3.3 Lleihau eich allyriadau carbon
It is unequivocal that human influence has warmed the atmosphere, ocean and land. Widespread and rapid changes in the atmosphere, ocean, cryosphere and biosphere have occurred.
Mae’r dyfyniad uchod o adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd / Intergovernmental Panel on Climate Change (IPCC) yn amlygu effaith gweithgareddau pobl ar newid hinsawdd, ac mae llawer yn ystyried ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd. Mae’r angen i ddechrau lliniaru effaith ein gweithgareddau a’n hymddygiad yn awr yn hanfodol. Fel yr ydych wedi gweld yn yr adrannau blaenorol mae datblygu nodau byd-eang, deddfwriaeth genedlaethol a gosod targedau yn rhoi fframwaith i yrru newid.
Yn y casgliad hwn rydym wedi dechrau eich cyflwyno i feddwl am gynaliadwyedd, mae adnoddau pellach ar gael yn Hwb Cynaliadwyedd y Brifysgol Agored [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar OpenLearn.
Er y gallech fod yn gyfarwydd â llawer o’r termau a chysyniadau allweddol sy’n ymwneud â newid hinsawdd, yn yr adran hon rydym yn rhoi trosolwg o rai o’r termau a ddefnyddir yn aml. Efallai y byddwch hefyd am nodi geirfa Adroddiad Arbennig yr IPCC: Cynhesu byd-eang o 1.5 ºC, sy’n rhoi rhestr lawn o ddiffiniadau.
Newid hinsawdd
Mae Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn diffinio newid hinsawdd fel:
‘Climate change’ means a change of climate which is attributed directly or indirectly to human activity that alters the composition of the global atmosphere and which is in addition to natural climate variability observed over comparable time periods.
Sero net
Sero net yw llwyddo i gael cydbwysedd rhwng y carbon sy’n cael ei allyrru i’r atmosffer a’r hyn sy’n cael ei dynnu o’r atmosffer.
Yn y fideo yma mae Stephen Peake, Athro Newid Hinsawdd ac Ynni yn y Brifysgol Agored, yn rhoi trosolwg o sero net.
Transcript
Cynhesu byd-eang
Cynhesu byd-eang yw’r cynnydd tymor hir yn nhymheredd arwyneb y Ddaear oherwydd gweithgareddau pobl, sy’n cynyddu nwyon tŷ gwydr sydd â’r potensial i gynhesu a newid ein hinsawdd fyd-eang.
Yn y fideo mae Stephen Peake, yn rhoi trosolwg o gynhesu byd-eang.
Transcript
Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Mae’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr yn fframwaith byd-eang i fesur a rheoli allyriadau nwyon tŷ gwydr i alluogi safonau cyfrifo ac adrodd corfforaethol ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr oddi wrth sefydliadau.
Rhoddir yr allyriadau nwyon tŷ gwydr mewn grwpiau a elwir yn ‘gwmpas’ a ddangosir yn y tabl a’r ffigwr isod. Mae Cwmpas 1 a 2 yn gofyn am roi adroddiadau gorfodol gan sefydliadau. Gall fod yn heriol pennu allyriadau Cwmpas 3, ond maent yn gyfrifol am tua 80% o allyriadau sefydliadau.
Cwmpas 1 Allyriadau uniongyrchol |
Cwmpas 2 Allyriadau anuniongyrchol |
Cwmpas 3 Yr holl allyriadau anuniongyrchol eraill |
---|---|---|
O ffynonellau sy’n cael eu rheoli neu yn eiddo i sefydliad. | O brynu trydan, ager, gwres neu oeri. | Allyriadau sy’n cael eu creu gan gadwyn gyflenwi a gwerth sefydliad. |
Hylosgiad tanwydd Cerbydau cwmni Cyfleusterau cwmni |
15 categori
|
Troednodyn
Ar sail gwybodaeth o wefan y Protocol Nwyon Tŷ GwydrYn y fideo mae Scott Stonham, Dadansoddwr Technoleg Gynaliadwy Annibynnol ac awdur adroddiad ‘Exploring digital carbon footprints’ Jisc, yn esbonio’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr.
Transcript
Ôl troed carbon
Mae ôl troed carbon yn ddull o fesur y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir yn uniongyrchol neu anuniongyrchol gan weithgareddau unigolyn, sefydliadau a chymuned, a’r gweithgareddau i gynhyrchu cynnyrch.
Yn y fideo mae Stephen Peake yn esbonio beth yw ôl troed carbon.
Transcript
Os ydych yn dymuno deall rhagor am eich ôl troed carbon eich hun, gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell Carbon y Brifysgol Agored ar OpenLearn.
Yr economi gylchol
Fframwaith i daclo heriau byd-eang gan gynnwys newid hinsawdd yw’r economi gylchol sy’n seiliedig ar dair egwyddor:
- Diddymu gwastraff a llygredd
- Cylchredeg cynhyrchion a deunyddiau
- Adfywio natur
Yn y fideo mae Dr Alice Moncaster, Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy yn y Brifysgol Agored, yn rhoi trosolwg o’r economi gylchol.
Transcript
Mae ffocws cynyddol ar yr economi gylchol, maes y gallech fod yn dymuno dod yn ôl ato i’w archwilio ymhellach. Mae’r rhan Mwy nag ailgylchu ar wefan Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ei strategaeth i wneud yr economi gylchol yng Nghymru yn ffaith, a’r asesiad llesiant, yn rhoi cipolwg ar yr hyn y mae angen i sefydliadau ei ystyried i ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o leihau gwastraff a gwarchod adnoddau.