2.6 Empathi
Beth yw empathi? Mae nifer ohonom yn meddwl am empathi fel emosiwn sy’n gwneud i ni deimlo’n dda, neu’n ei gysylltu â bod yn garedig ac yn emosiynol sensitif. Yn ôl Krznaric, mae’n ymwneud â’r gallu i gamu’n ddychmygol i esgidiau rhywun arall, deall eu teimladau a’u persbectifau a defnyddio hynny i arwain eich gweithrediadau. Mae’n wahanol iawn i gydymdeimlo, fel y gwelwch yn hwyrach ymlaen yn yr adran hon.
Gweithgaredd 10 Beth mae empathi yn ei olygu i chi?
Cyn mynd ymlaen i’r rhan hon o’r cwrs, nodwch beth yw diffiniad empathi a sut beth ydyw yn eich barn chi.
Nawr, gwyliwch yr animeiddiad byr hwn gan Brené Brown, ar gyfer ei phersbectif hi o empathi: Brené Brown on empathy [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Deall empathi
Meddyliwch am rai o’r actorion sy’n ymarfer y math hwn o actio method. Drwy’r dull hwnnw maent wedi cymryd amser i ddeall sut fyddai eu cymeriad yn teimlo, beth fyddant yn ei glywed a’i weld a defnyddio hynny i ‘fod’ y cymeriad hwnnw. Mae enghreifftiau enwog yn cynnwys Adrien Brody yn y ffilm The Pianist a Jim Carrey yn Man on the Moon.
Mae Patricia Moore yn enghraifft o rywun a ddatblygodd empathi yn y gweithle i ddatblygu cynnyrch arloesol newydd. Hi oedd yr unig ddylunydd benywaidd o blith 350 o ddynion yn ei sefydliad. Gofynnodd gwestiwn syml yn ystod sesiwn ddylunio ar gyfer oergell newydd: ‘allwn ni ddylunio’r drws fel y byddai rhywun sydd ag arthritis yn ei chael hi’n rhwydd ei agor?’. Dywedodd cydweithiwr wrthi ‘dydyn ni ddim yn dylunio ar gyfer y bobl hynny’. Ysgogodd hynny hi i gynnal arbrawf radical mewn perthynas ag empathi (Krznaric, 2015, t. xi): gwisgodd fel dynes 85 oed. Dywedodd nad oedd hi eisiau bod yn actores yn cymryd arni ei bod yn ddynes hŷn, felly defnyddiodd golur theatrig, dillad a ffon gerdded, gan weddnewid ei hun yn ddynes hŷn. Daliodd ati gyda’r persona hwn rhwng 1979 a 1982 a rhoddodd ei phrofiad ddealltwriaeth uniongyrchol iddi o ba mor anodd oedd hi i gerdded i fyny grisiau serth, defnyddio pethau agor tun ac agor oergelloedd, etc. Sylweddolodd fod bwlch yn y farchnad, ac aeth ati i arwain y byd dylunio cynnyrch i gyfeiriad newydd. Yn seiliedig ar ei dealltwriaeth a’i phrofiadau, creodd gynhyrchion a oedd yn addas i’r henoed a’r rheini sy’n dioddef o arthritis eu defnyddio.
Ymestyn eich potensial empathetig
Er mwyn creu arferiad o fod yn empathetig, awgryma Krznaric (2015, t. xiv) y chwe arferiad canlynol y mae pobl empathetig yn meddu arnynt:
- Trowch eich ymennydd empathetig ymlaen – Deall bod empathi yn rhan ganolog o natur ddynol ac y gall barhau i ddatblygu a thyfu.
- Gwnewch y naid ddychmygol – Gwnewch ymdrech ymwybodol i gamu i esgidiau rhywun arall, waeth pwy yw hwnnw, boed yn gyfaill neu’n elyn. Cydnabyddwch eu dynoliaeth, eu hunigoliaeth a’u persbectifau.
- Ceisiwch anturiaethau arbrofol – Archwiliwch fywydau a diwylliannau nad ydynt yr un fath â’ch rhai chi, boed hyn drwy drochi’n uniongyrchol neu fapio taith empathetig.
- Ymarferwch y grefft o sgwrsio – Byddwch yn chwilfrydig, byddwch yn holgar, byddwch fel plentyn eto yn gofyn cwestiynau a gwrandewch a chysylltwch. Peidiwch ag arholi, dim ond holi gyda diddordeb.
- Teithiwch yn eich cadair – Nid yw’n bosibl bob amser i chi fynd i’r lle i ddatblygu empathi, ond gallwch roi eich hun ym meddwl rhywun arall gyda chelf, llenyddiaeth, ffilm a rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein.
- Ysbrydolwch chwyldro – Dechreuwch ysgogi empathi a’i ddefnyddio i gyflawni newid cymdeithasol ac ymestyn eich sgiliau empathi i wneud y mwyaf o’r byd naturiol o’ch cwmpas.
