1 Y normal newydd

Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi’r cyfle i arbrofi gyda ffyrdd hyblyg o weithio, ac rydym yn dal i fod ar daith i ddeall beth mae hybrid yn ei olygu ac i (ail)ddylunio’r ffyrdd gorau o weithio lle nad yw 9–5 mewn swyddfa yn cael ei ystyried y norm bellach.  

Yn ôl Sage (2022) gweithio hybrid yw’r ffordd arferol newydd ac mae’r pandemig yn gyfrifol am gyflymu’r newid byd-eang mwyaf yn y byd gwaith ers canrif (Gratton, 2022). Mae nifer o newidiadau yn digwydd mewn busnes a thrawsnewid mawr yn mynd rhagddo, er enghraifft mae awtomatiaeth yn newid diwydiannau megis archwilio, fel y gwelir yn Deloitte, ac mae hyn yn newid y rolau sydd eu hangen ar y diwydiannau hynny. Erbyn hyn rydym yn byw yn hirach nag erioed ac yn ymddeol yn hwyrach, ac mae cyfiawnder, amrywiaeth a chynhwysiant yn bwysicach nag erioed. Teg yw dweud nad yw anghenion a dyheadau cenhedlaeth ein rhieni o ran gwaith yn cyd-fynd â’r hyn yr ydym ni ei eisiau gan waith nawr, ac mae gofyn i fusnesau ymateb yn gyflym i hyn. 

Yn ôl Gartner (ac fel y gwelir yn Ffigwr 1 isod), mae 82% o arweinwyr cwmnïau yn bwriadu parhau i gynnig gweithio o bell ar ôl y pandemig.

Siart bar llorweddol gyda’r teitl Canran yn Dewis; Caniateir Sawl Ymateb. Gan ddechrau ar y brig a gweithio i lawr, mae’r bariau a’r canrannau fel a ganlyn; Yn caniatáu i gyflogeion weithio o bell peth o’r amser, 82%; Yn caniatáu i gyflogeion weithio o bell drwy’r amser, 47%; Dyddiau hyblyg, 43%; Oriau hyblyg, 42%; Wythnosau gwaith byrrach (amserlen 4-10), 15%; Arall, 5%; Dim o’r uchod, 6%. Ar echel lorweddol y siart, gweler 0%, 50% a 100% wedi’u marcio ar y raddfa.
Ffigur 1 Canran o arweinwyr cwmnïau yn bwriadu parhau i gynnig gweithio o bell ar ôl COVID-19.

Wedi dweud hynny, cyhoeddwyd adroddiad ganCisco/Webexyn 2021 a ddatganodd bod oes y gweithiwr hybrid wedi ein cyrraedd (Dimensional Research, 2021) a bod 68% o’r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg eisoes yn gweithio gartref ac o’r swyddfa. Nid yw’n syndod bod cynifer o bobl wedi dweud y byddant yn gadael sefydliad pe na fyddai opsiwn ar gyfer gweithio hybrid. 

Wedi dweud hynny, adnabu’r adroddiad bod pobl yn bryderus ynghylch adnoddau a thimau digidol, bod yr angen i gydweithio’n effeithiol yn dal i fod yn allweddol, a bod angen datrysiadau cydweithio uwch. 

Rydym yn yr awr dyngedfennol – a ydym yn dychwelyd i’r hen ffyrdd o weithio, neu a ydym yn manteisio ar y cyfle hwn i drawsnewid ac ailddylunio ein hamgylchedd gwaith? Bydd y cwrs hwn yn eich arwain drwy becyn adnoddau o bosibiliadau, ond nid yw’n cynnig ‘un datrysiad i bawb’. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei droedio, fel arweinydd mae angen i chi feddu ar wybodaeth yn eich cylch chi eich hunan, y gallu i fagu empathi a dealltwriaeth gyda’ch timau a datblygu eu galluoedd digidol. Bydd angen i chi ddylunio, profi, ailadrodd a dal ati i greu ffyrdd newydd o weithio sy’n addas i’ch cyd-destun a’ch rhanddeiliaid. 

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i’ch annog chi i ystyried pwy ydych chi fel arweinydd gan weithio gyda thimau hybrid, a sut ydych yn gweithio gyda’r timau hynny. Cewch gyfleoedd drwy gydol y cwrs i fyfyrio a datblygu camau gweithredu i’ch galluogi chi i gryfhau eich sgiliau fel arweinydd hybrid. 

Gweithgaredd 1 Gweithio hybrid yn 2022

Gwyliwch y fideo What hybrid working will look like in 2022 a myfyriwch ar unrhyw feddyliau neu bryderon sydd gennych chi fel arweinydd yn ymwneud â gweithio hybrid gyda’ch tîm/timau.

Sut mae dewisiadau merched a phobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig a nodwyd yn y fideo yn cyd-fynd ag amrywiaeth eich sefydliad?

Sut mae ailddylunio ffyrdd o weithio i gynnwys opsiynau hybrid yn gwneud i chi deimlo go iawn? A ydych chi’n ymwybodol eich bod yn dangos tuedd y naill ffordd neu’r llall?

Cewch gyfle i ail-ymweld â’r myfyrdodau cychwynnol hyn yn hwyrach ymlaen yn y cwrs, i weld a yw eich safbwyntiau wedi newid.

Os hoffech chi, ychwanegwch eich nodiadau yn y blwch testun isod.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Cyhoeddwyd y fideo hwn am y tro cyntaf fis Rhagfyr 2021. Pa mor fanwl gywir yw ei ragfynegiadau yn eich sefydliad – neu’ch sector yn fwy eang?