Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Esblygiad y gweithiwr

Pan fydd pobl yn cael eu rhoi yn gyntaf, ac y defnyddir dull sy’n canolbwyntio ar bobl, mae angen i sefydliadau ystyried beth fydd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd, o ystyried yr amgylchedd y mae’r sefydliad yn gweithredu ynddo – beth sy’n bosibl? Pan fydd adnoddau a chyllideb yn gyfyngedig a chyfyngiadau ar seilwaith.

Trwy ddeall esblygiad y gweithiwr, gall sefydliadau ddechrau dylunio sut y byddant yn gweithio trwy ystyried yr oblygiadau a sut y gallant reoli disgwyliadau ac anghenion rhwng sefydliadau, timau ac unigolion.

Mae ffeithlun Jacob Morgan yn creu delwedd gryno o’r ffordd y mae perthynas gweithiwr â’i waith wedi esblygu.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 17: Esblygiad y gweithiwr

Yn y fideo isod mae Jacob Morgan yn esbonio esblygiad y gweithiwr, a beth all hyn ei olygu i sefydliadau.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep114_evolution_of_the_employee_jacob_morgan.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhaid i esblygiad y gweithiwr gael ei ystyried ochr yn ochr â’r Ffyrdd Hybrid o Weithio: Bydd Fframwaith Cyd-destunol yn cael effaith ar eich penderfyniadau fel arweinydd oherwydd yr elfennau o’i fewn, er enghraifft o gwmpas diogelwch seiber. Gall gweithio hybrid olygu bod gan sefydliadau lai o reolaeth dros sut, ble a pha ddyfeisiadau y mae gweithwyr yn eu defnyddio, sy’n golygu bod polisïau a gweithdrefnau diogelwch da i weithwyr a chontractwyr yn hanfodol.

Nawr a’r dyfodol

Mae’r diagram esblygiad y gweithiwr uchod yn dangos y newid mewn disgwyliadau yn glir; mae rhai eisoes yn ffaith, a bydd eu deall yn eich helpu i gynllunio’n well at y dyfodol.

Gweithio unrhyw amser: Gweithwyr yn gosod sut y maent yn gweithio’r oriau yn eu contract o gwmpas anghenion yr allbwn y mae angen iddynt ei ddarparu a’r timau y maent yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n gweithio ar brosiectau rhyngwladol, yn gweithio ar draws parthau amser, neu’r rhai sy’n croesawu hyblygrwydd o gwmpas eu hymrwymiadau teuluol neu sydd wedi gweld eu bod yn perfformio orau yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos, gyda llai i ddwyn eu sylw.

Gweithio unrhyw le: Ble sydd angen i rywun fod i weithio? Amlygodd y pandemig y gall pobl weithio yn unrhyw le os bydd angen, er enghraifft bydd y rhai sy’n teithio ar gyfer busnes yn aml yn eistedd mewn caffis, meysydd awyr, gwestai i weithio. Bydd diogelwch ar-lein a mynediad Wi-Fi diogel yn hanfodol yn y sefyllfaoedd hyn.

Defnyddio unrhyw ddyfais: Fel sefydliad mae angen i chi ystyried pa ddyfeisiadau y mae eich gweithwyr – a chontractwyr – yn eu defnyddio. Mae pobl yn defnyddio dyfeisiadau niferus wrth i dechnoleg ei gwneud yn haws i gael mynediad i systemau gwaith o ffonau symudol a thabledi, nid dim ond cyfrifiaduron desg neu liniaduron gan y cyflogwr.

Canolbwyntio ar allbynnau: Bydd ymddiried mewn gweithwyr i gyflawni eu hallbynnau yn hytrach na chanolbwyntio ar bresenoldeb yn caniatáu i bobl weithio’n hyblyg ac yn rhoi perchenogaeth i weithwyr dros eu gwaith. Gall rheoli hyn fod yn heriol: bydd angen i arweinwyr fedru monitro nid yn unig a yw’r allbynnau hynny’n cael eu cyflawni, ond hefyd a yw gweithwyr yn rheoli eu baich gwaith yn effeithiol – o ran rhy ychydig a gormod – a all fod ynghudd wrth weithio mewn timau hybrid.

Creu eich ysgol eich hun: Gan ddibynnu ar yr amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddo, nid oes gan bob gyrfa lwybr ffurfiol o ddechrau yng ngwaelod yr ysgol a gweithio eich ffordd i fyny. I lawer nid oes llwybr pendant, yn arbennig pan na fydd y gwaith yr aethant iddo yn bodoli heddiw neu heb gael ei ddychmygu hyd yn oed. Mae pobl yn symud i bob cyfeiriad yn eu gyrfaoedd, gan newid eu galwedigaeth a’u dewisiadau o ran ffordd o fyw yn llwyr yn aml.