Nid yw empathi yn fedr rhwydd ei ymarfer yn y gwaith, ac yn ôl Empathy Study gan Business Solvers 2021,mae 70% o Brif Swyddogion Gweithredol yn teimlo eu bod wedi’i chael hi’n anodd ei arddangos yn y gwaith yn gyson. Wedi dweud hynny, mae empathi yn dod yn fwyfwy o flaenoriaeth yn y gweithlu, yn enwedig ymhlith ‘Cenhedlaeth Z’ y gweithlu (y rheini a gafodd eu geni yn yr 1990au hwyr a’r 2000au cynnar), y mae 90% ohonynt yn dweud eu bod yn fwy tebygol o aros yn eu swyddi os yw eu cyflogwr yn empathetig.
Empathi vs cydymdeimlo
Mae empathi yn wahanol iawn i gydymdeimlo, sy’n ymwneud yn fwy â theimlo tosturi tuag at rywun arall (Krznaric, 2015, t. x). Nid yw pitïo rhywun yn golygu eich bod yn ceisio teimlo gydag ef a deall ei emosiynau neu ei safbwynt, fel y dangosir yn yr animeiddiad byr hwn: How empathy works – and sympathy can’t.
Mae’r tabl isod (addaswyd o Waters, 2022) yn crynhoi’r gwahaniaethau rhwng empathi a chydymdeimlo.
Empathi yw: | Cydymdeimlo yw: |
---|---|
teimlo beth mae rhywun arall yn ei deimlo | meddwl am deimladau rhywun arall, e.e. pan ydych yn teimlo tosturi drosto |
gwrando’n weithredol ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud | rhoi cyngor heb i’r unigolyn ofyn amdano mewn sgwrs |
ymatal rhag beirniadu | beirniadu |
bod yn ymwybodol o awgrymiadau bach ac ysgogiadau nad ydynt ar lafar | sylwi ar y mater ar yr arwyneb yn unig |
darganfod persbectif yr unigolyn arall | deall o’ch persbectif eich hun yn unig |
cydnabod teimladau pawb | anwybyddu neu atal eich emosiynau |
Pam mae empathi yn bwysig?
A ydych erioed wedi dechrau gwrando ar rywun yn dweud wrthych sut maent yn teimlo ac yna wedi dechrau cynnig awgrymiadau na ofynnwyd amdanynt ynghylch yr hyn y dylai’r unigolyn ei wneud yn eich barn chi? Gwyliwch y fideo canlynol, sy’n dangos y canlyniadau ac ymatebion a geir wrth geisio ‘trwsio’ eich partner, yn hytrach na bod yn empathetig gydag ef.
It’s not about the nailDyma’r risg wrth beidio ag adeiladu empathi – rydym yn trio trwsio a ‘datrys’ pethau.
Gall meddu ar empathi eich helpu chi i wella cyfathrebu, magu perthnasoedd pwysig ac mae wedi’i brofi i leihau gwahaniaethu ac ymddygiad anfoesegol.
Empathi wrth arwain timau hybrid
Pan oedd cyfyngiadau pandemig COVID-19 ar eu llymaf, roedd gwybod bod pobl eraill o gwmpas y byd yn wynebu heriau tebyg yn ein huno ac yn cynyddu ein lefelau o empathi. Ers i’r cyfyngiadau lacio, rydym wedi gorfod addasu i weithio hybrid a cheisio â throsglwyddo’n ddi-dor rhwng gwaith wyneb yn wyneb a gwaith rhithiol. Arferem gydweithio o gwmpas byrddau gwyn mewn swyddfa ac erbyn hyn rydym yn defnyddio adnoddau digidol ar-lein. Mae’r disgwyliadau yn dal i fod yr un fath, er bod y dull o wneud y gwaith wedi newid. Felly, beth allwch chi ei wneud fel arweinydd i ddatblygu a magu empathi gyda’ch timau, hyd yn oed os nad ydych yn eu gweld mewn swyddfa mwyach?
Gweithgaredd 11 Cysylltu â’ch tîm i fagu empathi
Yn gyntaf, gwyliwch y fideo lle mae Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, yn trafod sut all arweinwyr fod yn fwy empathig ar gyfer ffyrdd hybrid o weithio..
Transcript
Yna, darllenwch yr erthygl ganlynol am ychydig o awgrymiadau ymarferol ar arweinyddiaeth empathetig: Leadership: How to show empathy to hybrid work teams.
Ysgrifennwch nodiadau ar yr hyn yr ydych yn ei ganfod a pha gwestiynau y gallech eu gofyn wrth gysylltu â’ch tîm i fagu empathi. Mae’n fedr sydd angen ei ymarfer, a gall gweithio o bell greu rhwystrau efallai na fyddwch wedi meddwl amdanynt ond eich bod wedi meddwl pa mor gynhyrchiol ydynt yn hytrach na chael eu mesur gan welededd ar-lein.