Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.9 Ail-fframio eich problemau

The world we have created is a process of our thinking. It cannot be changed without changing our thinking.

(Albert Einstein)

Mae’r dyfyniad hwn yn ein hatgoffa bod gennym bŵer dros ein safbwyntiau ac y gallwn newid y ffordd yr ydym yn meddwl ynghylch ein problemau.

Ar ôl misoedd o ansicrwydd yn gysylltiedig â’r pandemig, ynghyd â phatrymau gweithio yn newid, ysgrifenna Maier (2022) nad yw’n syndod clywed gan dimau ... bod emosiynau yn llawer agosach at yr arwyneb na’r arfer, ac yn fwy amrwd yn sgil lefelau egni is’. Mewn cyfnodau ansicr, mae angen ail-feddwl pethau ac ennill persbectifau newydd. Rhaid i ni fod yn ymwybodol efallai nad oes gan bobl amser i ‘brosesu’r diwrnod’ wrth gymudo adref, neu wrth weithio gartref nad ydynt yn gallu crwydro’r swyddfa i ddod o hyd i wyneb cyfeillgar, felly mae perygl i bobl or-brosesu meddyliau a phroblemau, a gorfeddwl pethau.

Ffordd arall o symud ymlaen allai fod drwy ‘ailfframio’r broblem’ ac edrych arni o bersbectif gwahanol; yn aml mae’r persbectifau newydd hynny yn fwy cadarnhaol a gall eich helpu chi i ymdopi’n well ag ansicrwydd (Jackson, 2020). Weithiau, rydych eisiau bod yn wydn a dod yn ôl ar eich traed ond efallai eich bod yn sownd yn yr un hen le, yn gwneud yr un hen gamgymeriadau ac yn wynebu’r un hen broblemau.

Enghraifft dda o sut ellir ailfframio yw drwy edrych ar bethau gyda phersbectif tymor hir. Petai gennych blentyn bach, 5 oed dyweder, ac y gallech weld a gwerthfawrogi ei fod yn blentyn cryf, hyderus, cadarn ac annibynnol, ond ei fod yn gwneud rhywbeth nad ydych yn fodlon gydag ef, sut fyddech chi’n ymateb i hynny? Gallech ailfframio eich ffordd o feddwl ac yn hytrach na rhoi bloedd yn y foment, beth am gymryd cam yn ôl a meddwl sut fyddech chi’n ymdrin â’r sefyllfa drwy ofyn i chi’ch hun ‘Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar y foment hon flwyddyn yn ddiweddarach, sut ymateb fyddaf i’n hoffi ei weld?’. Nid yn unig y bydd dychmygu’r ‘pellter’ hwnnw yn tawelu’r sefyllfa, ond bydd hefyd yn eich helpu chi i ymateb gyda mwy o empathi.

Nawr, dychmygwch sut fyddech chi’n ymdrin â sefyllfa heriol fel arweinydd, gan ymgymryd â gweledigaeth hirdymor o sut fyddech chi’n ymddwyn ac yn ymateb. Y tro nesaf y byddwch chi’n wynebu sgwrs a phroblem anodd, neu gadarnhaol hyd yn oed, meddyliwch sut fyddech chi eisiau edrych yn ôl arni flwyddyn yn ddiweddarach i nawr.

Gweithgaredd 17 Eich profiad o ailfframio problem

Meddyliwch am enghraifft lle y gwnaethoch fynd i’r afael â phroblem, naill ai yn eich gwaith neu mewn bywyd yn gyffredinol, ac ystyriwch pa bryd allech chi fod wedi trawsnewid problem yn gyfle neu pan wnaethoch ailfframio problem a meddwl am ddatrysiad annisgwyl.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Strategaethau ailfframio

Mae rhai ffyrdd gwahanol o ailfframio y gallech ddod ar eu traws ac yr hoffech arbrofi gyda nhw; gweler rhai wedi’u rhestru isod i’ch helpu chi i ddechrau arni.

Strategaeth Disgrifiad Sut mae mabwysiadu’r meddylfryd hwn
Ailwerthuso gwybyddol Newid y ffordd yr ydych yn meddwl am ysgogiad emosiynol er mwyn newid yr effaith emosiynol. Er enghraifft, cewch wahoddiad i fynychu cyfweliad am swydd. Yn hytrach na chanfod hyn yn brofiad sy’n eich rhoi dan straen, gallech ei ystyried fel cyfle i ymarfer sgiliau mewn cyfweliad a dysgu mwy am y cwmni.

