1 Pam gwneud hynny?
1.1 Cyflwyniad
Recent findings show that volunteers report higher ratings on the measures of life satisfaction, happiness, and feeling that the things they do in life are worthwhile. Last year the number of people volunteering at least once a month rose to 29%, which may be thanks in part to the high profile volunteering received during the 2012 London Olympic Games.
Mae gwirfoddoli yn amlwg yn faes pwysig, a gall gyfrannu at feithrin sgiliau er mwyn gwella cyflogadwyedd.
Gall y cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli amrywio'n fawr. Roedd Gemau Olympaidd 2012 yn dibynnu ar 70,000 o wirfoddolwyr, a gall gwirfoddoli hefyd olygu, er enghraifft, garddio ar gyfer hen wraig unwaith yr wythnos.
Bydd unrhyw waith gwirfoddol yn helpu i feithrin y sgiliau i wella eich cyflogadwyedd, ond os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, mae'n werth cymryd amser i asesu'r hyn sydd gennych i'w gynnig a'r hyn fyddai fwyaf addas ar eich cyfer. Po fwyaf brwdfrydig ac ymroddedig y byddwch, y mwyaf tebygol y byddwch o wella eich rhagolygon swydd.
Os ydych eisoes yn gwneud gwaith gwirfoddol, ond eich bod am ystyried sut i'w ddefnyddio i wella eich rhagolygon swydd, yna defnyddiwch Adrannau 4-7.