Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.5 Ymholi gwerthfawrogol ar waith

Sut ydym ni’n ysgogi’r sgyrsiau hyn? Mae gan ymholiad gwerthfawrogol ddau ymarfer a phum egwyddor i’ch helpu chi i ymdrin â hyn.

Ymarfer 1: fframio cadarnhaol

Mae dwy agwedd i hyn:

  • Yn gyntaf, mae angen i ni ymatal rhag yr awydd i ystyried sefyllfa neu unigolyn yn broblem sydd angen ei datrys. Gall y mater fod yn un difrifol, ond rydym yn dewis ei fframio’n gadarnhaol yn fwriadol, gan ganolbwyntio ar agwedd gadarnhaol ar y sefyllfa.
  • Yn ail, rydym yn cyfeirio’r sylw at weithredoedd a chanlyniadau cadarnhaol.

Ymarfer 2: gofyn cwestiynau sbardun

Cwestiynau sbardun yw cwestiynau sy’n:

  • dod i’ch meddwl yn sgil natur benagored a chwilfrydedd – er enghraifft, cwestiynau sy’n dechrau gyda ‘Beth petai...?’
  • mynnu ac yn gwneud defnydd o bersbectifau gwahanol ac amrywiol, er enghraifft, ‘Sut ydych chi’n gweld y sefyllfa?’
  • codi gwybodaeth a dealltwriaeth newydd, er enghraifft, ‘Sut oeddent yn rheoli’r broses hon yn eich cwmni olaf?’
  • ysgogi creadigrwydd a phosibiliadau, er enghraifft, ‘Beth allai fod yn bosibl pe byddem yn...?’

Pum egwyddor

Mae hyn yn swnio’n syml, ond dewisiadau yw’r ymarferion hyn, ac i wneud y dewisiadau hyn mae angen i ni allu oedi a myfyrio ar sefyllfa a meddwl cyn i ni siarad a gweithredu.

Mae hyn yn anodd ei wneud. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn talu sylw i’r ffactorau sy’n siapio ac yn ysgogi ein sgyrsiau. Rydym yn gweithredu yn y foment, yn aml dan bwysau. Mae ein hamgylchiadau uniongyrchol yn aml yn pennu ein fframio, ymddygiad ac ymatebion, yn hytrach na ni yn eu dewis nhw ein hunain.

I helpu gyda hyn, mae dull ymholi gwerthfawrogol yn rhoi cyfuniad o bum egwyddor. Gallwn ddefnyddio’r rhain i hyfforddi ein hunain i feddwl a myfyrio ar sefyllfaoedd, herio ffyrdd arferol o feddwl, canfyddiadau ac ymatebion, a dewis fframio cadarnhaol i alluogi sgyrsiau gwerthfawrogol a chanlyniadau cadarnhaol.

Dengys y bum egwyddor yn y tabl isod.

Egwyddor Disgrifiad
Egwyddor ddehonglwr: ‘Mae geiriau yn creu bydoedd’ Mae ein dealltwriaeth, perthnasoedd a realiti cymdeithasol wedi’u llywio gan iaith a thrwy sgwrs – pan ydym yn newid y ffordd yr ydym yn sgwrsio a’r cwestiynau yr ydym yn eu gofyn, rydym yn newid ein realiti.
Egwyddor gydamseroldeb: ‘Ymyrraeth yw ymholi’ Mae newid yn dechrau cyn gynted ag y gofynnir cwestiwn neu y gwneir datganiad, gan fod ein meddwl a’n hemosiynau yn ymateb yn uniongyrchol.
Egwyddor farddol: ‘Mae gennych ddewis yn y ffordd yr ydych yn gweld pethau’ Mae’n bosibl gweld pob unigolyn, pob sefyllfa, pob sefydliad o nifer o bersbectifau – mae’r ‘gwir’ yn dibynnu ar ein canfyddiad a ffocws ein sylw.
Egwyddor ragflaenol: ‘Rydym yn gweld beth ydym yn disgwyl ei weld, ac rydym yn canfod beth bynnag ydym ni’n chwilio amdano’ Mae ein meddyliau personol a’r delweddau sydd gennym yn ein meddyliau yn llywio ein sgyrsiau, fel bod ein disgwyliadau yn pennu ein profiadau a’r hyn yr ydym yn ei glywed a’i weld.
Egwyddor gadarnhaol: ‘Mae delweddau cadarnhaol a gweithredoedd cadarnhaol yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol’ Mae cwestiynau mwy cadarnhaol yn arwain at weithredoedd mwy cadarnhaol a chanlyniadau hirdymor.
(Addaswyd o Cooperrider ac Whitney, 1999)

Gall arweinwyr ymgymryd â dulliau gwahanol i ddatblygu dull ymholiad gwerthfawrogol o fewn sefydliadau, megis dwyn ynghyd grwpiau penodol i rannu eu syniadau a’u profiadau, neu ar lefel unigol gan ddefnyddio mentora croes i wrando ar eraill. Mae llawer o sefydliadau'n symud tuag at ddefnyddio'r term 'mentora dwyochrog' yn hytrach na 'mentora gwrthdro' i adlewyrchu bod y mentor a'r sawl sy'n cael ei fentora yn cael rhywbeth o'r broses. Yn y fideo nesaf, mae Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, a Dr Nick Barrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod yn y Brifysgol Agored, yn trafod eu profiadau o ddulliau ymholiad gwerthfawrogol.

Download this video clip.Video player: hyb_2_2022_sept105_focus_groups_and_reverse_mentoring_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Myfyriwch ar yr ymarferion a’r egwyddorion y soniwyd amdanynt a cheisiwch ddefnyddio’r rhain i wella ansawdd eich sgyrsiau, ysgogi ac annog cydweithwyr a thimau, atgyfnerthu ymgysylltiad a diben, a dylanwadu posibiliadau newydd, canlyniadau cadarnhaol a byw’n well.

Os ydych yn dueddol o ymgymryd yn awtomatig â dull yn canolbwyntio ar broblemau, efallai bydd ymholiad gwerthfawrogol yn ddefnyddiol i chi. Y tro nesaf y byddwch yn gweld eich hun mewn sgwrs ddibrisiol, ceisiwch droi pethau drwy ofyn cwestiynau sbardun. Mae hwn yn gam gwych tuag at drosi sgwrs ddi-fudd yn sgwrs werth ei chael.