4.1 Yr amgylchedd gwaith newydd
Er bod yn well gan rai sefydliadau ddewis dull aros a gweld o ran arferion gwaith ac esblygiad diwylliannol, gall dysgu o brofiadau eu gweithlu gynnig dealltwriaeth werthfawr. Trwy wrando ar y rhai na wnaeth eu patrymau gwaith newid yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn ogystal â’r rhai oedd yn gorfod newid eu patrymau gwaith, caiff sefydliadau gyfle i ystyried ac arbrofi gyda pha arferion gwaith i’w cadw a pha rai i gael gwared arnynt.
Awgryma ymchwil gan y Corporate Research Forum bod gweithio hyblyg hybrid wedi dod yn norm, a bod angen i’r ffordd y mae sefydliadau’n datblygu eu polisïau a’u harferion gwaith roi lle i’r normau newydd gan ystyried anghenion y sefydliad wrth symud ymlaen.
Mae’r Mynegai Gweithio Hyblyg Gweithle Blaengar yn olrhain y defnydd o weithio hybrid yn fyd-eang, a chanfu ei adroddiad cyntaf yn Awst 2022:
- Ar gyfartaledd dim ond 26% o’r boblogaeth sy’n mynd i’r swyddfa bob dydd gydag uchafbwynt o 31% yn y swyddfa ar ddydd Mercher.
- Dim ond 40% o’r desgiau yn y swyddfa sy’n cael eu defnyddio ar yr amser prysuraf ar ddydd Mercher, gyda chyfradd o gyfartaledd o 31% yn gadael dros ddwy ran o dair o ddesgiau yn wag ar gyfartaledd trwy’r wythnos.
- Ar gyfartaledd mae pob gweithiwr, yn mynd i’r swyddfa 1.3 diwrnod yr wythnos, sy’n debyg i’r bwriadau a fynegwyd trwy ein harolygon yn ystod y pandemig.
- Nid yw mwyafrif y sefydliadau wedi gosod Polisi Gweithio Hybrid ac i’r rhai sydd ag un mae’r presenoldeb ymhell dan y lefel a osodwyd yn eu polisi.
Ffynhonnell: The AWA Hybrid Working Index [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Gall y mynegai hwn helpu sefydliadau i ddeall sut y mae ei weithlu hybrid yn gweithio’n awr, a all fod yn ddefnyddiol i gynllunio ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys y defnydd o ofod. Byddwch yn archwilio hyn yn nes ymlaen yn y cwrs.
Gweithgaredd 11: Sut ydych chi’n gweithio’n awr?
Tra bod rhai sefydliadau yn awr yn gweithio o bell yn unig, nid yw hyn yn bosibl/ymarferol i eraill. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i weld tua 30% o weithwyr Cymru yn gweithio ‘gartref neu’n agos ato’ (ffynhonnell: senedd.cymru).
Gall dulliau arferion gwaith gael eu rhannu yn bedwar maes:
- Ar y safle yn unig
- Hybrid – ar y safle ac o bell
- O bell yn unig
- O bell – heb fod yn y brif ganolfan (e.e., ymchwil maes i academig, canolfannau gwaith)
Rhowch ychydig o amser i ystyried y gwahanol fathau o arferion gwaith a’r Pum Dull o Weithio Cenedlaethau’r Dyfodol. Ymchwiliwch i’r hyn y gallai’r dulliau yma ei olygu i sefydliad, timau ac unigolion.
Yna gwyliwch y fideo lle mae’r cyfranwyr yn rhannu sut y maent yn gweithio yn awr:
Beth allwch chi ei ddysgu gan eraill, gan gynnwys y rhai yn y fideo, am ail-ddylunio eich arferion sefydliadol?
Beth yw eich egwyddorion o ran ffyrdd o weithio a sut y gallant fod yn gysylltiedig â’r Pum Dull o Weithio Cenedlaethau’r Dyfodol?
Crynhowch eich syniadau yn y blwch isod.
Adborth
Wrth ateb hwn efallai y byddwch wedi defnyddio eich gwerthoedd a’ch profiadau eich hun neu wedi canolbwyntio ar y cyd-destun sefydliadol. Diben y gweithgaredd hwn yw i chi ddechrau meddwl pa egwyddorion all helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio yn eich sefydliad.
Mae’r Brifysgol Agored yn defnyddio’r egwyddorion canlynol sydd wedi cael eu mapio i’r Pum Dull o Weithio yn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Y Brifysgol Agored – Egwyddorion trwy’r brifysgol ar gyfer ffyrdd o weithio:
- Ymdrechu i greu amgylchedd gwaith sy’n gynhwysol, cydweithredol a theg.
- Ymdrechu i gael cydbwysedd rhwng ein dewisiadau personol, anghenion ein cydweithwyr/tîm/uned/ysgol a gofynion y sefydliad i gyflawni addysg, cefnogi myfyrwyr a gwneud gwaith ymchwil.
- Gosod cynaliadwyedd a’n hymrwymiad i gyflawni carbon sero net fel gyrrwr pwysig wrth lunio penderfyniadau.
- Dysgu o’n profiadau ac ymrwymo i brofi syniadau a dulliau newydd.
- Grymuso unedau/timau lleol.