Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4 Ôl troed carbon digidol

Mae effaith carbon technoleg a gweithio’n ddigidol wedi bod yn cael mwy o sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i ni ddechrau deall ac olrhain yr effaith yn fwy effeithiol.

‘IT is often one of the biggest contributors to an education institution’s own carbon footprint, with one UK college attributing 20% of its emissions to IT alone.’

Wrth weithio tuag at gyrraedd sero net, mae angen i sefydliadau ddechrau deall eu hôl traed carbon digidol, nid yn unig o ran eu ‘mannau digidol’, ond hefyd caffael, seilwaith digidol, rheolaeth ar offer ffisegol a defnyddio trydan.

Rydym yn awr yn byw mewn byd lle mae popeth ‘ar y cwmwl’. Ond, nid yw llawer o bobl yn meddwl beth yw’r cwmwl mewn gwirionedd. Ar lefel sylfaenol iawn, mae’n weinyddwyr data. Tra bod gan lawer o sefydliadau weinyddwyr ar y safle, mae’r rhan fwyaf yn defnyddio ‘gweinyddwyr cwmwl’. Gweinyddwyr yw’r rhain sy’n cael eu rheoli gan gyflenwr trydydd parti yn unrhyw le yn y byd.

Mae hyn yn codi cwestiwn diddorol i sefydliadau – mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau prynu TG yn seiliedig ar anghenion y sefydliad, y dibynadwyedd, gwasanaeth a’r offer y gall cyflenwr eu darparu, a’r gost. Gall llawer o ddatrysiadau TG fod wedi cael eu prynu cyn i’r pwyslais ar gynaliadwyedd ddechrau dod yn rhan o’r broses gaffael. Mae darparwyr TG mawr yn ymwybodol o hyn ac wedi gwella cynaliadwyedd eu gwasanaethau yn wirfoddol, yn arbennig yn gysylltiedig â’r cwmwl.

Mae llawer o sefydliadau yn awr yn datblygu strategaethau ar gyfer eu dull, er enghraifft mae Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Dull Strategol Technoleg a Gwasanaethau Ddigidol Gynaliadwy 2021-2025 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n rhoi uchelgais syml ar gyfer allyriadau sero net.

Mae rhai newidiadau syml y gall unigolion gael eu hannog i’w mabwysiadu i helpu sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon. Gellir rheoli hyn trwy bolisïau a phrosesau newydd, fel peidio â chael delweddau mewn llofnodion e-bost, annog dolenni at ddogfennau a rennir yn hytrach na’u hanfon fel atodiad a pholisïau clir am ddileu ffeiliau digidol.

Yr hyn sydd yn fwy heriol yw penderfyniadau ar systemau, seilwaith, caffael a rheoli offer. Mae oes a gwaredu offer ffisegol yn cyfrannu nid yn unig at allyriadau carbon ond at wastraff hefyd. Mae llawer o sefydliadau yn mabwysiadu polisïau oes hwy i offer, yn ystyried eu dewis o gyflenwyr, yn arbennig ar gyfer gwasanaethau cwmwl ac yn dechrau deall oblygiadau allyriadau carbon gweithio o bell.

Yn gynharach yn y cwrs fe wnaethom gyflwyno’r ‘Cwmpasau’ Protocol Nwyon Tŷ Gwydr, y dylid eu hystyried wrth reoli eich ôl troed carbon, trwy ganolbwyntio ar feysydd a all arwain at yr effaith mwyaf i leihau eich allyriadau.

Mae adroddiad Jisc Exploring your digital carbon footprint yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o ffynhonnell ac effaith olion traed carbon digidol mewn pedwar maes: caffael, TG ar y safle, technolegau cwmwl a gweithio o bell.

Yn y fideo isod mae Scott Stonham, awdur yr adroddiad, yn rhoi trosolwg o’r canfyddiadau allweddol.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep109_exploring_digital_carbon_footprint_report_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Marciwch yr adroddiad Jisc i ddatblygu eich dealltwriaeth o’ch ôl troed carbon digidol i’w ddefnyddio yn eich sefydliad ac efallai yr hoffech archwilio'r erthyglau a restrir isod a ysgrifennwyd gan Scott Stonham ar OpenLearn.. Er y gallech ei ddarllen yn rhan o’r cwrs hwn, nid yw wedi ei gynnwys yn yr amser astudio a ddyrannwyd.

Gweithgaredd 7: Pa gwmwl?

Timing: 15 munud

Darllenwch yr erthygl ganlynol, ac ateb y cwestiwn canlynol:

Wrth wneud penderfyniad prynu, beth ddylai sefydliadau fod yn ei ystyried am arferion cynaliadwyedd y cyflenwr posibl? Efallai y byddwch am wneud nodiadau yn y blwch testun rhydd isod.

Amazon, Google, Microsoft: Here’s who has the greenest cloud

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).