8.3 Defnyddio data i wneud penderfyniadau
Casgliad o ffeithiau ac ystadegau yw data fel arfer sy’n seiliedig ar ymchwil a gwybodaeth ansoddol neu feintiol. Rydym yn meddwl am ddata yn gyntaf fel ‘data crai; gwybodaeth sydd wedi ei gasglu’n ddigidol, o wybodaeth a gadwyd ar draws systemau digidol, ond gall hefyd gynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chasglu a’i chofnodi o siarad ag eraill, ac adroddiadau.
Mae defnyddio data yn gadael i chi ystyried sut y gallwch wella eich allbwn, a chynllunio ar gyfer newid. Mae hyn yn neilltuol o bwysig mewn SAU, lle mae deilliannau a phrofiadau myfyrwyr yn allweddol. Dylai holl daith y myfyriwr a sut y mae SAU yn gweithredu i gefnogi hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth o ddata.
Gall data o’r fath gael ei dorri i lawr i:
- Data mewnol – sy’n rhoi dealltwriaeth o’ch gweithrediadau, cyllid, rheoli perfformiad, cynhyrchiant a seilwaith. Mae’n caniatáu ar gyfer dadansoddi bylchau a deall anghenion eich gweithlu.
- Data allanol – sydd yn aml yn helpu wrth ddadansoddi tueddiadau a meincnodi yn eich amgylchedd allanol.
- Data marchnata – a ddefnyddir i ddeall ymddygiad a dewisiadau cwsmeriaid, i gynorthwyo cofrestru a chadw myfyrwyr SAU.
Mae’n bwysig bod yn glir am eich gofynion data, fel eich bod yn casglu gwybodaeth ystyrlon y gellir ymddiried ynddi. Yn rhy aml mae setiau data’n cael eu creu heb unrhyw ddiben clir na dealltwriaeth o sut y maent i gael eu defnyddio, neu pa ddealltwriaeth a ellid ei chael o’r data.
Gall data sy’n cael ei ddefnyddio’n dda helpu:
- i wneud penderfyniadau gwell a mwy effeithiol
- galluogi eich sefydliad i fod yn fwy rhagweithiol, a gallu addasu i newid yn fwy effeithiol
- sicrhau bod eich rheolaeth ariannol yn gadarn
- adael i chi olrhain eich perfformiad sefydliadol a meincnodi mewn cymhariaeth ag eraill.
Gall hefyd helpu i wella:
- effeithlonrwydd gweithredol
- modelau busnes newydd
- rheoli risg.
Gweithgaredd 26: Pa sgiliau a galluoedd data sy’n ofynnol?
Gall defnyddwyr data gael eu hystyried yn gynhyrchwyr data a defnyddwyr data, a fydd angen gwahanol sgiliau llythrennedd data i gael y gallu i drin a deall data i wneud penderfyniadau.
Gwyliwch y fideo isod lle mae cyfranwyr yn esbonio sut y defnyddir data mewn sefydliadau a’r sgiliau llythrennedd data sy’n ofynnol.
Transcript
Yna, darllenwch yr erthygl Data Literacy And Data Storytelling: How Do They Fit Together? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Dynodwch y sgiliau data allweddol y mae angen i sefydliadau ganolbwyntio arnynt, a rhestrwch nhw isod.
Adrodd stori data
Dim ond os gellir ei ddehongli a’i fod yn dweud stori y mae data yn ystyrlon. Mae’r ddelwedd isod yn dweud stori’n glir.
Mae adrodd stori data yn gysyniad a ddefnyddir i roi naratif syml ar gyfer gwybodaeth gymhleth, a all helpu unigolion a sefydliadau i ymgysylltu â’r data sydd ar gael a’i ddeall.
Gweithgaredd 27: Dywedwch stori data
Darllenwch yr erthygl A Deeper Dive into LEGO Bricks and Data Stories, yna gwyliwch y fideo lle mae Laura Dewis – Prif Swyddog Gweithredu, Full Fact – yn disgrifio sut y gall adrodd straeon data wneud data yn fwy deniadol i’w ddefnyddwyr.
Transcript
Meddyliwch am ddata sydd gennych ar gael, a sut y gallech ddefnyddio adrodd stori data i gyflwyno’r wybodaeth o’r data i eraill.