Transcript
JACOB MORGAN:
Nid un o'r heriau mawr i lawer o arweinwyr yw arwain mewn byd o bell yn unig, ond meddwl am sut mae arweinyddiaeth yn newid. Dyna oedd un o'r themâu mawr mewn gwirionedd - a'r themâu a ystyriwyd gennyf yn fy llyfr diweddaraf, The Future Leader.
Ac ar gyfer hwnnw, cynhaliais gyfweliadau â 140 o Brif Swyddogion Gweithredol ym mhedwar ban byd. Ac un o'r pethau yr oeddwn yn ceisio cael ateb iddo oedd sut mae arweinyddiaeth yn newid? Ac o wneud y cyfweliadau hyn, nodais set benodol iawn o bedwar meddylfryd a phum set sgiliau y mae angen i arweinwyr cyfredol a darpar arweinwyr eu hymarfer.
Ac mae'r rhain yn cynnwys pethau fel meddu ar feddylfryd y dinesydd byd-eang, sy'n golygu y gallwch feddwl am y darlun mawr a chael pobl sy'n wahanol i chi o'ch amgylch. Mae'n golygu bod gennych feddylfryd yr archwiliwr, sy'n ymwneud â chwilfrydedd, meddu ar feddylfryd twf, bod yn heini a sionc.
Roedd hefyd yn cynnwys sgiliau fel y person ifanc technolegol, lle rydych yn cofleidio technoleg. Dydych chi ddim yn rhedeg oddi wrtho. Dawn y dyfodolydd – lle rydych yn meddwl o ran senarios a phosibiliadau yn hytrach na dewis un llwybr a mynd ar ei drywydd. Dawn yr hyfforddwr – lle rydych yn credu mai eich rôl chi fel arweinydd yw helpu i wneud pobl eraill yn fwy llwyddiannus na chi.
Rhan o'r her y mae llawer o arweinwyr yn ei hwynebu nawr yw deall bod eu rôl wedi newid pwy ydyn nhw. Mae eu pwrpas fel arweinwyr wedi newid. Ers blynyddoedd lawer iawn, roeddech yn gallu cael rôl arwain heb orfod ymarfer unrhyw feddylfryd na set sgiliau.
Os oeddech yn aros yn y cwmni am amser hir, os oeddech yn denu llawer o arian, os oeddech yn dda am wleidyddiaeth a biwrocratiaeth swyddfa, os oeddech yn adnabod rhywun mewn swydd uwch, mae'n debygol iawn y byddech wedi cael rôl arwain yn y pen draw.
A'r peth mawr rwy'n ei glywed gan lawer o Brif Swyddogion Gweithredol rwy'n cyfweld â nhw nawr yw na fydd hynny'n gweithio mwyach gan fod sifft gyffredinol, rwy'n credu mai sifft mewn ymwybyddiaeth ydyw i sefydliadau, arweinwyr a chyflogeion lle maent yn cydnabod bod angen i chi nawr fod yn deilwng o'r swydd arweinyddiaeth honno. Dydych chi ddim yn mynd i'w chael hi'n syml oherwydd y bylchau hyn roeddech yn gallu symud o'u cwmpas.
Rydw i wir yn credu felly bod arweinwyr yn mynd trwy drawsnewid diddorol lle mae'n rhaid iddynt ddod yn arweinwyr. Ac mae rhan o hynny'n golygu deall a dysgu sut i arwain mewn byd rhithwir, sy'n golygu nad micro-reoli ydych chi. Allwch chi ddim micro-reoli mewn byd rhithwir. Rydych yn mynd i yrru pobl yn wallgof.
Mae'n golygu hefyd y bydd angen i chi ymarfer empathi mewn byd rhithwir hyd yn oed. Pan fyddwch yn ymuno â galwad cynadledda, pan fyddwch yn ymuno â galwad gyda'ch tîm, dydych chi ddim yn dechrau'n syth trwy ddweud, hei, sut mae'r ffigurau gwerthiant? Sut wyt ti? Sut mae'r teulu? Ydych chi'n iawn? Gallu dod â'r ochr ddynol i mewn, hyd yn oed mewn amgylchedd rhithwir. Mae'r pethau hynny i gyd yn bwysig iawn, iawn i arweinwyr.
Mae gofyn am gryn ymddiriedaeth hefyd oherwydd dydych chi ddim yn gweld pobl yn gweithio. Dydych chi ddim mewn swyddfa. Felly mae yna lefel o ymddiriedaeth ar ran yr arweinwyr. Ceir lefel o ymddiriedaeth ar ran y cyflogeion.
Ac rwy'n credu hefyd fod yna lefel gynyddol o atebolrwydd sy'n golygu os ydych chi mewn swyddfa, mae'n hawdd iawn oherwydd gallwch gael arweinydd sy'n cadw llygad arnoch drwy'r amser. Hei, ar beth rydych chi'n gweithio? Sut rydych yn ei wneud? Bla, bla, bla.
Os ydych chi mewn byd rhithwir ac nad oes gennych rywun yn agos atoch yn gyson, bydd angen i chi fod yn atebol iawn eich hun er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cymell eich hun, yn gwthio eich hun, yn cyflawni pethau, yn cynhyrchu gwaith o ansawdd da oherwydd mae'n bosibl na fydd rhywun yn cadw golwg arnoch yn gyson. Felly mae llawer o elfennau'n rhan ohono. Ond gan mwyaf, rwy'n credu bod angen i arweinwyr dderbyn ein bod yn byw mewn byd hybrid. Rydym yn gweithio mewn byd hybrid. Ac mae hynny'n golygu bod angen i ni newid y ffordd rydym yn ystyried arweinyddiaeth hefyd.