Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi
Defnyddio gwaith gwirfoddol i gamu ymlaen yn y farchnad swyddi

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Nodi sgiliau a rhinweddau personol

Mae sawl ffordd o wneud hyn:

Myfyriol

Mae'n gyfle ardderchog i fyfyrio amdanoch chi'ch hun ac i ofyn i eraill, eich ffrindiau, teulu neu gydweithwyr yn union beth y maent hwy'n ei feddwl hefyd. Byddwch yn realistig am eich cryfderau a'ch gwendidau. Gofynnwch iddynt fod yn onest; gall gwendidau fod yr un mor bwysig â chryfderau yn hyn o beth!

Edrychwch ar adran 'Know yourself' gwefan Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd y Brifysgol Agored, sy'n ymdrin â chryfderau a sgiliau personol.

Gweithgaredd 2

Defnyddiwch Daflen waith 1 fel adnodd i awgrymu syniadau, ac i gofnodi eich casgliadau.

Taflen waith 1

Edrychwch ar y ddogfen81.9KB PDF document
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ymarferol

Efallai yr hoffech ymweld â gwefannau fel Do-it neu wefannau unrhyw un o'r prif elusennau hefyd. Maent yn disgrifio'r rhinweddau personol sydd eu hangen ar gyfer unrhyw un o'u swyddi gwag e.e. peidio â barnu, amynedd, hyblygrwydd. Edrychwch i weld p'un a ydych yn addas. Bydd y gwefannau hyn hefyd yn nodi a oes angen unrhyw sgiliau penodol ar gyfer swydd, megis TG, gyrru ac ati ac yn rhoi syniad am ystyriaethau ymarferol, megis ymrwymiad amser.

Gweithgaredd 3

Defnyddiwch Daflen waith 2 fel adnodd i asesu sut y gallai materion fel symudedd, argaeledd amser, lleoliad ac ati ddylanwadu ar eich gwaith gwirfoddol. Awgrymir rhai atebion ar gyfer unrhyw broblemau posibl, e.e. gwirfoddoli rhithwir i'r rheini sydd ond yn gallu cynnig slotiau amser afreolaidd neu'r rheini â diffyg symudedd.

Taflen waith 2

Edrychwch ar y ddogfen61.6KB PDF document
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).