Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Gwerthfawrogi amrywiaeth

Yn eu herthygl 2013, ‘Great leaders who make the mix work’, mae Boris Groysberg, ymchwilydd academaidd, a Katherine Connolly, cymrawd ymchwil yn yr uned ymddygiad sefydliadol yn Ysgol Fusnes Harvard, yn trafod pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 11 Amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

Eglura Groysberg a Connolly (2013) y dylid ystyried amrywiaeth fel buddsoddiad yn asedau pwysicaf ar fantolen sefydliad: y bobl. Mae amrywiaeth yn ymwneud â buddsoddi ym mhobl. Mae amrywiaeth yn hollbwysig oherwydd ei fod yn caniatáu i sefydliad barhau'n gystadleuol, ceisio'r syniadau a'r datrysiadau gorau posibl, a pharhau i arloesi a thyfu. Yn fwy na hynny, drwy fanteisio ar amrywiaeth, mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac felly'n fwy parod i gefnogi nodau'r sefydliad, gwasanaethu'r 'cwsmeriaid' (myfyrwyr, mewn cyd-destun sefydliad addysg uwch) a gweithio gyda'i gilydd.

Ar yr un pryd, gall amrywiaeth greu anghytundeb a herio ffordd o feddwl pobl, gan eu harwain at ymholiad dwfn neu dorri tir newydd.

Yn y fideo isod, mae cyfranwyr yn trafod sut i werthfawrogi amrywiaeth a chreu gweithleoedd mwy cynhwysol.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sept107_value_of_difference_promoting_diversity_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 13 Amrywiaeth yn eich gweithle

Timing: Caniatewch tua 45 munud

Gwyliwch a gwrandewch ar y fideos a sain canlynol lle mae cyfranwyr yn rhannu eu profiadau o amrywiaeth yn y gweithle.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep108_diverse_voices_cultural_diversity_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Download this audio clip.Audio player: hyb_4_2022_sep109_diverse_voices_isolation_non_specific_sexuality_compressed.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep110_diverse_voices_lgbt_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ystyriwch eich amgylchedd gwaith presennol (neu flaenorol) a rhestrwch rai enghreifftiau o'r amrywiaeth ymhlith gweithwyr neu fyfyrwyr (neu 'gwsmeriaid' eraill).

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Sut aeth y dasg? Nid oes atebion cywir nac anghywir, ond mae'n bosibl bod eich rhestr yn cynnwys rhai o'r categorïau hyn, neu'r cwbl (Ahmed, 2018):

  • hil ac ethnigrwydd
  • oedran a chenhedlaeth
  • rhywedd a hunaniaeth rhywedd
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • credoau crefyddol ac ysbrydol
  • anabledd a gallu
  • statws a chefndir economaidd-gymdeithasol
  • ffordd o feddwl a phersonoliaeth
  • profiad bywyd personol.

Er efallai na wnaethoch feddwl am y ddau gategori olaf, mae'r amrywiaeth maen nhw'n ei chyflwyno i'r gweithle yn gallu achosi heriau. Er enghraifft, disgrifia Ahmed y posibilrwydd o dîm yn cynnwys personoliaethau mewnblyg yn ei chael hi'n anodd rhoi cyflwyniad misol. Awgryma hefyd y gall profiadau bywyd rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog gyflwyno problemau penodol i'r gweithle.

Drwy ennill dealltwriaeth o'r amrywiaeth hon, dylai eich helpu chi i adnabod nifer o achlysuron pan ydych wedi cael profiad o beth lefel o amrywiaeth yn y gwaith a'r tu hwnt i'r gwaith.