Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Meddwl am gynhwysiant

Dylai cydraddoldeb, amrywiaeth, hygyrchedd a chynhwysiant fod yn ganolog i ddatblygu sefydliadol, i sicrhau eich bod yn gallu rhoi’r profiad gorau i bawb sy’n gysylltiedig â’ch sefydliad, boed yn staff, myfyrwyr neu ddefnyddwyr eraill, ac i ddatblygu gweithlu amrywiol sy’n gynrychioliadol o’r byd ehangach, ac a all ddwyn safbwyntiau a phrofiadau gwahanol, i’ch helpu i ffynnu mewn byd sy’n fwy cysylltiedig.

Er bod cynhwysiant yn bwysig cyn y pandemig COVID-19, fe wnaeth y pandemig ddod â beth mae cynhwysiant yn ei olygu yn flaenllaw ym meddyliau pobl. Yn ystod y pandemig roedd y cyfryngau’n canolbwyntio ar y diffyg gliniaduron neu dabledi i blant ysgol oedd yn gorfod cael eu haddysgu gartref, a daeth llawer o gymunedau at ei gilydd i roi dyfeisiadau o’r fath i ysgolion lleol i’r plant hynny nad oedd ganddynt fynediad atynt.

Roedd y diffyg cyfartaledd i rai grwpiau yn fwy gweledol, ond y disgwyliadau hefyd wrth i ni i gyd addasu i gyfnodau clo, er mwyn byw a gweithio. Ar ôl dechrau teimlo bod y byd yn dychwelyd i normal newydd, mae llawer o bobl yn awr yn gorfod wynebu effaith y costau byw cynyddol, sy’n dod â heriau newydd wrth ystyried cynhwysiant a llesiant.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth, hygyrchedd a chynhwysiant yn bwnc cymhleth na allwn ei drin yn drylwyr yn y cwrs hwn. Yn hytrach, mae’r cwrs hwn yn cynnig meysydd i’w hystyried. Mae’r cwrs Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant yn archwilio cynhwysiant ymhellach.Gallwch ddod o hyd i'r cwrs yma: Cefnogi gweithio hybrid yng Nghymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Yn ystod y gwaith ymchwil ac wrth siarad â chyfranwyr at y casgliad hwn o gyrsiau, ochr yn ochr ag amrywiaeth yn y gweithlu, roedd pedwar pwnc yn cael eu codi’n aml y dylid eu trafod wrth ganolbwyntio ar ffyrdd newydd o weithio: amrywiaeth o ran cenedlaethau; ystyriaethau cynhwysiant i fenywod; cynhwysiant i’r rhai mewn lleoliadau gwledig; a chynhwysiant digidol – trafodir hyn yn nes ymlaen.