7.2 Cynhwysiant digidol
Yng Nghymru nid yw 7% o oedolion ar-lein; mae’r rhain yn debygol o fod yn oedolion hŷn, y rhai sydd â chyflyrau iechyd, cyrhaeddiad addysgol is, incwm isel, pobl mewn ardaloedd gwledig, a’r rhai sydd â’u mamiaith yn Gymraeg ac nad ydynt yn siarad Saesneg. (Ffynhonnell: Cymunedau Digidol Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] )
Mae’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol wedi canolbwyntio’n barhaus ar yr angen i lunio seilwaith digidol a gallu gan gydnabod rhan newid technegol a’r effaith ar bobl, a’r sgiliau y bydd angen eu datblygu i addasu i newidiadau sy’n cael eu gyrru gan dechnoleg, a lleihau’r bwlch digidol.
Mae ymchwil gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar greu sgiliau addas at y dyfodol wedi amlinellu nifer o yrwyr newid, gan gynnwys:
- Bydd cyfran arwyddocaol o dasgau a swyddi’n cael eu hailstrwythuro’n barhaus fel canlyniad i newid technolegol. Y tasgau a’r swyddi sydd yn y perygl mwyaf yw’r rhai ailadroddus a seiliedig ar broses, yn arbennig rolau ‘coler wen’.
- Bydd cyflawni gwasanaethau’n dibynnu’n fwy ac yn fwy ar ‘y cwmwl’, a fydd mae’n debyg yn cael ei gyflwyno gan nifer bach o lwyfannau byd-eang. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn disgwyl i’w gwasanaethau cyhoeddus gael eu darparu’n ddigidol ynghyd â mynediad digidol i’w gwasanaethau cyhoeddus i gyd-fynd â gwasanaethau preifat.
- Un canlyniad posibl a ddaw yn sgil awtomatiaeth yw llawer llai o ymgyfraniad pobl mewn cynhyrchu economaidd a dosbarthu.
- Bydd creadigrwydd a datrys problemau mewn cyd-destunau cymhleth yn dal i gael eu gweithredu gan bobl am dipyn o amser, ac felly, byddant yn sgiliau a ddaw yn fwy gwerthfawr.
- Bydd cynnydd mewn technoleg o bosib yn anfanteisiol i leoedd sydd eisoes yn amddifad yn economaidd a gall y bydd iddynt oblygiadau rhywedd cryf, yn cynnwys y posibilrwydd o ‘argyfwng gofal’.
(Ffynhonnell: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sleid 9 – Taith tuag at Gymru Lewyrchus. 5: Sgiliau at y dyfodol)
Mae i SAU ran bwysig wrth atal allgauedd digidol, a lleihau’r bwlch digidol o ran sut y mae’r cwricwlwm y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau priodol ar gyfer meysydd arbenigol, a hefyd sut y mae cynyddu gallu digidol yn ymwreiddio trwy holl weithgareddau’r myfyrwyr. Mae angen hefyd ystyried sut mae SAU yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach – trwy gydweithio, ymchwil a phartneriaeth.
Wrth i ni ddod allan o’r pandemig ac i sefydliadau gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae angen iddynt ystyried yr hyn y cyfeirir ato fel y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, sy’n cael ei yrru gan ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, a mwy o awtomeiddio yn y gweithle. Gall y datblygiadau yn y maes hwn o bosibl arwain at fwy o allgau digidol, a bwlch sgiliau.
Gweithgaredd 22: Cynllunio ar gyfer cynhwysiant a datblygu gallu
Gwyliwch y fideo lle mae cyfranwyr yn rhannu eu syniadau am gynhwysiant digidol, a sut i leihau’r bwlch digidol.
Transcript
Yna, cymerwch amser i bori trwy’r adnoddau canlynol. Gwnewch nodiadau am y pwyntiau allweddol i’w hystyried ymhellach i ymchwilio tu hwnt i’r cwrs hwn.
Wrth ystyried yr adnoddau uchod, a gweithgareddau trwy’r cwrs cyfan, beth ydych chi’n ei deimlo fydd y prif heriau i sefydliadau a SAU wrth gynllunio ar gyfer cynhwysiant a datblygu gallu?