3.2 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Gan Gymru y mae rhai o’r deddfau mwyaf cyfredol yn y byd, gan ddefnyddio arfer da o bob rhan o’r byd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Llywodraeth Cymru, 2015) yn rhoi dyletswydd ar yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru i roi cynaliadwyedd yn ganolog i’r holl waith o lunio penderfyniadau. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweithredu fel ‘gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol’, gan newid ffocws penderfyniadau i’r effeithiau tymor hir a chofnodi cynnydd (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, dim dyddiad).
‘Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi'r uchelgais, caniatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.’
‘Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.’
‘Mae’r Ddeddf yn unigryw i Gymru ac yn denu diddordeb o wledydd ar draws y byd, gan ei bod yn cynnig cyfle gwych i wneud newid hirbarhaol, positif i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.’
Mae’r ddeddf yn ddiben cyffredin sy’n rhwymol yn gyfreithiol yn canolbwyntio ar saith o nodau llesiant sy’n rhoi manylion y ffyrdd y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant Cymru. Y Ddeddf yw’r ddeddf fwyaf datblygedig o blith pedair cenedl y Deyrnas Unedig, sy’n anelu at wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Yn y fideos isod mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn esbonio’r Ddeddf a’r effaith y mae wedi ei gael ar Gymru, a Jane Davidson, Awdur #futuregen: Lessons from a Small Country yn esbonio sut y crëwyd y Ddeddf.
Transcript
Transcript
Y saith nod llesiant
Er mwyn sicrhau bod Cymru’n gweithio tuag at yr un diben a gweledigaeth gyffredin, mae gan y ddeddf saith nod llesiant y mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus weithio i’w cyflawni. Esbonnir y rhain yn Nhabl 1.
Cymru Lewyrchus Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
|
Cymru gydnerth Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid. |
|
Cymru sy’n fwy cyfartal Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
|
Gymru Iachach Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol |
|
Gymru o Gymunedau Cydlynys Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
|
Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
|
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
Mae gan y Ddeddf bwyslais cryf ar sut y bydd y nodau’n cael eu cyflawni trwy annog cyrff cyhoeddus a sefydliadau i ddefnyddio egwyddorion datblygu cynaliadwy tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio, a chynnwys, fel sy’n cael eu darlunio yn y tabl Pum Dull o Weithio isod.
Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd. |
|
Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill. |
|
Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu. |
|
Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant. |
|
Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion. |
Mae pensaernïaeth y Ddeddf yn cysylltu â Nodau a fframwaith Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r ddelwedd isod yn rhoi trosolwg cyffredinol o sut y bydd ei heffaith yn cael ei fesur.
Gweithgaredd 6: Ymgyfarwyddo
Dechreuwch ymgyfarwyddo â gwefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Wrth i sefydliadau weithredu mewn hinsawdd ansicr, mae llesiant a chynaliadwyedd yn allweddol bwysig, ac mae’n hanfodol ymwreiddio hyn mewn gweithgareddau datblygu sefydliadol a datblygu dealltwriaeth gweithwyr a’u gallu.
Trwy gydol y casgliad Cefnogi Gweithio Hybrid a Thrawsnewid Digidol, cyfeirir chi at wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n cynnwys y ddeddf gyfan, ond hefyd adnoddau niferus sy’n ei hesbonio yn syml, awgrymiadau ymarferol ac astudiaethau achos o sut y gall sefydliad wella llesiant a chefnogi ei gymuned leol.
Argymhellir chi i ddarllen Canllaw hanfodol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd ar gael ar y brif dudalen sy’n rhoi mynediad i’r Ddeddf gyfan a throsolwg o’r dull y mae Cymru wedi ei ddefnyddio, ac yna fel y bydd gennych amser tu hwnt i’r amser a ddyrennir ar gyfer astudio’r cwrs hwn, rhowch fwy o sylw i’r wefan.