Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.3 Gwneud mannau gweithio ffisegol yn hygyrch

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ddarparwyr addysg, cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau i wneud ‘addasiadau rhesymol’ yn y gweithle er mwyn galluogi pobl anabl i gymryd rhan mewn addysg, i ddefnyddio gwasanaethau a chyflawni eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn y gweithle. Mewn amgylcheddau gwaith hybrid, mae angen ystyried lleoliadau gwaith ar-lein a lleoliadau gwaith ffisegol gyda'i gilydd yn nhermau lleoliadau gwaith ffisegol a rhithwir eich sefydliad a rhai'r cyflogai, a'r gweithgareddau a ellir eu cynnal mewn naill ai amgylchedd ar-lein neu amgylchedd ffisegol, neu'r ddau.

O ran mannau gweithio ffisegol, mae dyluniad neu strwythur adeilad (gan gynnwys lle rhwng desgiau a dodrefn eraill, y ffordd mae ystafelloedd cynadledda wedi'u trefnu, etc.), sut ydych chi'n mynd i mewn iddynt (e.e. parcio ac arwyddion) a'r hyn sydd y tu mewn (e.e. desgiau, cadeiriau, goleuadau, cyfleusterau toiledau) yn rhai enghreifftiau yn unig o ffactorau a all gyflwyno rhwystr ffisegol i unigolyn sydd ag anabledd. Mewn perthynas â gwella llesiant, a oes unrhyw leoedd yn eich adeiladau, neu o'u cwmpas, lle all gweithwyr fynd i ymlacio neu gael eu gwynt atynt?

Os mai campws prifysgol yw eich man gweithio ffisegol, sut fyddech chi'n ei ddisgrifio o ran hygyrchedd? Bydd yr adnodd Scope yn y gweithgaredd nesaf yn eich helpu gyda hyn.

Gweithgaredd 17 Dod i wybod a yw gweithle yn hygyrch

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Mae Scope yn elusen sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl anabl. Darllenwch eu Dod i wybod a yw gweithle yn hygyrch [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] tudalen (Scope, 2022), ac yna ceisiwch ateb y cwestiynau yng nghyd-destun eich gweithle ffisegol (os oes gennych chi un).

Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Sut wnaeth eich gweithle gymharu? A gawsoch chi eich synnu gan unrhyw beth y gofynnodd Scope i chi feddwl amdanynt? Sawl un ohonynt oeddech chi wedi'u hystyried yn flaenorol yn faterion posibl o ran hygyrchedd?

Os ydych chi'n credu bod materion yn bodoli y mae angen ymdrin â nhw yn eich gweithle, mae gan Scope dudalen yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch addasiad rhesymol yn y gwaith.

Gan feddwl am hygyrchedd ehangach campysau prifysgol, mae sefydliad o'r enw AccessAble wedi gweithio gyda thros 100 o brifysgolion i greu'r hyn maen nhw'n ei alw'n 'Ganllaw Mynediad Manwl', sy'n rhoi gwybod i bobl sydd ag anableddau sut beth fydd mynediad pan maent yn dod ar y campws, gan gynnwys llwybrau i'r safleoedd a beth sydd ar gael y tu mewn. Sefydlwyd AccessAble (DisabledGo gynt) yn 2000 gan Dr Gregory Burke, o ganlyniad i'w brofiadau ei hun fel defnyddiwr cadair olwyn a cherddwr anabl. Gallwch fynd i wefan AccessAble i ganfod a yw eich sefydliad Addysg Uwch eich hun wedi'i gynnwys.