Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.5 Trawsnewid dysgu yng Nghymru – y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yn ei chynllun gweithredu ar gyfer 2017-21, ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflawni'r dasg uchelgeisiol o drawsnewid ei pholisi addysg. Mae'r gyfres o ddiwygiadau yn cynnwys datblygiadau yn y meysydd canlynol: dysgu proffesiynol ac addysg i athrawon; y safonau addysgu proffesiynol; asesu; arolygu; arferion arwain a rheoli ysgolion ac, yn arbennig i ni yma, y cwricwlwm. Un o gonglfeini'r cwricwlwm newydd yw 'bod yn rhaid iddo fod yn briodol i bob dysgwr ym mhob ystafell ddosbarth', 'yn seiliedig ar degwch a rhagoriaeth', a 'helpu i feithrin ein pobl ifanc yn ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar' (Llywodraeth Cymru, 2017, t. 17). Rhan annatod o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm yw'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a ddatblygwyd er mwyn helpu i gyflawni Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2017. Y weledigaeth ar gyfer y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yw:

Creu system addysg gwbl gynhwysol lle rhoddir cyfle i bob dysgwr lwyddo a chael addysg sy’n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i fynd ati i ddysgu, manteisio ar ei addysg a’i mwynhau.

Llywodraeth Cymru, 2018, t. 25

Fel y nodwyd yn y ‘Trosolwg o’r ymgynghoriad ynghylch y cod anghenion dysgu ychwanegol drafft’, cafodd llawer o 2018 a 2019 ei glustnodi i ddatblygu'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd drwy amrywiaeth o ymgyngoriadau ac adolygiadau â rhanddeiliaid allweddol, a'r pwysicaf o blith y rhanddeiliaid hyn oedd y plant eu hunain. Bwriad Llywodraeth Cymru oedd cyflwyno'r cod newydd o 2020, gyda'r hyfforddiant ar ei weithredu yn dechrau ym mis Ionawr a'r system yn mynd yn fyw ym mis Medi y flwyddyn honno. Byddai'r system anghenion addysgol arbennig ac anawsterau a/neu anableddau dysgu bresennol yn rhedeg ochr yn ochr â'r cod newydd, hyd nes iddi gael ei diddymu’n llwyr yn 2023.

Mae'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn mynd i'r afael â rhai o nodau lefel uwch Cenhadaeth Ein Cenedl. Mae'r rhain yn cynnwys helpu pob dysgwr i fod yn uchelgeisiol, yn flaengar, yn wybodus ac yn hyderus wrth wynebu cyfleoedd yn y dyfodol. Un o nodweddion eraill y cod yw ei fod wedi'i ddatblygu drwy ddull amlasiantaethol, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ochr yn ochr ag addysgwyr, gan gynnig profiad mwy cyfannol a chefnogol i'r dysgwr yn yr ysgol. Mae dymuniadau, anghenion a theimladau'r plentyn hefyd wrth wraidd y broses o gynllunio ei brofiadau. Bydd cynlluniau datblygu unigol, a fydd yn disodli'r system 'datganiad' yn y pen draw, yn aros gyda'r plentyn drwy ei addysg a thu hwnt, hyd nes ei fod yn 25 oed, fel y gellir cynnig darpariaeth addysgol fwy pwrpasol a thrylwyr. Mae 'addysg gynhwysol' yn un o bum egwyddor sylfaenol y Cod, lle caiff pob plentyn ei gefnogi i fanteisio ar 'addysg brif ffrwd', a lle mae'r 'lleoliad cyfan' yn ceisio diwallu anghenion dysgwyr ag ADY. (Llywodraeth Cymru, 2018, t. 25)

Gyda chynifer o ddiwygiadau ar waith ar yr un pryd ym maes addysg yng Nghymru, ni fydd yn hawdd asesu effaith un newid penodol mewn polisi. Ond o'i ystyried fel rhan o'r gyfres ehangach hon o fentrau, dylai'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol arwain at newidiadau cadarnhaol i'r plant hynny yng Nghymru ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall hyd yn oed helpu Cymru i fod ar flaen y gad o ran addysg gynhwysol.