Mae gwerthuso gwybyddol yn cynnwys ystyried yr hyn sy’n ymwneud â phoen, dod yn ymwybodol ohono, ei ddioddef a’i dderbyn.

Gallwch ofyn cwestiynau fel:

  1. Sut allaf i dderbyn pethau na allaf eu rheoli?
  2. Sut allaf i addasu i hyn?
  3. Pa ffyrdd eraill sydd o’i ganfod?

Drwy wneud hyn ac wynebu’r ysgogwr negyddol, a’i dderbyn, byddwch yn treulio llai o amser/egni yn brwydro yn erbyn rhywbeth na allwch chi mo’i reoli. Mae’r agwedd hon hefyd yn hyrwyddo hunanymwybyddiaeth

Ailwerthuso cadarnhaol Yma, byddwch yn adnabod ystyr cadarnhaol mewn ysgogwr negyddol ac yn canolbwyntio ar y ‘da’. Gelwir hyn yn ‘dod o hyd i’r buddion’. Er enghraifft, yn ystod y pandemig efallai eich bod wedi chwilio am yr ‘agweddau da’ o gael eich gorfodi i weithio gartref drwy ystyried yr amser y gwnaethoch ei ennill drwy beidio â gorfod cymudo fel cyfle i dreulio mwy o amser gydag anwyliaid, dysgu sgiliau newydd, etc.

Chwiliwch am y buddion neu’r ‘haul yn y storm’ a chydnabyddwch agweddau ‘da’ ar y sefyllfa. Gofynnwch y canlynol i chi’ch hun:

  1. Beth yw’r agweddau cadarnhaol ar y sefyllfa hon?
  2. Beth sy’n fy ysgogi i fod eisiau mynd i’r afael â’r her hon yn hytrach na’i hystyried yn rhwystr?
  3. Pa gryfderau ydw innau, fy nhîm, neu’r sefydliad yn eu cyflwyno er mwyn llywio drwy hyn?
  4. Sut fyddaf yn edrych yn ôl ar fy ngweithrediadau flwyddyn yn ddiweddarach i nawr? Pum mlynedd i nawr?

Trosi problem yn gyfle:

  1. Beth ydw i’n gobeithio ei ddysgu?
  2. Beth ydw i’n ei elwa o’r her hon?
  3. Sut allaf i ddefnyddio’r her hon i ddatblygu rhywbeth gwell?
Datganiadau ymdopi ar gyfer sefyllfaoedd/enydau heriol Efallai eich bod wedi defnyddio un o’r rhain o’r blaen, ac mae’r datganiadau yn cynnwys dweud ‘mi ddaw haul ar fryn’ wrthych chi eich hun neu ‘un cam ar y tro, gallaf ddod drwy hyn’. Mae’n ddatganiad i chi eich hun a all eich helpu chi i weld pethau mewn goleuni mwy cadarnhaol.

Canolbwyntiwch eich meddwl ar y presennol a chrëwch gyfeirbwyntiau cadarnhaol. Efallai y byddwch chi’n dweud:

  1. Mi ddof drwy hyn.
  2. Rwy’n gwneud fy ngorau glas.
  3. Er bod pethau yn newid, mae nifer o bethau yr ydw i’n eu hoffi yn parhau i fod yr un fath.

Camystumiad gwybyddol

Mae dehongliad negyddol neu afrealistig o sefyllfa, sydd hefyd yn adnabyddus fel camystumiad gwybyddol, yn digwydd oherwydd ffordd unllygeidiog o feddwl ac, mewn gwirionedd, mae’n ffordd o’n meddwl yn ein darbwyllo am rywbeth sy’n anwir. Gall camystumiadau gwybyddol feddiannu eich ymennydd a’ch safle fel arweinydd. Gallant sefydlu patrwm o feddwl yn negyddol a’n darbwyllo ni bod y pethau yr ydym ni’n credu ein bod yn eu clywed neu’n eu gweld yn wir, ond mewn gwirionedd, maent yn ysgogi teimladau negatif a phesimistig (Naoumidis, 2019).

