5.3 Defnyddio gofod i weithio’n wahanol
Fel sefydliad cyfyngedig yw eich grym dros leoliad ‘o bell’ nad oes gennych gyfrifoldeb uniongyrchol amdano, ac mae angen i chi ystyried ffyrdd y gallwch annog eich gweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am leihau eu hôl troed carbon.
Un dull o ddeall rhagor am anghenion eich sefydliad yw rhedeg profion profi a dysgu gyda gofodau ac ymgysylltu â’ch holl randdeiliaid yn y sgyrsiau hyn. Mae’r Brifysgol Agored wedi mynd ati yn hyn o beth trwy ddylunio canolfannau creadigol – a elwir yn ‘Gartrefi Arddangos’ (‘Show homes’) – i archwilio’r ffyrdd gwahanol o ddefnyddio gofod a sut y gall timau ddod at ei gilydd gyda hygyrchedd a chynhwysiant yn cael lle blaenllaw. Mae Dr Nick Barrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod y Brifysgol Agored, yn esbonio’r ymagwedd a’r mewnwelediadau y mae’r Brifysgol Agored yn gobeithio eu cael o’r dull hwn.
Transcript
Canolfannau rhannu mannau gwaith o bell
Un o’r heriau ar gyfer gweithio hybrid yw y gall y seilwaith a llesiant gweithwyr o bell fod yn amrywiol. Rhedodd Llywodraeth Cymru arolwg yn 2021 i archwilio’r dymuniad i gael canolfannau rhannu mannau gwaith ac mae wedi gosod uchelgais hirdymor o 30% o weithlu Cymru i weithio tu allan i swyddfa draddodiadol. Y nod yw helpu canol trefi i leihau’r tagfeydd a lleihau allyriadau carbon. (Ffynhonnell: llyw.cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) Erbyn hyn mae ganddynt 30 o ganolfannau rhannu mannau gwaith trwy Gymru. Dod o hyd i’ch canolfan gweithio o bell leol
Canlyniad hyn oedd rhyddhau cyllid i greu canolfannau gweithio o bell. Nid yw mannau gwaith ar y cyd yn gysyniad newydd. Nid yw’r rhan fwyaf o sefydliadau yn berchen ar eu hadeiladau ac maent yn prydlesu swyddfeydd a gofodau a rennir, mewn blociau swyddfa mawr yn aml sy’n gartref i nifer o sefydliadau. Mae’r mannau hyn a rennir yn debygol o ddod yn fwy poblogaidd wrth i sefydliadau ail-werthuso’r gofod sydd ei angen ar gyfer eu gweithlu.
Roedd gofodau rhannu mannau gwaith llai yn bodoli cyn y pandemig, ond roeddent yn cael eu defnyddio yn bennaf gan berchenogion busnesau bach neu’r gymuned lawrydd. Ond, maent yn cynnig dewis gwahanol i weithio o gartref neu deithio i’r swyddfa i’r rhai sy’n gweithio o bell i sefydliadau mwy, a all fod yn ddefnyddiol os yw eu sefyllfa gartref yn gwneud gweithio o gartref yn heriol.
Yn y fideo mae Llinos Neale o Welsh ICE yn sôn sut y mae’r defnydd o ganolfannau gweithio o bell wedi esblygu ers y pandemig.
Transcript
Gweithgaredd 17: Meddyliwch sut y gallwch ddefnyddio gofod ar y safle ac o bell yn fwy effeithiol
Darllenwch yr erthyglau canlynol, sy’n rhoi cipolwg ar ddull sefydliadau mwy sy’n ail-ddychmygu’r swyddfa.
- Reimagining the office and work life after COVID-19
- Coworking Post-Covid: WeWork’s Predictions for 2022
Ystyriwch beth yr ydych wedi ei ddysgu yn yr adran hon a meddwl sut y gallwch ddefnyddio eich gofodau ar y safle ac o bell yn fwy effeithiol, a beth allwch chi ei wneud i’w gwneud yn fwy cynaliadwy.
Dyma rai meysydd y gallech fod am eu hystyried:
- Mannau gwyrdd
- Cyfleusterau a darpariaethau arlwyo – a ydych yn gwahardd cwpanau un tro?
- Pwy yw eich cadwyn gyflenwi – beth yw eu hymrwymiad i gynaliadwyedd?
- Beth yw’r disgwyliadau ar gyfer adeiladu o’r newydd a phrosiectau ôl-osod?
- Pa mor hygyrch yw adeiladau?
- Beth yw eich polisïau teithio?
- Cyfarwyddyd i weithwyr o bell ar sefydlu eu hamgylchedd swyddfa gartref.
- Cyfarwyddyd i weithwyr o bell ar sut y gallant leihau eu hôl troed carbon yn eu lleoliad eu hunain.
- Effaith ar eich cymuned leol, manteision ac effeithiau negyddol.