7.2 Hygyrchedd yn y gwaith
Mae hygyrchedd yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol, felly beth am i ni ddechrau'r adran hon drwy ymchwilio i'ch dealltwriaeth o'r term?
Gweithgaredd 16 Beth mae hygyrchedd yn ei olygu i chi?
Treuliwch ychydig funudau yn nodi'r geiriau yr ydych chi'n eu cysylltu â hygyrchedd yn y gwaith. Ceisiwch feddwl am o leiaf un, ond dim mwy na deg.
Yna dewiswch eich hoff air – yr un sy'n disgrifio orau beth mae hygyrchedd yn ei olygu i chi.
Trafodaeth
Dengys Ffigwr 11 gwmwl geiriau yn cynnwys rhai geiriau cyffredin sy'n ymwneud â hygyrchedd.
A ydych chi'n meddwl am hygyrchedd mewn perthynas â gwaredu rhwystrau corfforol, neu a oeddech yn ei ystyried o ran safonau defnyddioldeb gwefan, er enghraifft? Mewn byd gweithio hybrid, mae'r ddau yn bwysig.
Dyma un diffiniad o hygyrchedd:
Accessibility is about removing barriers from a workplace or work function, so that everyone has equal access to the location, tools and tasks required to perform their role.
Mae gan eich sefydliad ddyletswydd foesegol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio rhag cymryd rhan weithredol ym mywyd gwaith, a dyletswydd gyfreithiol i wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer staff ac ymgeiswyr swyddi anabl (gweithwyr posibl). Gallai archwilio'r dyletswyddau hynny yn fanwl fod yn gam sylweddol ynddo'i hun – y nod yma yw crynhoi agweddau allweddol ar hygyrchedd mewn cyd-destun gweithio hybrid, a'ch darparu chi â dolenni at adnoddau mwy manwl y gallwch eu harchwilio yn eich amser eich hun.