Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Deall diwylliant eich sefydliad

Y prif gwestiwn wrth symud tuag at fabwysiadu gweithio hybrid yw dechrau ystyried beth yw eich diwylliant cyfredol a pha un ai a ydyw’n cefnogi amgylchedd hybrid ai peidio.

Ceisio diffinio diwylliant

Beth yw diwylliant? Wel, mae un ym mhob sefydliad ac yn ddelfrydol, yn ôl Dyer a Shepherd (2021), mae’r diwylliant sydd gennych chi yn rhywbeth yr ydych chi wedi’i ddylunio, ei greu a’i ddatblygu. Serch hynny, yn aml mae diwylliant ‘yn digwydd’. Maen nhw’n cymharu diwylliant i ardd, hynny yw os ydych yn ei warchod, bydd yn tyfu, ond os nad ydych yn ei warchod, gall ddod yn ardal ddi-fywyd o chwyn yn marw neu’n bla afreolus o eiddew gwenwynig.

Ydych chi erioed wedi gofyn i gydweithiwr beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw? Neu chwilio am ddiffiniad ohono ar-lein? Os wnewch chi hynny, cewch oddeutu 4,720,000,000 o ganlyniadau posibl gwahanol (fel yr oedd fis Mai 2022). Yn ôl rhai, mae diwylliant sefydliad yn golygu sut mae’r cyflogeion yn teimlo. Yn ôl eraill, mae’n golygu cinio am ddim ac yfed cwrw bob dydd Iau (Vollebregt, 2021). Nid diwylliant sefydliadol mo hyn mewn gwirionedd; gallai fod yn rhan o’ch diwylliant, ond nid dyma’r unig beth sy’n ei ddiffinio.

Mae nifer o ddiffiniadau academaidd i’w cael hefyd, er enghraifft cred Balogun a Johnson ei fod yn golygu y ffordd mae pethau’n cael eu gwneud yma, neu yn ôl Denison, mae’n golygu’r gwerthoedd, credoau a’r egwyddorion sylfaenol sy’n sylfaen i system reoli sefydliad. Mae’n gyfuniad o werthoedd ymwybodol ac anymwybodol a gweithredoedd eich sefydliad. Cymysgwch y rhain gyda’i gilydd a chewch fath arbennig o deimlad a diwylliant.

I eraill, teimlad yw diwylliant (Dyer a Shepherd, 2021, t. 21). Y wers yma yw nad oes ateb cywir nac anghywir o ran beth yw diwylliant, neu beth nad yw diwylliant, a beth y dylai ac na ddylai fod. Yn y dyfyniad canlynol, mae Jon Katezenbach, sylfaenydd y Katzenbach Center ac awdur The Critical Few, yn ei grynhoi’n dda:

No culture is all good or all bad. Every culture has emotional energy within it that can be leveraged.

(strategy&, 2018)