8.2 Llunio diwylliant sy’n cael ei yrru gan ddata
Mae Cenhadaeth 6: data a chydweithredu strategaeth ddigidol i Gymru, yn nodi:
Caiff gwasanaethau eu gwella drwy gydweithio, a chaiff data a gwybodaeth eu defnyddio a’u rhannu
‘Mae data yn sail i bopeth a wnawn yn ddigidol. [...] Bydd hynny’n sicrhau gwelliant ymatebol a pharhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn cefnogi gwasanaethau di-fwlch, yn galluogi arloesi digidol ac awtomeiddio, ac yn bwydo penderfyniadau da. [...] Mae graddfa’r chwyldro data wedi codi cwestiynau pwysig am fynediad i ddata a sut defnyddir data. Rhaid i ni sicrhau bod moeseg data, tryloywder a ffydd wedi’u mewnosod drwy’r camau a gymerwn.’
Mae data a gwybodaeth yn ganolog i sefydliadau wrth weithredu a datblygu, a gallant fod yn un o’u hasedau mwyaf gwerthfawr. Mae data a gwybodaeth yn gadael i chi ddadansoddi eich sefydliad i wneud penderfyniadau, dynodi anghenion, olrhain llesiant eich gweithlu a rhoi tystiolaeth o ran amcanion/targedau ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
I ddata gael ei ddefnyddio’n effeithiol mewn sefydliad mae’n synhwyrol datblygu diwylliant data. Mae’r ffigwr isod yn dangos y pum cam wnaiff arwain at ddiwylliant sy’n cael ei yrru gan ddata, lle mae data yn dod yn ganolog ar draws y sefydliad.
Rhaid i fframwaith llywodraethu data da gael ei roi yn ei le. Mae llywodraethu data yn ofyn hanfodol i unrhyw sefydliad gan ei fod yn rhoi sail i’r holl reoli data ac yn sicrhau bod gan sefydliadau bolisïau a phrosesau yn eu lle i fodloni eu cyfrifoldebau data cyfreithiol, fel y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Dylai llywodraethu data gyd-fynd â strategaethau sefydliadol. Mae’r cwrs Gweithio Hybrid: Sgiliau ar gyfer Trawsnewid Digidol yn archwilio llywodraethu digidol yn fwy manwl. Gallwch ddod o hyd i'r cwrs yma: Cefnogi gweithio hybrid yng Nghymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Er mwyn datblygu diwylliant yn cael ei yrru gan ddata, mae rheoli data a gwybodaeth, yn neilltuol mewn amgylcheddau hybrid, yn gofyn am bolisïau a phrosesau clir, i sicrhau y gellir cael mynediad ato, ei fod yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cynnwys y metadata i sicrhau cydymffurfio a galluogi parhad busnes effeithiol.