Transcript
NICK BARRATT
Rydym wedi penderfynu codi ambell i gartref arddangos ar draws Y Brifysgol Agored. Mae gennym rai yn Milton Keynes ac un arall yng Nghymru gyda rhagor ar y gweill. Diben hyn yw rhoi bywyd i rywfaint o'r profion a'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud. Fel y mae pawb yn ei wybod, roedd y pandemig ychydig yn ddi-drefn o ran cael pobl oddi ar y safle yn gyflym iawn. Ond dros gyfnod hwy, ceisio meddwl am sut rydym yn mynd i weithio yn wahanol. Dal ymlaen i rai o'r darnau o weithio ar-lein sy'n amlwg yn gweithio'n dda, ond ceisio meddwl am beth sydd ei angen ar rai timau ac felly crëwyd y syniad o gartrefi arddangos.
Felly arbrawf ydyw i raddau. Mae rhai ardaloedd wedi mynd yn gyntaf er mwyn gweld sut bydd amgylcheddau gwahanol yn cefnogi ffyrdd gwahanol o weithio. Felly mae gennym rai o'r gweithgareddau desg-seiliedig traddodiadol. Ond mae gennym ragor o ddesgiau y mae modd cadw lle arnynt. Felly os byddwch chi am alw i mewn am ddiwrnod neu ddau i fod o amgylch cydweithwyr, gallwch wneud hynny. Ond ceir llawer mwy o le cyfarfod cynllun agored hefyd, ceir rhywfaint o le eistedd meddal er mwyn i chi allu cael sgwrs fwy hamddenol, rhai bythau seinglos os oes angen cyfarfodydd arnoch. Felly rydym yn edrych ar ystod o amgylcheddau gwahanol i weld sut y gall hyn ddylanwadu'n ddelfrydol ar dimau eraill i feddwl am eu ffyrdd o weithio. Felly, byddant yn ofodau hylifol. Byddwn yn dysgu drwy wylio sut mae pobl yn rhyngweithio â rhai o'r gwrthrychau a'r gofodau, sut maent yn symud pethau o amgylch i weddu'n well i'w hamgylcheddau gwaith.
Un o'r pethau rydym wedi sylwi arnynt dros y ddwy flynedd diwethaf, dyweder, yw bod pobl yn gweld eisiau dod at ei gilydd fel pobl. Nid o reidrwydd i gynnal cyfarfodydd, mae gennym Teams a Zoom a phethau eraill ar gyfer cyfarfodydd rhyngweithredol. Nid o reidrwydd ychwaith i wneud y peth rydym yn ei wneud i greu cynnwys yn ein cyfrifiaduron, ond i weithio'n gymdeithasol. A dyna lle rydym yn aml yn cael syniadau gwych, trafodaethau, sgyrsiau cymdeithasol, a ddylai fod yn rhan o'r hyn sy'n ein dwyn ynghyd ac rydym wedi gweld eisiau hynny. Felly, bydd gwybod pryd bydd cydweithwyr gyda'i gilydd yn rhoi mwy o gymhelliant i ddod i mewn, ond mae angen i ni ddylunio lleoedd a fydd yn gwneud hwnnw'n brofiad gwirioneddol groesawgar. Felly, mae'n wych gweld pobl yn dechrau meddwl am weithdai neu sesiynau hyfforddi neu sesiynau strategaeth lle rydym yn dod at ein gilydd, rydym yn trafod syniadau, y cyfan y mae rheolwyr yn ei siarad. Yr hyn rydym yn ei wneud yw siarad â'n gilydd mewn ffordd wahanol iawn. Felly, trwy greu gofod gwahanol, gallwn weld beth sy'n gweithio orau. Ac os yw'n gweithio'n dda, gwych, byddwn yn parhau i wneud hynny, os na fydd yn gweithio, byddwn yn stopio. Ac mae hynny i gyd yn rhan o ffordd wahanol o waith, arbrofi. Ond rwy'n credu mai un o'r pryderon mawr yw i ni dreulio dwy flynedd yn gweithio mewn amgylchedd anghysbell gan mwyaf, ac mae hynny wedi effeithio'n wirioneddol ar iechyd a llesiant meddyliol pobl..
Ac felly, rhan o adeiladu gofod newydd yw annog pobl ei bod hi'n ddiogel i ddod yn ôl, ac mewn gwirionedd, gallwch fwynhau eich hun, cael hwyl yn y gwaith. Meddyliwch hynny, bobol bach, ond os ydym yn mwynhau, rydym yn aml yn llawer mwy creadigol o'r herwydd. Felly dyna'n rhannol pam yr ydym yn ceisio gwneud hyn. Rhywbeth y mae angen i ni edrych arno fel Y Brifysgol Agored, ac mewn sawl ffordd, y mae angen i bob sefydliad edrych arno, yw beth yw'r lefel cyfarpar sylfaenol, swyddfa mewn blwch os hoffech chi, y dylid ei ddarparu, neu a ddylai fod ar gael i gyflogeion, er mwyn ei wneud yn amgylchedd gweithio addas? Nawr, yn yr hen ddyddiau cyn y pandemig, byddech chi'n dod i mewn i'r gwaith, byddech chi'n cael eich desg, eich gliniadur, eich sgriniau. Byddech chi'n cael asesiad diogelwch i wneud yn siŵr eich bod yn gweithio'n ddiogel. Byddai pawb yn gwybod ble roedd yr allanfeydd tân, byddai marsialiaid tân yno, ac wrth gwrs, mae angen i ni gadw rhywfaint o hynny i fynd wrth i ni ddechrau symud i gydbwysedd mwy hybrid rhwng bod ar y safle a bod i ffwrdd o'r safle. Ond wrth gwrs, beth am y bobl a gafodd eu gorfodi i fynd gartref a gweithio ac nad oedd ganddynt y cyfarpar cywir o bosibl? Neu os oeddent yn byw mewn lle cyfyng? Mae yna anghydraddoldeb, annhegwch os hoffech chi, y gallem fod wedi'i ymgorffori. Felly, mae angen i ni fod yn deg, mae angen i ni fod yn gyfartal ac mae angen i ni roi diogelwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Felly, bydd yn gofyn am set newydd o sgiliau i bobl sy'n cofrestru â sefydliad, i reolwyr llinell ac i bobl yng ngofal iechyd a diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr nad yw rhywun yn cael trafferth ymdopi gartref, neu a allai fod yn well iddynt gael y cymorth y mae ei angen arnynt mewn amgylchedd ar y safle oherwydd, fel arall, byddwn yn creu mwy o broblemau.
