Transcript
Adroddwr
Beth fu effaith gwirfoddoli ar eich bywyd a'ch gyrfa?
Dyn 1
Gwirfoddoli yn sicr... ynghyd â chyrsiau rheoli amser y Brifysgol Agored, mae angen i chi gynllunio eich nosweithiau o amgylch y gwaith cwrs rydym yn ei gyflawni yma.
Dynes
Dwi wedi bod yn mynd i'r carchar ers tair blynedd nawr. Erm… pan ddechreuais gyntaf, gwnes hynny er mwyn cael profiad yn y gweithle gyda'r syniad naill ai o astudio seicoleg addysgol neu glinigol, fodd bynnag, aeth y seicoleg fforensig â'm bryd ac ar ôl cwblhau'r tair blynedd, rwyf wedi penderfynu, gobeithio, astudio gradd feistr mewn gwyddoniaeth fforensig a datblygu o hynny.
Dynes 2
Wel, yn fy marn i, mae'n ychwanegu dimensiwn arall i'ch bywyd, i ryw raddau, rydych yn cael cymaint ag y byddwch yn ei roi mewn gwirionedd, gwn fod hynny'n beth cyffredin i'w ddweud ond mae'n wir. Mae'n gyfle cymdeithasol os ydych am gyfle cymdeithasol, yn gyfle i wneud llawer o ffrindiau newydd os ydych am wneud hynny, ac yn bersonol, os gallaf rannu fy ngwybodaeth ac yn bwysicach, fy mrwdfrydedd gyda phobl eraill, yna dwi'n hapus.
Dynes 3
Dwi'n credu mai'r hyn a'm synnodd fwyaf pan gynigiais helpu drwy wirfoddoli, oedd yr effaith a gafodd ar fy mywyd ac yn lle rhoi i bobl eraill, roedd yr hyn a gefais yn gyfnewid am hynny mewn gwirionedd 10 gwaith yn fwy.
Dyn 2
Mae effaith gwirfoddoli ar fy mywyd wedi bod yn sylweddol a dweud y gwir. Yn gyntaf dwi wedi cwrdd â llawer o ffrindiau newydd sydd wedi bod yn ddiddorol i mi. Dwi wedi dysgu cryn dipyn am faes penodol, sef pobl ag anawsterau dysgu a'r heriau sy'n eu hwynebu. Rwy'n eiriolwr i rywun ag anawsterau dysgu a bu'n ddiddorol gweld yr holl rwystrau y mae'n dod ar eu traws, ac mae hefyd, o bosibl, wedi sicrhau fy mod yn fwy amyneddgar pan fyddaf yn cael problemau yn y gwaith hefyd gan fy mod yn cydnabod bod pawb fwy na thebyg yn gorfod brwydro yn erbyn pethau llawer anos na fi o bryd i'w gilydd, felly bu'n ddiddorol ehangu'r safbwynt hwnnw.