Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Y broblem gyda phroblemau

Yn ôl Wong (2020), problem ddyrys (Saesneg: ‘a wicked problem’) yw ‘a social or cultural problem that’s difficult or impossible to solve – normally because of its complex and interconnected nature’. Ymhlith yr enghreifftiau mae tlodi, cynhesu byd-eang a thagfeydd traffig.

Gall problemau dyrys fod yn gymhleth ac anodd i nodi beth yn union yw'r broblem a beth yw'r ateb gorau o bosibl. Yn aml, mae hyn oherwydd gwybodaeth a safbwyntiau croes, y rhyngddibyniaethau y mae angen eu hystyried, niferoedd mawr y bobl y gallent effeithio arnynt a'u hyfywedd economaidd.

Nododd Rittel a Webber (1973) ddeg nodwedd problemau dyrys:

  1. Nid oes fformiwleiddiad pendant i broblem ddyrys.
  2. Nid oes gan broblemau dyrys ‘reol stopio’ (h.y., nid oes ateb pendant).
  3. Nid yw'r atebion i broblemau dyrys yn gywir neu'n anghywir, ond yn dda neu'n ddrwg.
  4. Nid oes ateb di-oed ac nid oes prawf eithaf o ateb i broblem ddyrys.
  5. Gweithred un tro yw pob ateb (y rhoddwyd cynnig arno) i broblem ddyrys; ni ellir dadwneud y canlyniadau'n hawdd ac nid oes cyfle i ddysgu drwy hap a damwain.
  6. Nid oes gan broblemau dyrys set gyfrifadwy (na set gynhwysfawr y gellir ei disgrifio) o atebion posibl, ac nid oes ychwaith set wedi'i disgrifio'n dda o weithredoedd y gellir eu caniatáu y mae modd eu hymgorffori yn y cynllun.
  7. Yn ei hanfod, mae pob problem ddyrys yn unigryw.
  8. Gellir ystyried bod pob problem ddyrys yn symptom o broblem arall.
  9. Gellir esbonio bodolaeth yr anghysondeb o ran cynrychioli problem ddyrys mewn ffyrdd niferus.
  10. Nid oes gan y cynllunydd yr ‘hawl i fod yn anghywir’ (h.y., nid yw arbrofion sy'n methu'n cael eu goddef gan y cyhoedd).
Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 6: Problemau dyrys / ‘Wicked problems’, wedi ei addasu gan Sarkar a Kotler (dim dyddiad) o Rittel a Webber (1973)

Oherwydd ei natur, efallai na fyddwch yn gallu datrys y broblem enbyd gyffredinol, ond gallwch liniaru rhai o’r canlyniadau. Mae hyn yn gofyn am fod yn agored i syniadau ac arbrofi gyda dulliau gwahanol, fel dylunio ar sail pobl neu ffocws rhyngddisgyblaethol (IDEO, 2022).

Er bod gan broblemau enbyd fframwaith i’w hystyried felly, dull arall yw meddwl am broblemau fel rhai ‘anhydrin’ – y rhai nad oes dull amlwg i’w datrys. Wrth i chi ystyried problem rydych yn ei hail-fframio a cheisio gwneud synnwyr o’r broblem a chwilio am lwybrau gwahanol fydd yn lliniaru’r mater. Daw hyn o ddefnyddio dull sy’n rhoi mwy o bwyslais ar bobl o ddatrys problemau.

Human-centred design is a creative approach to problem solving that starts with the needs of the user, emphasises the importance of diverse perspectives, and encourages solution-seeking among multiple actors. It consists of five phases: Empathise, Define, Ideate, Prototype and Test. What differentiates human-centred design from other problem-solving approaches is its focus on understanding the perspective of the person who experiences a problem most acutely.

Ffynhonnell: UNDP (dim dyddiad) Human-Centered Design

Mae hyn yn golygu arsylwi, gan ddefnyddio empathi i archwilio’r broblem ymhellach, i ddatgelu’r hyn nad yw’n amlwg ar y dechrau, creu syniadau, gyda gweithgareddau profi a dysgu i gasglu adborth, cyn gweithredu ateb posibl.

Gweithgaredd 3: Pa broblemau sydd gan eich SAU?

Timing: 15 munud

Darllenwch yr erthygl ganlynol: Nothing is intractable: you can change the world [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac yna ystyriwch a oes gan eich SAU broblemau enbyd neu anhydrin. A dulliau y gellid eu defnyddio i’w deall ac o bosibl eu hail-fframio neu eu datrys.

Nodwch eich canfyddiadau yn y blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).