Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Eich myfyrdod

Gweithgaredd 1.1 Meddwl amdanaf fy hun

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y gweithgaredd hwn

I ddechrau arni, meddyliwch am y pedwar cwestiwn canlynol:

  • Sut wyf yn gweld fy hun nawr?
  • Beth ydw i'n fwyaf balch ohono?
  • Beth sy'n fy ngwneud i'n hapus?
  • Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol?

Cyn ceisio ateb y cwestiynau hyn, edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol, sy'n dangos sut y gwnaeth Alana a James eu hateb.

Enghraifft 1: Alana

Gwyddom fod Alana wedi cwblhau Lefel 1 mewn Trin Gwallt a'i bod yn symud ymlaen i Lefel 2. Edrychwch ar dabl Alana er mwyn gweld beth mae Alana yn ei obeithio am y dyfodol a sut mae'n gweld ei hun nawr.

Tabl 1.1
Sut wyf yn gweld fy hun nawr? Beth sy'n fy ngwneud yn hapus?
  • Triniwr Gwallt
  • Tawel ond pan ddewch i'm hadnabod yn hyderus
  • Penderfynol
  • Siaradus
  • Gwirfoddoli
  • Weithiau rwy'n galw fy hun yn dwp
  • Dilyn fy mreuddwyd
  • Ffrindiau
  • Teulu
  • Dod i'r grŵp Gofalwyr Oedolion Ifanc
  • Chwarae gyda gwallt
  • Gwyliau
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono?Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol?
  • Llwyddo mewn gwallt ar Lefel 1
  • Gwirfoddoli
  • Goresgyn ofnau
  • Llwyddiannus
  • Triniwr Gwallt
  • Gwirfoddoli

Meddyliwch am y cwestiynau canlynol:

  • A allwch uniaethu ag unrhyw beth mae Alana yn ei ddweud?
  • A oes gennych unrhyw beth yn gyffredin?
  • Beth sy'n wahanol am eich sefyllfa chi a'r ffordd rydych yn teimlo?

Enghraifft 2: James

Nawr edrychwch ar dabl James a gwrandewch arno'n disgrifio ei brofiadau.

Tabl 1.2
Sut wyf yn gweld fy hun nawr?Beth sy'n fy ngwneud yn hapus?
  • Canol oed
  • Mewn cyfnod o newid
  • Yn gadael fynd o'r gorffennol
  • Pobl
  • Chwerthin
  • Anifeiliaid
  • Cariad
  • Heddwch
  • Astudio
  • Bwyd da
  • Gwlad Thai
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono?Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol?
Wynebu caledi gyda gwên
  • Seicolegydd cymwysedig
  • Gweithio ym myd academia efallai
  • Hapus
Download this video clip.Video player: cym_s1_james_1.1.1.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Eich tabl

Nawr llenwch y blychau eich hun ar daflen Gweithgaredd 1.1 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   a roddwyd i chi. Byddwn yn dychwelyd i'r gweithgaredd hwn yn Sesiwn 5 felly efallai y byddwch am gadw copi o'ch tabl.

NEU

Agorwch eich Cofnod Myfyrio

ac ewch i Weithgaredd 1.1. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp ac yr hoffech rannu eich atebion, gwnewch hynny nawr

Gweithgaredd 1.2 Diffinio fy hun

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y gweithgaredd hwn.

Mae'r gweithgaredd hwn yn gofyn i chi feddwl am y rolau amrywiol sydd gennych yn eich bywyd a beth maent yn ei olygu.

Yn yr adran flaenorol, clywsom am brofiadau Christine o ofalu am ei mab, beth mae wedi'i ddysgu iddi a sut mae'n teimlo amdano. Edrychwch ar y rhestr o rolau sydd gan Christine yn ei bywyd bellach ac yna gwrandewch arni'n siarad amdanynt yn y clip sain.

Tabl 1.3
Fy mhrif rolau mewn bywydBeth rwyf yn ei wneud
  • Gwraig
  • Mam
  • Merch a merch yng nghyfraith
  • Modryb a hen fodryb
  • Gwrandäwr - i fy ngŵr, mab, teulu
  • Swyddog Cymorth Cyntaf
  • Adferwr hiwmor
  • Cefnogi'r gwannaf yn well na fi fy hun
  • Caru a gofalu am fy mab a'm gŵr.
  • Gwneud beth y gallaf a dysgu gadael yr hyn rwyf am ei wneud ond na allaf ei wneud.
  • I ymlacio rwy'n mwynhau crefft papur ac rwyf hefyd wedi dechrau cyfryngau cymysg a thecstilau.
  • Meistroli'r peiriant gwnïo
Ffigur 4
Download this audio clip.Audio player: cym_s1_christine_1_2.mp3
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae'r enghraifft uchod yn dangos y rolau gwahanol sydd gennym mewn bywyd. Mae gan bob un ohonom lawer o rolau lle defnyddiwn amrywiaeth o sgiliau a galluoedd.

Meddyliwch am y cwestiynau canlynol:

  • A oes gennych unrhyw beth yn gyffredin â Christine?
  • A ydych wedi gorfod ymdopi â rhai o'r un anawsterau?
  • A oes gennych nodau yr hoffech eu cyflawni?

Yn yr adran flaenorol gwnaethom hefyd ddarllen am Claire a'i rôl yn gofalu am ei mam a'i phartner. Edrychwch ar dabl Claire lle mae'n disgrifio'r amrywiaeth o rolau sydd ganddi a'r hyn mae'n ei wneud.

Tabl 1.4
Fy mhrif rolau mewn bywyd Beth rwy'n ei wneud
  • Gofalwr
  • Partner
  • Merch
  • Chwaer
  • Modryb
  • Myfyriwr
  • Gwirfoddoli
  • Bardd
  • Ffrind
  • Gofalu am fy mhartner
    • Helpu gyda gweithgareddau beunyddiol
    • Helpu i drosglwyddo
    • Cymorth emosiynol
  • Gofalu am fy nithoedd
  • Cadw mewn cysylltiad a gweld teulu a ffrindiau
  • Cefnogi menywod â phroblemau iechyd meddwl
  • Helpu i redeg a threfnu canolfan galw heibio
  • Ysgrifennu barddoniaeth a cheisio cael cyhoeddi fy ngwaith
  • Dysgu Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language)

Nawr diffiniwch eich hun ar hyn o bryd, a'r rolau rydych yn eu cyflawni, ar daflen Gweithgaredd 1.2

NEU

Agorwch eich cofnod myfyrio ac ewch i Weithgaredd 1.2. (Os gwnaethoch anghofio arbed eich Cofnod Myfyrio, gallwch agor dogfen newydd.) Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, efallai yr hoffech rannu eich atebion a thrafod eich rolau gyda'ch gilydd. Yn yr un modd, os ydych yn gweithio un i un gyda mentor, defnyddiwch yr amser hwn i weithio ar rai o'r syniadau uchod.