Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Sut gyrrhaeddon ni yma?

Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, roedd nifer o sefydliadau yn araf i addasu i’r gofynion newidiol yn ymwneud â gweithio hybrid. Yn ôl astudiaeth yn TechRadar (2022) mae nifer o gwmnïau yn dal i fod yn yr UDA nad oes ganddynt unrhyw strategaethau gweithio hybrid ar waith.

Dywedodd Uwch Dirprwy-lywydd marchnata yn AT&T Business, Alicia Dietsch:

There’s been a non-reversible shift in the way business is done thanks to the constraints of COVID-19. It’s clear that a successful talent program now requires a hybrid work policy, but that policy needs to be supported by a strategic tech-first cultural reset, to ensure business growth and competition. Firms need to ask themselves if they have the in-house expertise to achieve this, or whether it’s now time to go beyond a partner in remote infrastructure rollout to a partner in tech-first remote business strategy.

(Spadafora, 2022)

Cyn y pandemig, roedd gan nifer o gyflogeion a chyflogwyr arferion drwg yn ymwneud â gwaith, megis trefnu gormod o gyfarfodydd, dioddef amseroedd cymudo hir, diffyg cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a oedd yn caniatáu iddynt dreulio digon o amser gyda’u hanwyliaid, a theimlo bod rhaid iddynt fod yn barod ar gyfer gwaith drwy’r adeg. Roedd gan weithwyr restr hir o gwynion yr oeddent eisiau eu datrys ac roeddent yn gweld yr effaith gynyddol ar iechyd meddwl a’r amgylchedd drwy gynyddu’r ôl-troed carbon fel rhybuddion. Pwysleisiwyd yr arferion drwg hynny gan y pandemig ac agorwyd llygaid.

Yn ôl Gratton (2022), caniataodd y pandemig ni i weld bywydau gwaith a domestig ein gilydd am y tro cyntaf, a chysylltu ar lefel nad ydym erioed wedi cysylltu arni o’r blaen. Dechreuasom fabwysiadu arferion newydd a thrafod sut allwn gwblhau gwaith heb fod mewn swyddfa. Roedd hefyd yn wers i’r arweinwyr o’n cwmpas a oedd yn gorfod newid, addasu a throsglwyddo popeth ar-lein yn gyflym, yn llythrennol dros nos yn rhai achosion. Y cwestiwn nawr yw a fydd arweinwyr yn parhau i fod yn eofn, yn ddewr, a gweithio gyda chyflogeion i ailfeddwl ac ailddylunio’r ffyrdd o weithio neu a fyddant yn dychwelyd i’r hen arferion ynghylch presenoldeb a dychwelyd i swyddfeydd?

Mae hi’n adeg dyngedfennol: mae gennym gyfle i feddwl ac ailddylunio sut mae gwaith yn cael ei gwblhau, a rhoi’r gorau i ystyried gweithio gartref a gweithio hybrid fel manteision i’r cyflogai.