Long description

Enghraifft ymarferol o ddiagram Ffenestr Johari. Fel Ffigwr 5, mae pedwar panel wedi’u trefnu mewn sgwâr dau wrth ddau ond maen nhw’n feintiau gwahanol. Ar draws brig y diagram mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Gofyn’ yn mynd o’r chwith i’r dde; uwch ben hwnnw mae’r geiriau Hysbys i Fi Fy Hun (ar y chwith) ac Anhysbys i Fi Fy Hun (ar y dde). I’r chwith o’r diagram mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Dweud’ sy’n pwyntio o’r brig i’r gwaelod. Ym mhen uchaf hwnnw mae’r geiriau Hysbys i Eraill; ar waelod y saeth nodir Anhysbys i Eraill. Mae Paen 1 ('Ardal Agored', cornel chwith uchaf) yn fwy na’r holl ffenestri eraill, ac yn sgwâr. Mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Adborth’ yn pwyntio i’r dde o’r paen hwn i mewn i Baen 2 ('Ardal ddall', cornel dde uchaf). Mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Darganfod ar y Cyd’ yn pwyntio ar draws ac am i lawr ac i’r chwith o Baen 1 i Baen 4 ('Ardal Anhysbys'), sy’n sgwâr bach. Mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Hunan-ddatgeliad’ yn pwyntio am i lawr ar ochr chwith Paen 1 i Baen 3 ('Ardal Cudd'). Mae arwydd wedi’i labelu’n ‘Hunan-ddarganfod’ yn pwyntio i’r dde i Baen 4 ('Ardal Anhysbys'). Mae Paen 3 a Phaen 4 yn betryal ac o faint gweddol gyfartal, yn llai na Phaen 1 ond yn fwy na Phaen 4.