allwch gyfrannu yn y gweithle, mae'n gwneud synnwyr y byddwch yn teimlo'n fwy bodlon; felly, mae'n cael effaith gadarnhaol ar eich llesiant.
Mae cyfathrebu effeithiol yn rhoi buddion clir i'r unigolyn, ond mae buddion sylweddol i'r sefydliad hefyd. Os yw ansawdd y cyfathrebu yn wael, gall llai o fodlonrwydd mewn swydd a chynhyrchedd is gael effaith sylweddol ar y busnes. Er enghraifft, pan arolygwyd 4,000 o bobl gan Think Feel Know Coaching, dywedodd 46% eu bod yn ansicr beth oedd yn cael ei ofyn ohonynt gan eu rheolwr llinell pan roddwyd tasgau iddynt (Woods, 2010). Bu i'r un astudiaeth amcangyfrif bod oddeutu 40 munud fesul unigolyn fesul diwrnod yn cael ei wastraffu oherwydd hyn. Gan ddefnyddio'r ffigyrau hyn, gallai cwmni cyfartalog gydag oddeutu 1,000 o weithwyr gael cynifer â 83 o bobl yn gwneud dim bob dydd (Woods, 2010).
Pan mae ansicrwydd neu newid yn y sefydliad, gall gweithwyr deimlo nad ydynt yn cael gwybod am effaith eu rolau. Os na ymdrinnir â'u pryderon, ac nad yw gwybodaeth allweddol yn cael ei chyfathrebu, bydd morâl staff yn cael ei effeithio. Gall hyn arwain at ddiffyg ymddiriedaeth ac ymgysylltiad, a all arwain at gynhyrchedd is ac absenoliaeth.
Er mwyn i sefydliad ddefnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol, mae'n ofynnol i bob unigolyn, o uwch-reolwyr i hyfforddeion newydd, chwarae ei ran.
Weithiau, camgyfleu yw'r broblem. Mae'r fideo yn y gweithgaredd nesaf yn awgrymu rhai rheolau syml i osgoi hyn.
Gweithgaredd 10 Camgyfleu
Gwyliwch y fideo TedEd canlynol ynghylch camgyfleu.
Nawr defnyddiwch y blwch i nodi'ch profiadau eich hun o gamgyfleu.
Pa effaith ydych chi'n feddwl mae'r arferion gweithio hybrid sydd yn eu lle ers dechrau COVID-19 (e.e. cyfarfodydd drwy alwad fideo) yn ei chael ar gamgyfleu?
Trafodaeth
Mae'r fideo yn sôn am bedwar ymarfer a all wella rhyngweithiadau ac osgoi camgyfleu:
- Cydnabod bod gwahaniaeth rhwng gwrando goddefol a gwrando gweithredol.
- Gwrando gyda'ch llygaid a'ch clustiau yn ogystal â'ch greddf.
- Cymryd amser i ddeall persbectif yr unigolyn/pobl yr ydych yn gwrando arnynt.
- Ceisio bod yn ymwybodol o'ch hidlwyr canfyddiadol eich hun.
Y tro nesaf y byddwch chi'n trafod mater anodd gyda chydweithwyr, ceisiwch roi'r syniadau hyn ar waith. Tybed a yw hynny'n gwneud gwahaniaeth?
Drwy gydol eich bywyd, rydych yn newid yn barhaus y ffordd yr ydych yn siarad ac am beth ydych chi'n siarad. Bydd pob sefyllfa yr ydych ynddi yn gofyn dull cyfathrebu ychydig yn wahanol. Rydych newydd fyfyrio ar sefyllfaoedd pan wnaeth cyfathrebu fethu ac arwain at gamddealltwriaeth. A wnaeth unrhyw rai o'ch profiadau gyda chamgyfleu gynnwys cydweithwyr o genhedlaeth wahanol i chi. Os felly, gall yr adran nesaf helpu i egluro hynny.