Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.5 Datblygu cynaliadwy

Ar ddechrau’r cwrs, fe wnaethom gyflwyno ffyrdd hybrid o weithio: fframwaith cynaliadwyedd cyd-destunol sy’n awgrymu:

  1. Dylech chi a’ch ffyrdd o weithio ystyried y rhanddeiliaid allweddol yn eich amgylchedd a’u hanghenion yng nghyswllt datblygu sefydliadol.
  2. Mae arnoch angen deall gofynion sefydliadol, y cyd-destun, cysylltiadau, a’r gofynion ar gyfer meysydd allweddol a sut y mae’r rhain yn gysylltiedig ag anghenion eich rhanddeiliaid.
  3. Mae arnoch angen ystyried eich ffordd o weithio er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r fframwaith yn seiliedig ar y Triple Bottom Line (Elkington, 1994), ac mae wedi ei ddylunio i gynorthwyo wrth sicrhau bod llesiant yn rhan ganolog o ddatblygu dull eich sefydliad o ymdrin â chynaliadwyedd, trwy ystyried tri philer cynaliadwyedd: Cymdeithasol/Pobl, Amgylcheddol/Planed, ac Economaidd/Elw. Maent yr un mor bwysig â’i gilydd.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 12: Tri philer cynaliadwyedd

Cymdeithasol/Pobl – Sefydliadau yn sicrhau triniaeth gyfrifol, foesegol a theg i weithwyr, rhanddeiliaid a’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt.

Amgylcheddol/Planed – Hyrwyddo gweithgareddau sy’n arwain at leihau effaith negyddol ar yr amgylchedd, yn y sefydliad ac yn ei gadwyn gyflenwi.

Elw/Economaidd – Mae angen i sefydliad fod yn broffidiol er mwyn gallu gweithredu.

Yn y fideo mae Stephen Peake yn esbonio’r llinell isaf driphlyg ar gyfer cynaliadwyedd. Wrth i chi wylio meddyliwch sut y gall eich cynorthwyo i ymwreiddio tri philer cynaliadwyedd yn eich sefydliad.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep110_triple_bottom_line_stephen_peak.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gall datblygu sefydliad cynaliadwy ofyn am benderfyniadau ar faint yr elw. Mae ymrwymo i arferion busnes cynaliadwy yn gofyn am newid, a dangos bod y matrics ‘amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant’ yr un mor bwysig â’r data ariannol, i fesur llwyddiant sefydliadau.

Mae llawer o SAU yn aelodau o’r Alliance for Sustainability Leadership in Education [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy’n rhoi nifer o adnoddau, gan gynnwys y Supply Chain Emissions (HESCET) Tool ar gyfer Addysg Uwch i helpu gyda phenderfyniadau caffael.

Mae’r erthygl The triple bottom line: what it is & why it’s important gan Ysgol Fusnes Harvard Ar-lein yn esbonio beth sydd angen i sefydliadau ei ystyried i fesur eu heffaith cymdeithasol ac amgylcheddol.

Gweithgaredd 8: Sut gall SAU gynorthwyo i gyrraedd nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Timing: 15 munud

‘Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Yn y fideo mae cyfranwyr yn rhannu eu syniadau ar sut y gall SAU gydweithio i gyfrannu at atal Newid Hinsawdd yn y tymor hir a galluogi ffyrdd cynaliadwy o weithio.

Trwy dynnu ar y wybodaeth a’ch ymchwil eich hun, sut gall SAU ddatblygu arferion cynaliadwy, canolbwyntio ar lesiant y rhai yn eu sefydliad, a chydweithio i sicrhau bod penderfyniadau tymor hir yn rhoi gwell deilliannau i genedlaethau’r dyfodol?