Gwaith wedi ei addasu: Mae llawer o weithwyr sy’n gallu gwneud hynny yn rheoli eu gyrfaoedd eu hunain ac yn dewis gweithio i sefydliadau neu ar brosiectau naill ai fel gweithwyr neu ar gontractau sy’n gweddu i’w ffordd o fyw a budd eu gyrfa. Yn aml ni fydd y penderfyniadau am yr ysgol yrfa, ond eu cymhelliant a’u gwerthoedd eu hunain.

Gallu dod yn arweinydd: Daeth llais y gweithiwr yn fwy gwerthfawr, yn arbennig wrth i ni ddod allan o’r pandemig, i ddeall eu hanghenion a rhannu eu syniadau, meddyliau a chysyniadau a all helpu sefydliadau i ddatblygu. Mae mynediad at bobl trwy lwyfannau cydweithio yn galluogi pobl i arwain ar brosiectau yn neilltuol, ond hefyd arwain eraill yn ffurfiol ac anffurfiol. Nid yw arweinydd yn awr yn cael ei weld fel rhywun sydd ddim ond wedi cael y teitl hwnnw, ond trwy eu gweithredoedd i ddwyn eraill at ei gilydd a’u harwain ar daith.

Gwybodaeth vs dysgu ymaddasol: Mae’r gallu i ddod o hyd i ‘wybodaeth’ trwy chwilio’r rhyngrwyd yn golygu y gall y rhan fwyaf o bobl ddod o hyd i ateb yn rhwydd. Yr hyn sy’n dod yn bwysicach yw sgiliau meddwl beirniadol gweithiwr i ddehongli’r wybodaeth honno, a dysgu pethau newydd i addasu, deall pethau sy’n ddibynnol ar ei gilydd a defnyddio’r hyn a ddysgwyd mewn sefyllfaoedd newydd.

Pawb yn athro neu’n fyfyriwr: Er bod addysg ffurfiol a dysgu sefydliadol yn dal yn ofynnol, mae annog dysgu anffurfiol yn caniatáu i weithwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd, gysylltu a chreu rhwydweithiau yn gyflym. Mae mynediad at ‘ddysgu’ trwy lwyfannau a rhwydweithiau ar-lein fel OpenLearn, FutureLearn, Coursera, LinkedIn Learning, TikTok a YouTube wedi ei wneud yn fwy hygyrch, rhatach a chyflymach.

Ffynhonnell: addaswyd o Esblygiad y gweithiwr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gweithgaredd 12: Beth sy’n gwneud profiad gweithiwr a myfyriwr yn un da?

Timing: 15 munud

Meddyliwch am ddisgwyliadau ‘gweithwyr sy’n esblygu’ a myfyrwyr, a’r hyn y mae Josh Morgan yn ei gredu y dylai sefydliadau fod yn canolbwyntio arno i gael profiad gweithiwr da. Gwrandwch ar Alayla Castle-Herbert, Swyddog Polisi (Dysgu ac Addysgu) yn siarad â Louise Casella, Cyfarwyddwr – Y Brifysgol Agored yng Nghymru am eu profiad o ddechrau mewn swydd newydd.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep115_employee_perspective_alayla_louise.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Beth all hyn ei olygu i’ch sefydliad chi, pa bolisïau a gweithdrefnau all fod yn ofynnol?

Pa mor hyblyg allwch chi fel sefydliad fod, i weithwyr ac i fyfyrwyr?

Sut gallwch chi sicrhau’r profiad gorau i’r rhai yn eich sefydliad?

Gadael sylw

Mae’r pwyslais mwyaf yn y model hwn yn ymddangos fel petai’n seiliedig ar y gweithwyr hynny sydd â rhywfaint o reolaeth dros eu gwaith, ond beth mae’n ei olygu i’r rhai sydd angen bod ar y safle ac sydd â thasgau ‘cyfarwyddol’ – er enghraifft ‘swyddi arlwyo ar y safle’.

Beth allai fod yn heriau os bydd sefydliad yn canolbwyntio ar y rhai sy’n gallu gweithio’n fwy hyblyg, heb ystyried effaith y rhai mewn swyddi ‘cyfyngedig’?

Wrth i ffyrdd o weithio newid, mae’n bwysig ystyried yr holl randdeiliaid mewn sefydliad, a’r hyn y mae gofyn i chi ei ystyried/gadw ato dan y gyfraith. Er y gall gweithwyr mewn rhai meysydd weithio’n fwy hyblyg, ni all eraill oherwydd eu ‘gwaith’ neu eu hanghenion unigol. Mae’n hanfodol ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd wrth ddatblygu eich sefydliad.

Er mwyn archwilio hyn ymhellach, mae’r erthyglau canlynol gan McKinsey yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o anghenion gweithwyr.

Tri math o hyblygrwydd y mae gweithwyr heddiw yn ei fynnu | McKinsey & Company

Mae’n bersonol y tro hwn: Siapio’r ‘posibl newydd’ trwy brofiad gweithwyr | McKinsey