Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Rhoi pobl yn gyntaf

Er bod pobl wastad wedi bod yn ganolog i sefydliad ni fu erioed yn bwysicach defnyddio dull sy’n rhoi’r pwyslais ar bobl o ran datblygu, newid a diwylliant sefydliadol – y cyfeirir ato yn aml fel ‘Profiad y gweithiwr’. Gall hyn deimlo’n heriol oherwydd mae’n rhaid i chi gydbwyso anghenion y sefydliad ac anghenion yr unigolion: ni allwch fod yn bopeth i bawb ac nid yw un maint yn addas i bawb, gan hefyd ystyried llesiant a chynhwysiant.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 16: Rhoi pobl yn gyntaf

Gall mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar bobl, gyda chynllun cyfathrebu clir, helpu i greu empathi mewn sefydliad, i greu gwell profiadau, a chynyddu gwytnwch o ran newid ac ymddiriedaeth ynddo, felly mae diwylliant y sefydliad yn galluogi hyder i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio, dysgu ac esblygu.

Mae canllaw’r Sefydliad Rhyngwladol dros Safoni, sy’n cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] 3 ac 8 yn nodi:

‘The term human-centred is used to reflect that organisations not only have an impact on their customers (the users of their products and services), but also on other stakeholders, including their employees, their families, and the wider community.’

International Organization for Standardization (2019)

Mae gan yr ISO saith egwyddor sy’n nodweddu sefydliad sy’n canolbwyntio ar bobl. Amlinellir y rhain isod.

Tabl 4
Manteisio ar wahaniaethau unigol fel cryfder sefydliadol Mae’r sefydliad yn cydnabod gwahaniaethau unigol fel cryfder ac yn ystyried hyn ym mhob maes o’r busnes. Mae’r sefydliad yn creu lle i natur a graddfa’r gwahaniaethau unigol ac yn creu timau o unigolion sydd â sgiliau sy’n cyd-fynd â’i gilydd.
Gwneud defnyddioldeb a hygyrchedd yn amcanion busnes strategol. Mae’r sefydliad sy’n canolbwyntio ar bobl yn defnyddio Safonau Rhyngwladol ac arfer gorau i sicrhau bod cynnyrch, systemau a gwasanaethau yn hygyrch a defnyddiol (effeithiol, effeithlon ac yn rhoi boddhad wrth eu defnyddio) gan eu personél a rhanddeiliaid eraill.
Mabwysiadu dull system gyfan Mae’r sefydliad yn cydnabod bod pobl yn rhan o system gynhwysfawr, a all gynnwys llawer o elfennau fel offer, man gwaith, a’r amgylchedd ffisegol, cymdeithasol a sefydliadol y mae pobl yn gweithio a byw ynddo. Mae’r elfennau hyn yn rhyngweithio ac yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae’r sefydliad yn deall hyn a gweithredu yn ôl hynny.
Sicrhau bod iechyd, diogelwch a llesiant yn flaenoriaethau busnes Y sefydliad yn cymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu unigolion (y tu mewn a thu allan i’r sefydliad) o’r peryglon i’w hiechyd, diogelwch a llesiant, ac anelu i fynd tu hwnt i’r gofynion sy’n ofynnol dan y gyfraith.
Rhoi gwerth ar bersonél a chreu gwaith ystyrlon Mae’r sefydliad yn gwerthfawrogi a chydnabod y cyfraniad y mae personél yn ei wneud. Mae’n ymdrechu i greu tasgau ystyrlon i holl ddefnyddwyr posibl y system. Bwriad yr egwyddor hon yw peidio â datblygu gweithlu y mae gweithiwr yn dim ond ‘goroesi’ (gweledigaeth oddefol), ond i greu amgylchedd i fyw a ffynnu ynddo fel rhan ystyrlon o amcanion a gwaith y sefydliad.
Bod yn agored a dibynadwy Mae’r sefydliad yn cael budd o fod yn agored a dibynadwy trwy well perthynas â chwsmeriaid (yn fewnol ac allanol), hyder defnyddwyr, a mwy o deyrngarwch, yn ogystal â gwell enw da.
Gweithredu mewn ffyrdd cyfrifol yn gymdeithasol Mae’r sefydliad yn gyfrifol yn gymdeithasol. Mae’n ymddwyn yn foesegol ac yn meithrin balchder a hyder yn ei bersonél, cwsmeriaid, a’r gymuned leol.
Sefydliad Rhyngwladol dros Safoni (2016)

Yn yr adran nesaf byddwch yn ystyried sut y mae disgwyliadau gweithwyr wedi esblygu, a sut y gall cael dull sy’n canolbwyntio ar bobl fod o fudd i arweinwyr mewn sefydliadau ar gyfer datblygu eu ffyrdd o weithio ac addasu ar gyfer y trawsnewid digidol.