1.5 Diffinio diwylliant: y safon aur
Mae model mynydd iâ Schein (Schein, 1992), wedi’i gopïo isod, yn ffordd ddefnyddiol o ddangos bod rhai agweddau diwylliannol ar sefydliad yn amlwg a bod eraill wedi’u cuddio ac yn anodd i bobl allanol neu newydd eu dehongli.
Ymhlith enghreifftiau o agweddau diwylliannol mae dogfennau ysgrifenedig, cynlluniau strategol, swydd ddisgrifiadau a gweithdrefnau disgyblu. Yn llai gweladwy mae gwerthoedd, credoau ac arferion diwylliant, a all fod yn llawer mwy anos eu hadnabod a’u dehongli. Yn allweddol i fodel Schein ceir ennill dealltwriaeth well o gydrannau gwahanol sydd ynghlwm â diwylliant mewn sefydliadau drwy ddadansoddi’r tair lefel a ddengys yn Ffigwr 2.
Nid yw diwylliant yn rhywbeth segur, nid yw byth yn rhywbeth ‘gorffenedig’. Mae’n tyfu ac yn esblygu – fel yr ydym wedi’i weld yn ystod pandemig COVID-19. Fel arweinydd, bydd angen i chi fod yn glir ynghylch beth yw eich diwylliant a sicrhau bod eich cyflogeion yn gwybod beth ydyw a’u bod yn gyfforddus gydag ef. Nid ydych eisiau gwrthdaro rhwng diwylliant a strategaeth; os oes gwrthdaro yn bodoli, dylech ystyried ffyrdd o fynd i’r afael â hyn. Does dim y fath beth â diwylliant perffaith ond dylai gefnogi’ch cyflogeion a’ch sefydliad yn y ffordd orau bosibl. Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn archwilio sut mae creu diwylliant iach, gyda diogelwch seicolegol a chyfathrebu effeithiol.