Mae nifer o fathau o gamystumiadau gwybyddol. Disgrifir tri isod, ond mae Gweithgaredd 18 yn rhoi cyfle i chi archwilio eraill drwy ddarllen erthygl Naoumidis (2022) ‘Thinking traps’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

  1. Hidlo – Rydych yn caniatáu’r wybodaeth negyddol yn unig ac yna’n chwyddo’r manylion ac yn hidlo’r agweddau cadarnhaol. Gallech wneud hyn os ydych wedi cwblhau prosiect hynod gadarnhaol ac wedi cyflawni canlyniadau gwych, ond wedyn rydych yn dechrau canolbwyntio’n ormodol ar y meysydd y gwnaethoch eu methu neu’r nodau na wnaethoch eu cyflawni.
  2. Gor-gyffredinoli – Meddwl am rywbeth yr ydych wedi’i weld neu ei glywed yn y gorffennol a chymryd arnoch y bydd y patrwm hwn yn parhau. Er enghraifft, gallech chi ddweud ‘fel hyn mae hi drwy’r amser’, ‘nid yw byth yn gweithio’, ‘ni fydd gweithio gartref byth yn gweithio’ neu ‘mae pobl yn siarad fel melinau clep ac yn gwneud dim pan maen nhw yn y swyddfa’ – ydych chi’n hollol sicr am hyn?
  3. Darllen meddyliau – Dyma arferiad y mae’n hynod rwydd ei ddatblygu pan fyddwch yn gweithio oddi wrth eich tîm. Gallech ddarbwyllo’ch hun bod eich tîm yn meddwl yn negyddol amdanoch neu feddwl bod eich tîm yn meddwl eich bod chi’n meddwl yn negyddol amdanyn nhw.

Gweithgaredd 18 Darllenwch am y camystumiadau eraill

Darllenwch erthygl Naoumidis (2022) ‘Thinking traps’ a meddyliwch am adeg pan ydych wedi cael profiad o’r camystumiadau hyn.

Beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol petaech yn cael y profiad hwnnw eto?

A oes unrhyw gamystumiad gwybyddol yr ydych chi’n sylwi eich hun yn ymgymryd ag ef yn rheolaidd?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae osgoi camystumiad gwybyddol yn fedr y mae angen ei ymarfer. Mae’n ymwneud ag adnabod dehongliadau negyddol afrealistig o ddigwyddiad a’u disodli gyda meddylfryd mwy realistig.

Sut allwch chi ailfframio camystumiad neu duedd gwybyddol?

  1. Enwch a nodwch y camystumiad: Y tro nesaf y byddwch yn sylwi arnoch chi’ch hunan yn gwneud hynny eto, dechreuwch arferiad o roi’r gorau iddi. Fel y gyrwyr trenau yn Siapan sy’n pwyntio ac yn galw gan ddefnyddio egwyddor Shisa Kanko, dywedwch ef yn uchel wrthych chi’ch hunan neu ysgrifennwch ef i lawr. Bydd ei weld a rhoi’r gorau iddi yn eich galluogi chi i feddwl am y broblem yn fwy cadarnhaol.
  2. Gwiriwch y ffeithiau: Newidiwch eich ffordd o feddwl – cyn i chi neidio i feddwl a chasgliad negyddol, edrychwch ar y ffeithiau a’r dystiolaeth yn gyntaf.
  3. Arbrofwch: Rhowch eich meddyliau negyddol dan brawf i weld a ydynt yn gywir.
  4. Meddyliwch mewn arlliwiau o lwyd: Yn hytrach na gweld pethau yn ddu a gwyn ac yn y ddau begwn, sef ‘popeth neu ddim’, ceisiwch ddefnyddio graddfa o 0-100 a gweld lle y mae ar y raddfa honno a chwiliwch am y mân lwyddiannau yn hytrach na’r methiannau.

Mae’r rhai blynyddoedd diwethaf, yn sgil y pandemig a’r trosglwyddiad i weithio mwy hybrid, wedi bod yn anodd iawn i arweinwyr a’u timau. Gall defnyddio ailfframio a datblygu sgiliau ailfframio helpu i fynd drwy’r amseroedd caled a’r heriau a ‘dod yn ôl ar eich traed’.