2.1 Delio ag ansicrwydd
Rhaid i bob sefydliad ymdrin ag ansicrwydd, a all fod oherwydd ffactorau mewnol a/neu allanol. Er bod hyn yn elfen gyson i sefydliadau, gall effeithio, nid yn unig ar allu sefydliad i ffynnu, ond hefyd ar lesiant y rhai o’i fewn.
Mae cael dull cadarn o reoli ansicrwydd yn gofyn am ddiben a gweledigaeth glir, a strwythur sydd wedi ymwreiddio ar gyfer newid i helpu i reoli disgwyliadau a dealltwriaeth pam bod angen newid, yn y tymor byr a hir.
Mae llawer o sefydliadau yn cynllunio ar gyfer y dyfodol tymor byr a hir, ar sail dealltwriaeth o’r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo.
Mae’r fframweithiau VUCA (volatile - anwadal, uncertain - ansicr, complex - cymhleth ac ambiguous - amwys), TUNA (turbulent - cythryblus, uncertain- ansicr, novel - newydd, ambiguous - amwys) a’r Fframwaith Cynefin yn canolbwyntio ar wneud synnwyr o systemau trefnus, cymhleth a dryslyd mewn cyfnod o ansicrwydd. Fe’u defnyddir yn aml gan sefydliadau i helpu wrth wneud synnwyr o ansicrwydd, cynllunio at y dyfodol ac ymdrin â newid.
Defnyddiwyd y byrfodd VUCA gan fyddin UDA yng nghyswllt yr amgylchedd diogelwch rhyngwladol ar ôl 2001 (Stiehm, 2002).
Addaswyd y byrfodd ar gyfer busnesau gan Bob Johansen (2009) i ddisgrifio sut y mae grymoedd allanol yn amharu ar sefydliadau. Awgrymodd Bill George (2017) bod angen i arweinwyr mewn sefydliadau sy’n cynllunio ar gyfer ansicrwydd fod yn ddilys, greu eglurder, a bod â dewrder yn eu penderfyniad a’r gallu i addasu (Ffigwr 3).
Dull damcaniaeth gymdeithasol yw amgylcheddau TUNA i ddeall yr amodau ar gyfer ansicrwydd, a ddatblygwyd gan Dr Rafael Ramirez a Dr Angela Wilkinson, yn yr Oxford Scenario Planning Approach (OSPA). Mae’r dull hwn yn un defnyddiol i ystyried, cynllunio ac ymateb i newid cyflym a radical, a gall helpu sefydliadau i ddatblygu ‘Ail-fframio strategol’ i ddatrys problemau.
Mae’r fframwaith Gwneud Synnwyr Cynefin a ddatblygwyd gan Dr David Snowden yn helpu arweinwyr a sefydliadau i wneud synnwyr o sefyllfaoedd gwahanol, a dangos y gall fod arnynt angen dull gwahanol o wneud penderfyniadau. Mae’n rhoi pum maes i asesu’r sefyllfa.
Mae cymhlethdod gweithredu mewn amgylchedd ansicr yn golygu y gall llawer o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau gael eu hystyried yn ‘broblemau enbyd’ (Rittel a Webber, 1973) neu broblemau anhydrin. Byddwch yn archwilio’r rhain yn yr adran nesaf.