Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.4 Niwroamrywiaeth

Wrth i'r byd drosglwyddo i gynnal cyfarfodydd ar-lein, cafwyd llu o gyngor ar sut mae cynnal cyfarfodydd o'r fath yn effeithiol, megis ei gwneud hi'n ofynnol i gyfranogwyr roi eu camera ymlaen drwy gydol y cyfarfod i ddangos eu bod yn talu sylw. Er bod y bwriad wrth wraidd hyn yn un da, mae pawb yn eich tîm neu adran yn wahanol ac yn meddu ar anghenion gwahanol, felly mae'r hyn sy'n gweithio'n dda i ddau yn gallu bod yn destun gorbryder i eraill. Mae'n bwysig cymryd amser i ddeall yr anghenion amrywiol hynny er mwyn mabwysiadu llesiant yn niwylliant eich gweithle.

Neurodiversity describes the idea that people experience and interact with the world around them in many different ways; there is no one ‘right’ way of thinking, learning, and behaving, and differences are not viewed as deficits.

(Baumer a Frueh, 2021)

Mae'r term 'niwroamrywiol' wedi'i fabwysiadu i gynnwys pobl sydd ag amrywiaeth o gyflyrau niwrolegol a gwahaniaethau dysgu gwahanol – er enghraifft, anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth, dyslecsia a Syndrom down – golyga hynny bod angen iddynt ddatblygu strategaethau ymdopi i weithredu mewn byd sydd wedi'i ddylunio ar gyfer pobl niwronodweddiadol.

Fel arweinydd neu reolwr, gallwch wneud eich gweithle yn fwy cynhwysol drwy wneud y canlynol:

  • beidio â gwneud tybiaethau ynghylch dewisiadau neu anghenion – gofynnwch i'r unigolyn
  • peidio â chysylltu ymddygiad 'camera ymlaen' neu gyswllt llygaid â thalu sylw
  • ystyried recordio cyfarfodydd i bobl eu hadolygu yn ddiweddarach – gyda chaniatâd y rhai sy'n bresennol
  • cyfathrebu'n gynnar – osgoi coegni, mwytheiriau/cyffelybiaethau ac is-destun
  • bod yn sensitif i ofynion synhwyraidd, e.e. yn ymwneud â sain neu symudedd
  • darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam, cryno a chlir ar gyfer tasgau
  • ymatal rhag gwneud newidiadau funud olaf, heb eu hegluro, i gynlluniau neu amserlenni.
  • rhannu agendâu cyfarfodydd cyn iddynt gael eu cynnal a gofyn i gyfranogwyr os ydynt yn teimlo'n gyfforddus neu a fyddai unrhyw addasiadau o fudd iddynt.

Gwyliwch y fideo isod lle mae Becky May yn esbonio ei phrofiad o fod yn niwroamrywiol.

Download this video clip.Video player: hyb_4_2022_sep111_disability_and_access_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).