2.3 Archwiliwch ffactorau allanol eich sefydliad
Yn ogystal â dal i weithredu mewn byd ansicr, mae deall eich amgylchedd allanol yn allweddol. Fframwaith syml i ddadansoddi eich amgylchedd yw’r model PESTLE. Fe’i dyluniwyd i helpu i archwilio’r ffactorau allanol allweddol a all ddylanwadu ar eich sefydliad – Political -Gwleidyddol, Economaidd - Economaidd, Social - Cymdeithasol, Technological -Technolegol, Legal - Cyfreithiol ac Environmental - Amgylcheddol.
Mae’r model yn gadael i chi ystyried eich cyd-destun yng nghyswllt eich amgylchedd sefydliadol a meddwl am yr effaith y rheolaeth a’r dylanwad y gall ffactorau allanol eu cael. Dylai ysgogi sefydliad i ymchwilio ymhellach i’r meysydd hyn.
Gweithgaredd 4: Gwerthuso eich amgylchedd
Gan ddefnyddio’r model PESTLE i ddadansoddi, gwerthuswch yr amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddo a defnyddio’r problemau y gwnaethoch eu dynodi yn y gweithgaredd blaenorol. Efallai y byddwch am ddefnyddio’r templed a ddarperir.
Os nad ydych yn gyfarwydd â defnyddio’r model PESTLE, mae gwefan CIPD yn rhoi trosolwg defnyddiol a fideo ar y Dadansoddiad PESTLE.
Tra’r oeddech yn meddwl am yr amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddo a beth allai achosi problem, efallai eich bod wedi ystyried pwysigrwydd cynaliadwyedd a llesiant. Rydym yn archwilio hynny'n fanylach yn adran nesaf y cwrs.