Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Ein ffordd o weithio nawr: yn fwy na newid lleoliad yn unig

Fel y nodir gan Dyer a Shepard (2021), mae gweithio hybrid yn fwy na meddwl amdano fel gweithio o rywle arall.

Gweithgaredd 2 Eich barn chi am hybrid

Sut beth yw gweithio hybrid i chi a beth mae’n ei olygu?

Sut a lle ydych chi’n credu y gallwch weithio o bell?

Rhestrwch neu disgrifiwch lle allwch chi weithio, a sut fyddech chi’n cefnogi’ch tîm i weithio yn eu sefyllfaoedd hybrid dewisol.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Beth mae gweithio hybrid yn ei olygu?

Yn ôl gwefan ACAS [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , mae gweithio hybrid yn fath o weithio hyblyg lle mae cyflogai yn rhannu ei amser rhwng y gweithle a gweithio o bell (ACAS, 2022).

Cawsoch un diffiniad o weithio hybrid yn y fideo byr a wyliasoch yng Ngweithgaredd 1. Nawr, gwyliwch y fideo hirach hwn sy’n trafod diffinio gwaith hybrid. Mae’n rhoi blas ar wahanol ddehongliadau o’r termau amrywiol a ddefnyddir i ddisgrifio ystod o fodelau gweithio hyblyg ac o bell: Defining hybrid work: is this what the future of work flexibility looks like?.

Yn y fideo, eglurodd y cyflwynydd ei farn am ystyr y geiriau ‘o bell’, ‘hybrid’, ‘gwasgaredig’, ‘ar y safle’, etc. Er bod y derminoleg yn cael ei defnyddio’n gyfnewidiol, mae’n bwysig bod cyflogeion yn cadw at ddefnydd cyson o’r ymadroddion a’r termau maen nhw eisiau eu mabwysiadu yn eu sefydliad eu hunain.

Mae rhai yn teimlo eu bod ar eu mwyaf cynhyrchiol yn eu siop goffi leol: beth a ddylid ei wneud ar gyfer y cyflogeion hynny? Ymadrodd Saesneg sydd wedi’i fathu ar gyfer y math hwn o amgylchedd gwaith yw ‘coffice’. Beth nesaf: ‘pubiffce’? Beth os ydynt eisiau gweithio yn eu llyfrgell leol neu undeb myfyriwr neu ‘ardal gydweithio’ arall?

Crwydriaid digidol

Os ydych yn caniatáu i’ch cyflogeion ‘weithio o unrhyw le’, gellir gofyn i chi a gânt weithio y tu hwnt i’r ardal ddaearyddol y maent wedi’i chyflogi i weithio ynddi. Mae ‘gweithio yn unrhyw le’ neu fod yn ‘grwydryn digidol’ yn aml yn codi delweddau o bobl yn gweithio ar feinciau. Mae posibilrwydd iddo ganiatáu cyflogeion i gael yr hyblygrwydd i fyw mewn ardal ddaearyddol o’u dewis (Choudhury, 2022) ac mae rhai cwmnïau megis AirBNB a GitLab wedi cyhoeddi y byddant yn cefnogi hyn. Wedi dweud hynny, bydd angen i gwmnïau a’u cyflogeion ymchwilio i amrywiaeth o ofynion, gan gynnwys unrhyw oblygiadau treth o fod yn gyflogedig gan gwmni mewn un wlad a gweithio mewn gwlad arall; yn aml gall ysgogi taliadau o gyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad newydd (Osborne, 2022). Felly, er bod rhoi’r hyblygrwydd i’ch cyflogeion weithio o bell mewn rhyw leoliad ecsotig pell yn swnio’n wych, gall fod yn eithaf cymhleth a chostus yn ymarferol.

Beth yw’r amgylchedd gorau ar gyfer gweithio hybrid?

Mae’n bwysig bod arweinwyr yn cymryd amser i ystyried sut mae eu polisïau cyfredol sy’n ymwneud ag ymarferion gweithio yn cefnogi’r sefyllfaoedd hyn, a’u bod yn addasu ar gyfer sefyllfaoedd o’r fath, gan fagu dealltwriaeth gyffredin. Dylai arweinwyr wrando ar leisiau’r rheini sy’n gweithio yn eu sefydliadau wrth amlinellu’r hyn a olygir gan ‘swyddfa’ ac ‘o bell’, gan fod gwneud i rywun deimlo bod rhaid iddo weithio yn y swyddfa neu gartref fel ffordd o weithio o bell yn gallu lleihau cynhyrchiant mewn gwirionedd.

Mae digonedd o ymchwil wedi bod sy’n awgrymu y gall edrych ar yr un bedair wal seguro creadigrwydd, ac y gall ychydig o fwrlwm yn amgylcheddau megis siopau coffi, neu rywle sydd â golau naturiol a lle i sefyll, helpu pobl i feddwl yn fwy creadigol. Serch hynny, i eraill gallai hyn fod yn llethol a gorlwytho eu synhwyrau, ac mai llyfrgell neu ardal dawel a chyfforddus fyddai eu hamgylchedd ‘swyddfa’ perffaith. Wrth greu polisïau yn ymwneud ag amgylcheddau gweithio derbyniol, ystyriwch yr hyn nad yw’n agored i drafodaeth a pha hyblygrwydd ac opsiynau sydd ar gael i staff allu gweithio ar eu gorau.

Mae’r Brifysgol Agored wedi canolbwyntio ar ailddylunio lleoedd gweithio, er mwyn eu gwneud yn fwy cynhwysol a hygyrch, ac i ganiatáu timau i ddod ynghyd yn wahanol. Yn y fideo nesaf, mae Dr Nick Barratt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod yn y Brifysgol Agored, yn egluro’r dull gweithredu ac yn rhannu’r dealltwriaethau mae’r Brifysgol Agored yn gobeithio eu hennill drwy’r dull gweithredu hwn.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep121_ou_show_homes_nick.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 3 Eich lle delfrydol

Ymhle ydych chi’n gwneud eich gwaith gorau?

Meddyliwch am adeg y cawsoch syniad gwirioneddol wych ac ymhle’r oeddech chi pan ddigwyddodd hynny. Ym mha amgylchedd oeddech chi a arweiniodd at hynny?

Pe byddech yn ailddylunio’ch swyddfa ddelfrydol (gofod a) a’ch gofod yn y cartref (gofod b), beth fyddai ym mhob gofod a beth fyddech chi’n ei eithrio?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).