Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.6 Magu ymddiriedaeth

Os nad ydych yn ymddiried yn eich cyflogeion neu eich tîm – os ydych yn gweld eich hun yn gofyn ‘sut ydw i’n gwybod a ydynt yn gweithio ai peidio?’ – yna mae hyn yn awgrymu nad ydych yn y meddylfryd cywir i lwyddo gyda gweithio hybrid yn eich sefydliad. Fel y soniwyd gennym eisoes, mae ffyrdd newydd o weithio yn gofyn ffyrdd newydd o arwain. Gellir dadlau mai’r cam pwysicaf o hyn yw magu ymddiriedaeth.

Adnabuwyd dwy ran o’r cysyniad o ymddiriedaeth:

  • Ymddiriedaeth wybyddol: Hynny yw, pa mor hyderus yw rhywun am allu neu ddibynadwyedd rhywun arall, yn aml gan ddefnyddio meini prawf gweddol wrthrychol i feirniadu ei allu, megis mesurau perfformio, dyfarniadau neu gymwysterau. Mae hyn wedi’i ddisgrifio’n ‘fath diangerdd o ymddiriedaeth’.
  • Ymddiriedaeth affeithiol: Hynny yw, y ffordd mae rhywun yn teimlo am ei berthynas gyda rhywun arall, a’i deimladau ynghylch a ydy’r unigolyn arall yn ymddangos yn foesegol, yn ddibynadwy a bod ganddo integriti. Ymddiriedaeth yw hon sydd wedi’i hysgogi gan ffactorau emosiynol a pherthynol.
(Buddsoddwyr mewn Pobl, dim dyddiad)

Ennill ymddiriedaeth gan eich tîm

To earn trust, money and power aren’t enough; you have to show some concern for others. You can’t buy trust in the supermarket.

Ond oes angen i ‘gyflogion ennill fy ymddiriedaeth’? Anghywir – mae hon yn agwedd hen ffasiwn, ac mewn gwirionedd rydym yn rhoi ymddiriedaeth i bobl nad ydynt wedi’i hennill. Yn ôl Armstrong (2019): Pan gredwn fod angen i bobl ennill ein hymddiriedaeth, rydym yn dechrau cyflwyno cloeon mai dim ond ni sydd â’r allweddi iddynt, gan obeithio y bydd eraill yn agor eu drysau i ni’.

Pwysleisia Jurgen Appelo (2011) fod ymddiriedaeth yn gweithredu mewn dwy ffordd. Gallwch ddewis ymddiried yn rhywun, a gall ef ddewis ymddiried ynoch chi – ond efallai na fydd hyn yn digwydd ar yr un pryd.

Ceir adegau pan ydych yn ymddiried yn eich tîm, ond efallai nad oes ganddynt hwy ymddiriedaeth ynoch chi fel arweinydd. Allwch chi ddim cymryd yn ganiataol y bydd y tîm yn ymddiried ynoch chi – rhaid i chi ennill ymddiriedaeth fel arweinydd. Pan mae diffyg ymddiriedaeth, gall hyn achosi problemau i’r tîm.

Dadl Appelo (2011) yw fel arweinydd, rhaid i chi fod yn gyson gyda’ch ymddygiad i fagu ymddiriedaeth. Byddwch yn rhagfynegadwy o bleserus i aelodau’ch tîm er mwyn helpu i sefydlu ymddiriedaeth affeithiol. Yn yr un modd, gallwch fagu ymddiriedaeth drwy wneud yr hyn yr ydych wedi ymrwymo i’w wneud. Y prif arferiad y mae angen i chi ei ddatblygu fel arweinydd yw glynu wrth eich ymrwymiadau. Felly, os ydych wedi addo rhoi cyfrifoldebau i aelodau eraill y tîm, peidiwch ag amharu neu ddechrau microreoli. Os ydych yn addo helpu cydweithiwr neu anfon gwybodaeth iddo, cofiwch wneud hyn.

Gall glynu wrth eich ymrwymiadau eich helpu chi i fagu ymddiriedaeth, ond cofiwch ei bod hi’n rhwydd dinistrio ymddiriedaeth os nad ydych yn cyflawni’r hyn yr ydych wedi’i ddweud y byddwch yn ei wneud.

Blociau adeiladu ymddiriedaeth

Dyma amlinelliad o’r ffyrdd o fagu ymddiriedaeth yn ôl Jaffe (2018):

  1. Sicrwydd a dibynadwyedd
  2. Tryloywder
  3. Cymhwysedd
  4. Didwylledd, dilysrwydd a chysondeb
  5. Tegwch
  6. Natur agored a bregusrwydd

Mae ymddiriedaeth yn ymateb naturiol i briodweddau penodol a geir ymhlith unigolion ac os nad yw’r rheini’n bresennol, yna gall ymddiriedaeth ddiflannu.

Cyflawni diwylliant o ymddiriedaeth

Mae’n anodd magu diwylliant o ymddiriedaeth yn y gweithle lle mae ofn yn deimlad cyffredin. Gall awgrymu unrhyw newid arwain at natur amddiffynnol hyd yn oed. Wedi dweud hynny, fel arweinydd, efallai y bydd angen i chi gamu allan o’ch cylch cysur a magu ymddiriedaeth yn y tîm. Mae gan Ryan (2018) rai awgrymiadau ar sut mae gwneud hyn:

  • Siaradwch gyda’ch tîm am ddiwylliant y sefydliad. Trafodwch lle mae yna ofn a lle mae yna ymddiriedaeth, a sut mae gwella pethau. Os oes ofn a diffyg ymddiriedaeth yn y diwylliant, gall gymryd amser i aelodau’r tîm deimlo’n ddiogel i fynegi eu safbwyntiau. Rhaid i chi gefnogi’r diogelwch hwnnw.
  • Osgowch ddiwylliant sy’n beio – fel yr ydych wedi’i weld sawl gwaith, mae diogelwch seicolegol a pharodrwydd i gyfaddef camgymeriadau yn hanfodol ar gyfer timau hyblyg, llwyddiannus. Fel rhan o hyn, cyfaddefwch i’ch camgymeriadau eich hun a chamgymeriadau sy’n cael eu gwneud yn rhannau eraill y sefydliad sy’n berthnasol i’ch tîm.
  • Adolygwch lawlyfrau a pholisïau cyflogeion – a yw’r rheolau hyn sy’n llywio’r diwylliant yn debygol o ysgogi ofn neu ymddiriedaeth? Meddyliwch beth allwch chi ei wneud i newid hyn.
  • Ceisiwch greu cyfleoedd am gyfarfodydd rhwng y tîm arwain a’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen. Bydd ymddiriedaeth yn gwella os bydd y rheini ar bob lefel yn dod i nabod ei gilydd yn well fel pobl.
  • Dangoswch eich bod yn gwerthfawrogi aelodau eich tîm fel pobl wrth i chi ryngweithio gyda nhw.
  • Gwiriwch gydag aelodau’r tîm yn rheolaidd ac ymatebwch i’w hadborth.
  • Osgowch jargon pan fyddwch yn cyfathrebu gyda’ch tîm – cyfathrebwch gyda nhw yn ddi-flewyn ar dafod.
  • Byddwch yn onest gyda’ch tîm o ran cyfathrebu’r hyn sy’n digwydd yn y sefydliad ehangach, o ran cynlluniau, blaenoriaethau a heriau.

Yn y fideo nesaf, mae’r cyfranwyr yn sôn am bwysigrwydd magu ymddiriedaeth, a dulliau y gellir eu cymryd i’w chyflawni.

Download this video clip.Video player: hyb_2_2022_sept108_building_trust_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).