Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Ail-ddylunio gofod er mwyn cynaliadwyedd

Wrth i sefydliadau adolygu’r defnydd o ofod a gwasanaethau y maent yn eu darparu, dylai cynaliadwyedd fod yn ganolog i’r cynllunio. Mae’r tri philer cynaliadwyedd – Pobl/Cymdeithasol, Planed/Amgylchedd, ac Elw/Economaidd – yn sylfaenol i ddefnydd da o ofod, gan fodloni anghenion defnyddwyr a sicrhau y gall sefydliadau weithredu newid.

Gan fod gan sefydliadau ymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050, mae angen iddynt ystyried sut y byddai hyn yn cael ei fonitro i roi data sy’n dangos y lleihad yn eu hôl troed carbon. Er bod lleihau’r defnydd o ynni efallai yn un o’r heriau mwyaf i sefydliadau, mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth o’ch sefydliad, sut mae’n gweithredu, a’i ddiwylliant a’i werthoedd.

Mae dylunio gofod yn gofyn am ganolbwyntio ar integreiddio cynaliadwyedd, ac atal yn y tymor hir yn eich dull fel SAU. Dylai cynllunio nid yn unig ganolbwyntio ar ofod ffisegol, ond hefyd ar sut y bydd y gofod yn cael ei ddefnyddio, y gwasanaethau y mae ei ddefnyddwyr eu hangen, eu cynhwysiant a’u llesiant, a’r seilwaith sy’n ofynnol i weithredu.

Gweithgaredd 16: Carbon yn ein hadeiladau

Timing: 20 munud

Gwyliwch y fideo lle mae Dr Alice Moncaster – Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy yn y Brifysgol Agored – yn esbonio beth sydd angen i sefydliadau eu hystyried wrth ail-ddylunio gofod ffisegol. Yna darllenwch erthygl Dr Alice Moncaster Climate change and the built environment [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sep120_buildings_reuse_of_space_alice_moncaster_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Byddwch yn gweld yn yr erthygl hon yr amcangyfrifir:

‘39% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr (carbon) byd-eang. Mae 28% o hyn oherwydd y carbon gweithredol o gynhesu, goleuadau ac oeri’r adeiladau sy’n bodoli, tra bod gweddill sylweddol o’r 11% yn dod o’r carbon sy’n rhan o adeiladu adeiladau newydd yn flynyddol.’

Yna porwch trwy’r erthygl hon, sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru:

Delivering on the decarbonisation agenda in the built environment in Wales

Rhowch amser i restru’r ffactorau a all fod angen eu hystyried wrth ddatblygu cynllun i leihau ôl troed carbon adeiladu yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Beth all fod yn heriau allweddol i’ch sefydliad / SAU?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).