Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol
Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1 Datblygu eich gweithlu

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig roedd pwyslais ar yr ‘ymddiswyddiad mawr’ a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar sefydliadau, fel ystyried sut i gadw’r staff presennol neu ddenu staff newydd pan fydd y galw yn fwy na’r cyflenwad.

Pan na ellir cynnig cyflogau cystadleuol, a all fod yn heriol i SAU sector cyhoeddus, y pwyslais ar brofiad y gweithiwr, mae’r diwylliant a’r cyfleoedd yn y sefydliad yn dod yn bwysicach. Mae’r ffordd y mae’r rhain yn cael eu cyfleu a’u gweithredu yn gofyn am ymrwymiad i newid, nid yn unig yn y ffordd y mae sefydliad yn gweithredu, ond hefyd ei bolisïau a’i brosesau. Yn y fideo mae cyfranwyr yn rhoi cipolwg ar ddatblygu eich gweithlu a phrofiad y gweithiwr.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sept128_creating_a_good_employee_experience_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gweithgaredd 24: Beth yw gobeithion a phryderon gweithwyr o ran y ffyrdd newydd o weithio?

Timing: 10 munud

Darllenwch yr erthygl ganlynol o’r Guardian, a chrynodeb PwC o’u Harolwg Gobeithion a Phryderon y Gweithlu Byd-eang 2022 a meddwl am y fideo uchod. Ystyriwch pam bod pobl yn gadael sefydliad, a yw disgwyliadau cenedlaethau’n wahanol, a sut all eich sefydliad chi fod wedi ei baratoi’n well i gadw staff/

Turns out the Great Resignation may be followed by the Great Regret [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

PwC’s Global Workforce Hopes and Fears Survey 2022

Er bod cadw staff yn bwysig, mae angen i sefydliadau hefyd ystyried sut i ddenu staff, a pha sgiliau a phrofiad y maent am eu dwyn i mewn i’r sefydliad. Mae’r gweithlu’n esblygu’n barhaus wrth i gyfleoedd newydd agor, felly mae gan sefydliadau’r her ddeuol o gadw staff a’r bylchau mewn sgiliau. Y gweithwyr mwyaf gwerthfawr yn aml sy’n chwilio am gyfleoedd newydd.

Bydd sicrhau bod strategaethau ar gyfer recriwtio yn ystyried yr amgylcheddau a’r anghenion newydd ar gyfer sefydliadau yn galluogi cynllunio mwy effeithiol a recriwtio effeithlon. Mae angen i’r rhai sy’n ymwneud â recriwtio ddatblygu’r sgiliau nid yn unig i ddenu’r bobl iawn, ond pan na ellir bodloni disgwyliadau o ran cyflog, fod â strategaethau blaengar yn ymwneud â gwobrwyo, enw da a chyfleoedd i sicrhau bod eu sefydliad yn gynnig deniadol. Dylai’r broses recriwtio fod yn un gadarnhaol i bawb, ac mae angen i’r rhai sy’n recriwtio sicrhau bod y gallu a’r medrusrwydd yn cael eu bodloni trwy ddylunio disgrifiadau swyddi clir ac effeithiol, yn gwerthu’r sefydliad ac ystyried dulliau newydd o asesu ymgeiswyr posibl.

Mae angen i recriwtwyr mewnol nad ydynt yn arbenigo mewn rhai meysydd weithio ar y cyd ag unedau arbenigol yn eu sefydliad i ddeall yr anghenion a’r gofynion, ac i ystyried eu cystadleuwyr, yn arbennig pan na fydd cyflogau mor atyniadol â rhai sefydliadau eraill.

Rhaid i gynllunio a strategaeth gweithlu parhaus fod yn flaenoriaeth; mae’r broses gynllunio gweithlu CIPD, a welir yn y diagram isod, yn rhoi’r camau y dylid eu cymryd. Mae casglu’r data a’r wybodaeth gywir i ddeall y sefydliad a’i amgylchedd yn allweddol. Bydd data yn sicrhau eich bod yn gallu dadansoddi gweithlu eich sefydliad yn effeithiol i bennu beth yn union yw eich anghenion.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 30: Proses cynllunio’r gweithlu CIPD

Gweithgaredd 25: Deall eich cynllunio gweithlu

Timing: 20 munud

Bydd y ffordd y bydd eich sefydliad yn mynd ati i gynllunio gwaith yn amrywio. Yn y fideo isod mae cyfranwyr yn rhannu gwybodaeth am ffyrdd o fynd ati i recriwtio a chadw’r gweithlu.

Download this video clip.Video player: hyb_1_2022_sept129_approach_to_recruitment_compressed.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae adolygu eich proses recriwtio a phwy sy’n ymwneud â hi yn bwysig i sicrhau bod gennych y gallu a’r sgiliau er mwyn bod yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Ymchwiliwch i ddull eich sefydliad o gynllunio gweithlu, ac os ydych wedi bod yn ymwneud â recriwtio, ystyriwch eich profiad eich hun. Wrth ystyried y fideo a’ch ymchwil meddyliwch beth allech chi ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.