2.2 Peidiwch â rhoi’r bai ar eraill
Ydych chi’n un sy’n beio eraill? Pan mae rhywbeth drwg yn digwydd, ydych chi’n dod i’r casgliad mai bai rhywun arall ydoedd, ac yn chwilio am rywun i’w feio? Os felly, pam ydych chi’n gwneud hynny? Pam ydych chi eisiau beio rhywun, yn hytrach na derbyn nad oedd neb ar fai? Efallai oherwydd ei fod yn rhoi ychydig o reolaeth dros y sefyllfa?
Gwyliwch y fideo nesaf gan athro ymchwil, darlithydd, awdur a chyflwynydd podlediad o America, Brené Brown: Brené Brown on blame [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Beth yw eich barn am eglurhad Brown bod beio rhywun yn ffordd o gael gwared ar boen ac anghyfforddusrwydd? Mae perthynas groes rhwng bai ac atebolrwydd, a gall atebolrwydd fod yn broses sy’n gwneud i ni deimlo’n fregus: mae dweud wrth rywun ei fod wedi ein cynhyrfu neu frifo ein teimladau a’i wneud yn atebol am hynny, heb ei feio yn brofiad heriol. Pan ydym yn symud ymlaen o atebolrwydd i fai, rydym yn rhoi’r gorau i wrando ac yn rhoi’r gorau i ddatblygu empathi; rydym yn ceisio beio rhywun mor gyflym ag y mae ein hymennydd yn ein caniatáu i wneud hynny.
Gweithgaredd 8 Myfyrio ar fai
Myfyriwch ar y tro diwethaf y gwnaethoch feio rhywun am rywbeth. Am beth y gwnaethoch feio rhywun? Ai bai yr unigolyn hwnnw ydoedd mewn gwirionedd?
Lluniwch beth ddigwyddodd, ceisiwch adnabod beth oedd y rheswm i’r unigolyn wneud rhywbeth y gwnaethoch eu beio amdano a nodwch y canlyniadau i chi.
Trafodaeth
A ydych chi erioed wedi meddwl eich bod wedi gofyn i rywun wneud rhywbeth ond na wnaeth unrhyw un ei wneud oherwydd nad oedd yn glir pwy oedd i fod i’w wneud – ai pawb? Rhywun? Unrhyw un? Ac yna, neb?
Gwyliwch y fideo byr hwn: Everybody, Somebody, Anybody, Nobody
Fel y gwelwch, mae’n pwysleisio’r effaith o ddweud bod angen gwneud rhywbeth, heb roi’r cyfrifoldeb i un unigolyn yn benodol. Gall hyn arwain at feio rhywun.