Felly, mae cysylltu i weld sut mae'r staff yn bwysig iawn. Oes gennych yr offer cywir ar gyfer eich swydd? Ydy'r cartref, os dyna yw eu dewis lle gwaith neu lle gwaith angenrheidiol, yn addas ar gyfer y gwaith hwnnw? Ac os nad ydyw, pa ddewisiadau eraill allwn ni eu cynnig? Yn hynny o beth, gallwn ddechrau disgrifio sut mae'r pecyn sylfaenol y mae gan bawb hawl iddo yn edrych er mwyn iddynt allu gwneud y swydd hyd eithaf eu gallu. Rydym wedi ceisio meddwl am gynifer o amgylcheddau gwahanol â phosibl yn ein cartrefi arddangos, oherwydd dydyn ni ddim wir yn gwybod sut bydd pobl yn eu defnyddio. Rydym wedi darllen cymaint o adborth ag y gallwn ni o'n hunedau ac wedi cael ymdeimlad o'r hyn y mae angen iddo aros yr un peth, beth allwn ni ei gyflwyno? Felly byddwch yn gweld desgiau mainc gyda gorsafoedd docio a sgriniau. Gallwch felly gadw lle am ddesg, neu os ydych chi ar y safle bron drwy'r amser, caiff desg ei dyrannu i chi. Bydd yn edrych yn gyfarwydd ac yr un peth fwy neu lai. Ond byddwch yn dechrau gweld mwy o ofod cyfarfod cynllun agored. Felly bydd byrddau, lle gallwch gael rhywfaint o amser gyda chydweithwyr a chael sgwrs. Bydd ardaloedd tawel er mwyn i chi beidio â chael eich tarfu arnoch neu bydd y lefelau sŵn yn mynd yn ormod. Fe welwch rywfaint o gadeiriau meddwl, yn aml gyda sgriniau o'u hamgylch.
Efallai y gwelwch rywbeth sy'n rhyw fath o hybrid rhwng desg safonol a rhywle lle gallwch eistedd, meddwl a gwneud ychydig o deipio ar eich gliniadur, beth bynnag yr hoffech chi ei wneud. Ac yna ceir bythau sydd bron fel bythau myfyrdod, lle gallwch gael rhywfaint o amser tawel iawn i hel eich meddyliau a chael llonydd am ennyd. Ceir ystafelloedd lle gallwch fynd iddynt sydd â sachau eistedd a chadeiriau cyfforddus os oes angen i chi ymlacio am ychydig, myfyrio a meddwl. Os oes gennych broblem benodol rydych yn gweithio drwyddi ac nad oes angen i chi fod o amgylch pobl eraill, mae sawl math o le gwahanol y byddwn yn eu hadeiladu, a fydd, gobeithio, yn gwella profiadau pobl o fod ar y safle. Ond yr unig ffordd o wybod beth sy'n gweithio yw os bydd pobl yn dod i'w defnyddio a rhoi gwybod i ni a newid y lleoedd a'u gwneud nhw'n ymarferol iddynt hwy.
Un o'r pethau rydw i wedi'i fwynhau fwyaf am ddod yn ôl a threulio amser gyda phobl yw ei fod yn ysgogi'r creadigrwydd mewn ffyrdd na allwch ei wneud gyda sgrin. Rydym wedi rhoi cynnig ar dechnegau amrywiol. Er enghraifft, cawsom arbrawf gyda Miro. Byrddau Kanban, sy'n gweithio'n eithaf da ar-lein. Ond mewn gwirionedd, yr hen fwrdd gwyn hen ffasiwn, neu waliau gwydn neu bethau lle gallwch nodi'ch syniadau a chwarae o gwmpas â nhw, ac y gall pobl ychwanegu atynt, a hynny'n dangos beth rydym wedi gweld ei eisiau.
A hyd yn oed gyda rhai o'r adnoddau ar-lein a chynnal amryw sesiynau strategaeth neu gynllunio ar-lein, rydych chi'n cael allbynnau da, ond rydym wedi cael mwy wedi'i wneud mewn un prynhawn gyda bwrdd gwyn, grŵp o bobl a llawer o gaffein, helpodd hynny llawer, dim ond i gysylltu mewn ffyrdd nad oeddem yn ei wneud cyn hynny. Ailadrodd syniadau, datblygu syniadau a gosod pethau mewn trefn resymegol. Efallai mai dyna'r ffordd y mae fy ymennydd innau'n gweithio, ond roedd pawb i weld yn cael budd go iawn ohono. Mae hynny felly yn rhywbeth rydym yn ei archwilio eto, adeiladu'r lleoedd creadigol hynny, nid dim ond i weithio ond er mwyn bod yn greadigol unwaith eto.