5.5 Problemau diogelwch ar gyfryngau cymdeithasol
Crybwyllodd Adran 3 eich llesiant digidol, ac atal unigedd, adnabuwyd bod magu a chynnal perthnasoedd a lleihau unigedd i gyd yn agweddau cadarnhaol o weithgaredd digidol. Gellir cyflawni hyn drwy gymryd rhan mewn cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio cymdeithasol. Serch hynny, mae materion diogelwch yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol, yn enwedig mewn perthynas â phostio amhriodol. Gallai hyn fod o ganlyniad i chi'n rhannu cynnwys amhriodol yn ddiofal neu'n fwriadol, neu gallai fod yn ymateb amhriodol i'ch gweithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol.
Dylai bod gan eich sefydliad ganllawiau ynghylch yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ar gyfryngau cymdeithasol, gyda chanlyniadau eglur yn cael eu nodi os na lynir wrth y cyngor hwn.
Efallai y cewch ymatebion negyddol gan ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae sylwadau nad ydynt yn cytuno â'ch safbwyntiau neu'ch persbectifau yn gwbl dderbyniol, ond gallwch deimlo wedi'ch llethu gan adlach o sylwadau, neu ddioddefwr seiberfwlio neu aflonyddwch. Os felly, mae angen i chi ystyried sut mae ymateb i hyn, neu ba un ai a ydych am ymateb hyd yn oed.
Blwch 2 Cefnogaeth ac arweiniad
Mae nifer o adnoddau ar-lein sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad os cewch eich amlygu i ymddygiadau negyddol, neu eich bod yn poeni am eich ymddygiad eich hun. Efallai yr hoffech dreulio ychydig o amser i archwilio rhai sydd wedi'u rhestru isod:
- Cyberbullying and online harassment advice | The National Bullying Helpline [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Help Center | The Cybersmile Foundation
- Canllawiau Cadw'n Ddiogel Ar-lein Llywodraeth Cymru | Llywodraeth Cymru
- I'm being harassed by someone on social media. What can I do? | Metropolitan Police
- Social Networking Sites | Get Safe Online
- Dealing with online harassment | Support, health and wellbeing, Prifysgol Efrog