Transcript

NATASHA DAVIES
Mae'n anochel bod ffyrdd newydd o weithio yn mynd i olygu ffyrdd newydd o arwain a rheoli timau a sefydliadau, sy'n amlwg yn mynd i gael effaith ar y sgiliau a'r priodweddau sydd eu hangen gan ein harweinwyr wrth i ni symud ymlaen.
Yn wir, fe wnaethon ni rywfaint o ymchwil yn ystod y pandemig a'n helpodd i nodi nifer o feysydd lle y gall fod angen hyfforddiant. Ac roedd yn ymwneud â phethau fel rheoli timau rhithwir, hunanymwybyddiaeth, sut y gallai ffyrdd gwahanol o arwain effeithio neu weithio'n wahanol mewn byd gwaith hybrid a gwasgaredig, hyfforddiant ar wydnwch, cymell aelodau o'r tîm, ac roedd rheoli llesiant yn faes arbennig o bwysig. A hyfforddiant ar rai o'r sgiliau meddalach rydym yn credu y gallant fod yn bwysig iawn.
Felly rydym yn blaenoriaethu pethau fel llesiant, ond hefyd yn meddwl am gyfathrebu, ac empathi, a'r math yna o beth. Drwy'r un ymchwil, fe wnaethon ni hefyd nodi nifer o briodweddau yr oedd ein rhanddeiliaid yn teimlo y bydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr. Yn sicr, bydd angen arweinwyr sy'n cyfathrebu'n effeithiol, sy'n gallu gwrando, sy'n blaenoriaethu cyswllt rheolaidd â staff ac sy'n croesawu ffyrdd newydd o gyfathrebu mewn byd rhithwir a digidol. Arweinwyr empathetig sy'n deall sut y gallai ffyrdd gwahanol o weithio a newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithio, effeithio ar unigolion mewn ffyrdd gwahanol.
Arweinwyr a all fod yn fodelau rôl, sy'n nodi eu disgwyliadau'n glir ac nad ydynt yn gorweithio'n rheolaidd eu hunain, gan fod gorweithio yn risg go iawn mewn byd gwaith mwy gwasgaredig. Arweinwyr sy'n arwain drwy esiampl ac yn rheoli nhw eu hunain a'r bobl ar eu timau. A hefyd arweinwyr sydd â deallusrwydd emosiynol, sy'n agored ac yn dryloyw, ac sy'n weladwy ym mhob rhan o'r sefydliad ac, rwy'n credu, arweinwyr sy'n cydnabod y bydd yn rhaid i ni fod yn eithaf rhagweithiol yn y dyfodol o ran pethau sydd efallai'n digwydd yn eithaf naturiol drwy fod yn berson gweladwy, neu'n hawdd mynd ato, neu'n hawdd cysylltu ag ef, pan rydym oll yn gweithio yn yr un lleoliad ffisegol.
Ac mae hefyd yn bwysig cofio, yn y lle hwn, mae'n lle eithaf deinamig. Mae hyn yn rhywbeth – nid yw'r ffyrdd newydd o weithio rydym yn eu rhoi ar waith nawr yn mynd i aros yn sefydlog, rwy'n credu ein bod yn mynd i fod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o drefnu ein gweithleoedd yn gyson, yn enwedig pan fydd technoleg newydd ar gael a all hwyluso'r gwaith cydweithredol hwnnw yr ydym wedi dibynnu ar ei wneud wyneb yn wyneb efallai yn y gorffennol. Ac felly rwy'n credu y bydd angen arweinwyr arnom sy'n barod i ddysgu, addasu a chroesawu ffyrdd newydd o wneud pethau wrth i ni symud ymlaen.
Rwy'n credu bod llawer o bethau a all gael eu gwneud er mwyn helpu arweinwyr i fod yn fwy empathetig. Mae'n anochel y bydd hyfforddiant yn rhan o hynny. Ond rwy'n credu mai un peth nad yw'n cael ei grybwyll yn y sgwrs hon weithiau o bosibl yw'r ffaith bod empathi yn gofyn am hunanfyfyrio, ac mae angen amser i hunanfyfyrio. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, o fewn sefydliadau, ein bod yn creu lle ac amser i arweinwyr allu myfyrio ar eu harddull arwain a'u sgiliau arwain a datblygu eu sgiliau arwain. Ac fel arweinydd, gall hynny fod yn beth anodd ei wneud weithiau, gan fy mod i mor brysur yn gwneud fy ngwaith bob dydd, mae'n hawdd anghofio bod bod yn arweinydd yn rhan bwysig o'm gwaith bob dydd hefyd, a bod angen i fi fod yn datblygu fy sgiliau arwain hefyd.
Ac felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig creu lleoedd o fewn sefydliad er mwyn i arweinwyr allu defnyddio'r amser hwnnw i hunanfyfyrio ac i ddatblygu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu ein tîm arwain. A mynd ati i wneud hynny ar y cyd, fwy na thebyg, fel bod arweinwyr yn gallu dysgu oddi wrth arweinwyr eraill yn y sefydliad. Rwy'n credu ei bod yn eithaf anodd anfon rhywun i ffwrdd gyda'r cyfarwyddyd, ‘mae angen i chi fod yn fwy empathetig’, gan y bydd hynny'n edrych yn wahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol.
Felly, ie, mae angen buddsoddi mewn cyfleoedd i'ch tîm arwain ddatblygu ar y cyd, ond hefyd i gael rhywfaint o gymorth gan gymheiriaid, i ddysgu am arddulliau a dulliau newydd, yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, yr hyn sydd wedi galluogi pobl i gysylltu â'u staff, a deall sut mae newidiadau i'w byd gwaith yn effeithio arnynt. Oherwydd, pan rydyn ni'n meddwl am reoli'r newid hwn mewn ffyrdd o weithio – ydy, mae'n bwysig meddwl am y ffyrdd o weithio eu hunain, ond gall newid godi ofn ar bobl hefyd. Ac i rai, mae'r ffordd maen nhw'n gweithio yn mynd i newid yn sylweddol. Felly rwy'n credu ei fod yn ymwneud â – sicrhau bod ein harweinwyr yn gallu deall sut y gall newid wneud i bobl deimlo'n ansicr, a sut y gall hynny effeithio arnynt hefyd o ddydd i ddydd.