Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4 Cyflwyno ymholiad gwerthfawrogol (AI)

Un ffordd o annog syniadau gan aelodau’r tîm a’u hannog nhw i ddatblygu a rhannu syniadau yw mabwysiadu ymgysylltiad, creadigrwydd ac arweinyddiaeth ar bob lefel.

Beth pe allech chi wneud hynny drwy wella ansawdd eich sgyrsiau? Dyna addewid ymholiad gwerthfawrogol, sy’n cael ei alw’n AI (appreciative inquiry) – na ddylid ei ddrysu gyda deallusrwydd artiffisial.

Defnyddir ymholiad gwerthfawrogol i fabwysiadu newid cadarnhaol mewn unigolion, grwpiau a sefydliadau. Y syniad o ymholiad gwerthfawrogol yw ein bod yn creu pob rhyngweithiad, cyfarfod a’n holl systemau cymdeithasol drwy sgwrsio a chreu ystyr a rennir. Yn ôl David Cooperrider, sylfaenydd y dull gweithredu ymholiad gwerthfawrogol: Rydym yn byw mewn bydoedd y mae ein sgyrsiau yn eu creu (Cooperrider, 2021).

Meddyliwch am adeg y cawsoch sgwrs gyda rhywun a wrandawodd gyda’i holl sylw ac a gyfrannodd amser, ffocws, syniadau a phersbectifau newydd, ac egni cadarnhaol i’r sgwrs. Sut oedd hynny’n teimlo? Nawr, cyferbynnwch hynny gyda’r tro diwethaf y treuliasocch amser mewn cyfarfod gyda phobl yr oedd eu sylw yn cael ei dynnu gan negeseuon neu ddogfennau ac a oedd yn ymddangos nad oeddent yn gwrando, dim ond aros i gael siarad eu hunain a beirniadu neu feio eraill.

Mewn ymholiad gwerthfawrogol, mae’r cyntaf o’r mathau hyn o sgyrsiau (sylwgar, canolbwyntio, cadarnhaol) yn ‘werthfawrogol’ ac yn ychwanegu gwerth at sefyllfa, unigolyn neu gyfle. Mae’r ail yn ‘ddibrisiol’ – mae’n lleihau gwerth sefyllfa, unigolyn neu gyfle.

Mewn sgyrsiau gwerthfawrogol, rydym yn rhannu syniadau, cydnabyddiaethau, gwybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau. Mae hyn yn cryfhau cysylltiadau, yn gwella perthnasoedd, yn cryfhau ein canfyddiad, yn ymestyn ein hymwybyddiaeth ac yn cynhyrchu gwybodaeth ac arloesedd newydd.

I’r gwrthwyneb, mae sgyrsiau dibrisiol wedi’u nodweddu gan fethiant i wrando, torri ar draws, tynnu sylw, beirniadaeth a chwyno. Maen nhw’n gwanhau ac yn rhoi straen ar berthnasoedd, yn culhau ein gorwelion, yn atgyfnerthu tybiaethau ac yn dylu meddwl yn greadigol a beirniadol. Yn y pendraw, gall sgyrsiau dibrisiol gael effaith ddinistriol ar ymgysylltiad yn y gweithle, perfformiad y tîm, llwyddiant y sefydliad ac ar iechyd meddwl a chorfforol hyd yn oed.

Yn sgil disgwyliadau’r ugeinfed ganrif yn ymwneud ag arweinyddiaeth, mae nifer o arweinwyr wedi’u cyflyru i ganolbwyntio ar broblemau, rheoli materion a risgiau, dadansoddi gwreiddiau anawsterau a gwneud pobl yn atebol. Gall hyn arwain at y tuedd o gymryd rhan mewn sgyrsiau dibrisiol.

Mae ymholiad gwerthfawrogol yn eich herio chi i fod yn fath arall o arweinydd drwy gael sgyrsiau gwerthfawrogol. Mae’n ymwneud ag edrych y tu hwnt i’r broblem uniongyrchol ac ymgymryd ag ystyriaeth ehangach o’r tîm neu’r sefydliad fel system fyw, neu fel un o’r nifer o gryfderau mawr a dychymyg di-derfyn bodau dynol (Stavros a Torres, 2018).

Hanfod ymholiad gwerthfawrogol yw chwilio’n gydweithredol am y gorau ym mhobl, eu sefydliadau, a’r byd o’u cwmpas a bod datrys problemau heriol o’r persbectif hwnnw yn arwain at ddatrysiadau creadigol, sy’n ysbrydoli pobl.