Transcript
JACOB MORGAN:
Bydd rhai pobl yn dod i mewn i'r swyddfa ond ni fydd eraill. Mae'n dibynnu ar y gwaith rydych chi'n ei wneud. Os ydych chi'n gweithio mewn cyfleuster gweithgynhyrchu, yn gweithio ym maes manwerthu, os ydych yn gweithio mewn swydd benodol lle mae angen i chi weld eich cwsmeriaid, mae'n ddigon posibl na fyddwch yn gweithio mewn byd rhithwir. Rydych yn mynd i fod yn gweithio wyneb yn wyneb.
Ond os ydych chi'n gwneud pethau lle nad oes angen hynny, wedyn wrth gwrs, gallech gael rhwydd hynt i weithio mewn byd rhithwir. Felly, mae'n dibynnu mewn gwirionedd ar ba swyddogaeth sydd gennych. Ond mae angen i ni gofio nad yw'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd rhithwir er lles bod mewn amgylchedd rhithwir. Os ydy'r rôl rydych yn ei chyflawni, os nad yw eich swydd yn gydnaws â gweithio mewn byd rhithwir, yna fyddwch chi ddim yn gweithio mewn byd rhithwir. Dyna sut mae pethau'n gweithio.
Felly mae yna ryw gamsyniad ei fod yn golygu, o, gadewch i ni weithio'n rhithwir oherwydd bod modd i ni wneud hynny. Nac ydy. Rydych chi'n dal i fod yn rhan o fusnes yn y pen draw. Yn y pen draw, rydych chi'n dal i fod yn rhan o dîm, yn rhan o sefydliad a bydd dal gennych rolau y bydd angen i chi eu diwallu. Mae dal gennych swydd y mae angen i chi ei gwneud.
Ac os ydych yn arweinwyr ac os oes data a thystiolaeth a rhywbeth sy'n cefnogi'r farn nad ydych chi mor effeithiol mewn byd rhithwir yna bydd y sefydliad yn gofyn i chi gyflawni'r pethau rydych chi'n eu gwneud mewn person a dod i mewn i'r swyddfa.
Fodd bynnag, rydw i o'r farn erbyn hyn fod lle i fod yn hyblyg oherwydd gallai arweinydd ddweud, hei, edrych, rwy'n deall fod gennych rai cymheiriaid ac rydych chi'n gwybod bod rhai gweithwyr yn y cwmni hwn yn gweithio'n rhithwir. A gallech ystyried ei bod hi ychydig yn annheg bod angen i chi ddod i mewn i'r swyddfa. Dyma beth y gallwn ni ei wneud.
Beth am i ni weld pa bethau y mae angen i chi eu cyflawni sy'n gofyn i chi ddod i mewn a pha bethau y gallwch eu cyflawni mewn byd rhithwir. Mewn geiriau eraill, os ydych chi'n cyfarfod â chwsmeriaid, os byddwch chi'n rhan o unrhyw fath o gyfarfodydd gwerthu, pethau felly, hoffwn pe byddwch yn dod i mewn. Ond os oes gennych ddiwrnod neu sawl diwrnod yn ystod yr wythnos lle nad ydych yn cyflawni'r swyddogaethau hynny a'ch bod yn gwneud pethau eraill, mae'n gwbl resymol i chi weithio gartref.
Dyna lle mae hyblygrwydd yn bwysig. Ac rydw i o'r farn mai rhan fawr o'r hyn sy'n ofynnol yw cael y deialog hwnnw rhwng arweinwyr a rhwng timau. Rwy'n credu y byddai ychydig yn ffôl i mi ddweud bod rhaid i chi ddod i mewn i'r swyddfa'n llawn amser. Wel, beth os na fydd gennyf unrhyw gyfarfodydd y diwrnod hwnnw? Beth os mai'r cyfan y byddaf yn ei wneud ar y diwrnod penodol hwnnw fydd ateb swp o negeseuon e-bost neu weithio ar gyflwyniad?
Felly, bydd angen cael y deialog hwnnw, yr hyblygrwydd hwnnw, y sgwrs ddwy ffordd agored honno rhwng arweinwyr a gweithwyr i weld beth sy'n gwneud synnwyr neu beidio. Hynny yw, dychwelyd i thema hyblygrwydd a gwaith hybrid unwaith eto. Dydw i ddim yn or hoff o osodiadau cyffredinol, o unrhyw fath o reolau cyffredinol, mae'n rhaid i bawb wneud hyn, rhaid i bawb wneud y llall. Mae angen iddo ymwneud mwy â sgwrsio mewn gwirionedd.
Rwy'n credu bod rhyw fath o gydbwysedd yn bodoli lle mae sefydliadau'n ceisio ymdrechu rhwng cyfleustra a'r hyn sy'n effeithiol i'r busnes oherwydd bod rhywbeth yn gyfleus – hynny yw, mae gen i lawer o ffrindiau, er enghraifft, sy'n gweithio mewn amgylchedd rhithwir ac mae hynny'n gyfleus. Does dim rhaid i chi yrru. Mae'n gyfleus ar gyfer eich plant. Rydych chi'n agos at eich oergell, rydw i'n bersonol wrth fy modd pan fyddaf yn agos at fy oergell. Mae gen i ddau gi gartref. Rwy'n dwlu ar dreulio amser gyda fy nghŵn. Rwy'n hoffi mynd i gerdded yn ystod y dydd.
Mae'n gyfleus. Ac mae'n gyfleus i lawer o bobl. Ond ai dyna yw'r peth gorau ar gyfer y busnes hefyd? A dyna'r math o gydbwysedd y mae angen i ni ganolbwyntio arno drwy'r amser. Mewn geiriau eraill, nid yw'n gallu bod er mwyn cyfleustra pobl yn unig. Nid yw'n gallu ymwneud â'r hyn sy'n dda i'r busnes yn unig.
Mae angen cydbwysedd rhwng y ddau. Felly sut mae dod o hyd i'r ateb i'r hyn sy'n gyfleus i weithwyr a hefyd yn dda i'r busnes? A hynny, yn fy marn i, yw'r deialog y mae angen i ni dreulio mwy o amser yn ei gael, ble mae'r gorgyffwrdd rhwng y ddau?