Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Gwrando gweithredol

Yn ôl Cuncic (2022):

Mae gwrando gweithredol yn cyfeirio at batrwm o wrando sy’n cynnal eich cysylltiad â’ch partner sgwrsio yn gadarnhaol. Hynny yw, y broses o wrando’n astud tra bod rhywun arall yn siarad, yn aralleirio ac yn myfyrio ar yr hyn a gafodd ei ddweud, heb farnu na rhoi cyngor. Pan fyddwch yn gwrando’n weithredol, rydych yn gwneud i’r unigolyn arall deimlo bod rhywun yn gwrando arno ac yn ei werthfawrogi.

Gweithgaredd 23 Pa mor dda ydych chi’n gwrando?

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod lle gwnaethoch weld rhywun yn edrych ar ei ffôn, neu’ch bod yn teimlo ei fod yn gwirio ei negeseuon e-bost yn llechwraidd? Efallai eich bod wedi clywed sgyrsiau tawel a chyflogeion eraill yn amharu o bosibl. Sut wnaeth hynny i chi deimlo?

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod pwysig a heb dalu sylw? Pam oedd hynny? Sut fyddai’r unigolyn hwnnw yn teimlo petai’n dod i wybod nad oeddech yn gwbl bresennol? A oedd unrhyw oblygiadau o beidio gwrando’n astud yn y cyfarfod hwnnw? A wnaeth hynny arwain at unrhyw gamgyfleu neu gamgymeriad? Neu efallai na chawsoch eich dal?

Allwch chi adnabod unrhyw ysgogiadau sy’n eich achosi chi i roi’r gorau i wrando’n weithredol a thalu sylw?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sut allwch chi fod yn bresennol wrth wrando?

Erbyn hyn mae gennym fwy o ffyrdd nag erioed o gyfathrebu. Ond sut mae gwrando’n weithredol? A sut ydych chi’n cynnal eich cysylltiad? Fel Cyfarwyddwr AD Rhyngwladol Dropbox, dywed Laura Ryan: mae’n bwnc llosg, mae pawb yn sôn am hyn drwy’r amser (HRD Connect, 2021) ac mae’n gwneud hyn wrth wneud ei gorau glas i wrando ar alwadau a gwrthod y pethau eraill sy’n denu ei sylw. Rhowch ‘peidiwch â tharfu’ ymlaen ar gyfrifiaduron, diffoddwch negeseuon e-bost, diffoddwch eich ffôn neu ei rhoi mewn ystafell arall – gwrandewch yn weithredol. O ganlyniad, dywed Ryan ei fod wirioneddool yn helpu i fagu perthnasoedd a datrys problemau yn gynt gyda llai o gorddi a thîm hapusach. Yn bwysicach na dim, mae’n cryfhau ymddiriedaeth ac yn rhoi ymdeimlad o werth i bobl a’ch bod wedi gwrando arnynt.

Pan ydym yn bresennol, rydym yn rhoi ein sylw i gyd. Pan ydym yn bresennol, rydym yn bobl fwy cytbwys ac yn gallu rhoi ymateb gwell. Mae bod yn bresennol hefyd yn cyfnerthu ein hymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Byddwn yn gofyn cwestiynau gwell, yn deall mwy ac yn fersiwn well ohonom ni ein hunain (Prince, 2022).

Yn y fideo isod, mae cyfranwyr yn rhannu eu mewnwelediad i bwysigrwydd cyfathrebu effeithiol.

Download this audio clip.Audio player: hyb_6_2022_sept101_hybrid_communication_and_collaboration_new.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sut mae defnyddio sgiliau gwrando gweithredol?

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r holl awgrymiadau isod bob amser, ond treuliwch amser yn meddwl am eich effaith ar eich tîm, a hynny wyneb yn wyneb ac yn ystod galwadau o bell, i ddangos eich bod yn gwrando’n weithredol.

Gallech gymryd rhai o’r camau gweithredu canlynol os ydych yn gyfforddus gwneud hynny:

  1. Talwch eich holl sylw a gwrandewch yn astud. Felly, cadwch yr holl bethau sy’n denu’ch sylw a chanolbwyntiwch ar ysgogiadau cyfathrebu ar lafar ac nad ydynt ar lafar.
  2. Dangoswch eich bod yn gwrando drwy wneud cysylltiad llygad neu ymateb i’r geiriau sy’n cael eu dweud. Nid yn unig nodio a gwenu, ond byddwch yn ddidwyll yn y ffordd yr ydych yn ymateb – gofynnwch gwestiynau, er enghraifft.
  3. Dangoswch empathi a gwrandewch ar beth sydd gan yr unigolyn i’w ddweud – ymatalwch rhag rhoi eich barn yn ddiwahoddiad, rhag meddwl am ddatrysiadau yn eich pen neu dorri ar ei draws. Os hoffech wella’ch cyfarfodydd, ystyriwch eu gwneud yn fwy cynhwysol ar gyfer yr ystod lawn o amrywiaeth yn eich tîm.

Nid pawb sy’n gwrando yr un fath: cynhaliwch gyfarfodydd sy’n niwro-gynhwysol

Gall cyfarfodydd, yn enwedig cyfarfodydd fideo, fod yn flinedig tu hwnt ac, fel y noda Amanda Kirby (2021): Mae bod yn hwylusydd yn gallu bod fel arweinydd cerddorfa, y cwbl yn chwarae alawon gwahanol ac yn dechrau arni ar adegau gwahanol.’

Nid yw galw pobl i mewn a gwneud cyswllt llygad gyda nhw yr un mor rhwydd o bell ag ydyw pan ydych chi i gyd yn yr un ystafell ffisegol, a gall fod yn anodd cymryd eich tro a gwybod pa bryd y dylech siarad a pha bryd na ddylech siarad. Rydym yn gwneud beirniadaethau nad oes gan rywun ddiddordeb neu nad yw’n gwrando os yw ei gamera wedi’i ddiffodd ond i rywun sy’n niwrowahanol, gall fod yn ffordd iddo dalu ei holl sylw a gwrando. Dim ond oherwydd bod camera rhywun wedi’i ddiffodd, peidiwch â meddwl yn ganiataol ei fod yn cysgu neu’n gwneud rhywbeth arall.

Ceir sawl awgrymiad ynghylch cynnal cyfarfodydd niwrogynhwysol yn y blog hwn ar LinkedIn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a ysgrifennwyd gan yr Athro Amanda Kirby. Mae hi hefyd yn sôn am sefydlu’r rheolau sylfaen a phwysigrwydd sicrhau trafodaeth ynghylch hyd a phwrpas y cyfarfod, annog pobl i newid enwau ar ddolenni Zoom o ran sut yr hoffent gael eu galw, ac efallai sillafu eu henw’n ffonetig neu gynnwys rhagenwau mewn perthynas â rhywedd.

Fel hwylusydd cyfarfodydd, efallai yr hoffech gynnwys poliau a chaniatáu sylwadau mewn bocsys sgwrsio er mwyn cael syniadau gan eraill. Mae hefyd yn eich caniatáu chi i leihau tuedd cydymffurfiad i roi lle i gyflogeion anghytuno ac i’r rheini sydd efallai yn teimlo’n anghyfforddus i beidio â chodi llais. Gallech gael sgyrsiau cynnydd ar ôl cyfarfodydd drwy ofyn a oes unrhyw gefnogaeth a fyddai wedi helpu ar gyfer y cyfarfod.

Ffordd arall o alluogi cyfranogwyr i wrando’n astud yw rhoi cyfle iddynt wrando eto drwy rannu a chofnodi’r cyfarfod.