Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.1 Archwilio cynhwysiant

Yn aml, mae pobl mor brysur yn meddwl am eu safbwynt eu hunain na allant weld safbwynt eraill. Mae pobl hefyd yn dueddol o feirniadu syniadau eraill yn hytrach na cheisio eu deall. Fel y mae'r ymchwilydd academaidd Michàlle E. Mor Barak (2017) yn egluro yn ei waith, rydym yn cael trafferth derbyn y gall pobl eraill gyflawni union yr un canlyniad mewn ffordd wahanol neu well.

Wedi dweud hynny, mae dwyn ynghyd cyfuniad o bobl wahanol o gefndiroedd amrywiol yn ffactor pwysig o ran dod o hyd i ddatrysiadau creadigol i broblemau, a'u gweithredu. Mae meddwl y tu allan i'r blwch a rhyngweithio gydag amrywiol gydweithwyr yn gwella gallu pobl i weithio mewn byd bregus, ansicr, cymhleth ac amwys.

Mae cynhwysiant yn y gweithle yn golygu gwneud y mwyaf o amrywiaeth ymhlith staff a myfyrwyr. Mae'n cynyddu dyfnder ac ystod ymddygiadau, galluoedd a sgiliau y gall y sefydliad eu defnyddio er mwyn ymateb i anghenion amgylchedd byd bregus, ansicr, cymhleth ac amwys. Mewn gwirionedd, gall arweinydd sy'n gallu rheoli gweithlu amryfal mewn cwmni, ac ymgysylltu â nhw, gaffael mantais unigryw ac ymdrin â heriau arweinyddiaeth yn fwy effeithiol.

Fel y byddwch yn gweld yn y gweithgaredd nesaf, mae sefydliad yn dod yn weithle cynhwysol pan fydd yn derbyn ac yn defnyddio amrywiaeth ei weithlu. Gall yr amrywiaeth hwn gynnwys acen, oedran, cyfrifoldebau gofalu, lliw, diwylliant, anabledd gweledol a chudd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiad, iechyd meddwl, niwroamrywiaeth, ymddangosiad corfforol, barn wleidyddol, beichiogrwydd a mamolaeth/tadolaeth a statws teuluol ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol, neu unrhyw groestoriad neu gyfuniad o'r rhain, yn ogystal â nodweddion personol a phrofiadau eraill.

Gweithgaredd 12 Strategaethau arweinyddiaeth ar gyfer cynhwysiant (byd-eang)

Timing: Caniatewch tua 20 munud

Gwyliwch y fideo drwy ddilyn y ddolen isod sy'n trafod 'cynhwysiant byd-eang' gan Ernest Gundling, cyd-sylfaenydd a phartner rheoli yn Aperian Global.

What is global inclusion? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (agorwch y ddolen mewn tab/ffenestr newydd er mwyn i chi allu dychwelyd yn rhwydd).

Beth mae Gundling yn ei olygu gan 'gynhwysiant byd-eang'? Gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae'r ffordd mae Gundling yn mynd i'r afael â chynhwysiant yn ymgorffori'r canlynol:

  • Cynnwys pobl o wahanol hiliau a rhywedd.
  • Cydweithio gyda phobl o wahanol swyddogaethau a chenedlaethau.
  • Bod yn barod i oresgyn rhwystrau.
  • Dod o hyd i ffyrdd o gynnwys pobl o faes arbenigol i helpu ym meysydd eraill.
  • Gwahodd yr annisgwyl.
  • Chwilio am ffynonellau gwybodaeth newydd.

Yn y fideo hwn, mae Gundling yn trafod cynhwysiant byd-eang, ac yn dweud ei fod yn cyfeirio at feysydd megis gwahaniaethau swyddogaethol a rhwng cenedlaethau, yn ogystal â hil a rhywedd. Er enghraifft, nid yw bod yn arbenigwr technegol yn golygu nad oes gennych unrhyw farn am farchnata, gwerthiannau neu unrhyw feysydd eraill nad oes gennych wybodaeth gref yn eu cylch, neu nad ydych yn ymgysylltu â nhw. Yn yr enghraifft hon, mae angen i chi fod yn barod i oresgyn y ffiniau a dod o hyd i ffyrdd o gynnwys arbenigwyr technegol i helpu'r cwmni ym meysydd eraill hefyd.

Mae Gundling hefyd yn cynnig rhai strategaethau ar gyfer cynhwysiant y gall arweinwyr a rheolwyr eu defnyddio, megis:

  • chwilio am ffynonellau gwybodaeth newydd
  • herio eu tybiaethau
  • gofyn i bobl feddwl am eu rhwydwaith er mwyn ei ymestyn
  • gwahodd yr annisgwyl.

Mae Barak (2017) yn diffinio gweithle yn un sy'n:

  • gwerthfawrogi ac yn defnyddio gwahaniaethau yr unigolyn a grwpiau – yn y pendraw, bydd yn anelu at addasu gwerthoedd ac arferion cyfundrefnol i fod yn addas i'w gweithwyr
  • gweithio gyda'r gymuned gyfagos a chyfrannu at y gymuned – y sefydliad yn cydnabod nad oes ganddo gyfrifoldeb i'w randdeiliaid, ond i'r gymdeithas ehangach
  • yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau o amrywiaeth o gefndiroedd cenedlaethol a diwylliannol – y sefydliad yn ceisio datblygu cyfleoedd i gydweithio'n rhyngwladol er mwyn ymestyn ymhellach y posibilrwydd am amrywiaeth
  • yn ceisio ffyrdd o gefnogi grwpiau difreintiedig – bydd y sefydliad yn ceisio penodi a hyfforddi pobl sy'n perthyn i grwpiau difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae'n debyg y byddwch yn sylwi bod Barak yn mynd gam ymhellach na Gundling – sy'n trafod cynhwysiant mewnol – ac mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynhwysiant mewnol.

Er mwyn i arweinydd neu reolwr gyflawni cynhwysiant mewn amgylchedd byd-eang a chythryblus, mae angen iddynt ystyried cynhwysiant mewnol ac allanol. Mae angen iddynt ddod o hyd i ffyrdd ac ymarferion er mwyn derbyn, croesawu a thrin yn gyfartal grwpiau neu unigolion o gefndiroedd gwahanol, ac ar yr un pryd, ymateb i anghenion eu cymuned neu sefydliad.

Os mai cynhwysiant yw'r prif ddiwylliant sy'n cwmpasu amrywiaeth, cydraddoldeb, a nifer o agweddau ar ein bywydau gwaith, yna mae amrywiaeth yn gymysgedd o bobl (Inclusive Employers, 2022). Mae'r adran nesaf yn archwilio amrywiol briodweddau y cymysgedd hwnnw.