Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Gweithio mewn tîm fel llywodraethwr

Ffigur 2 Adnoddau i lywodraethwyr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys unigolion sy'n defnyddio eu gwybodaeth, profiad a chymhellion eu hunain. Daw llywodraethwyr o sefydliadau gwahanol a gallant fod wedi'u hethol neu eu hapwyntio i'r corff llywodraethu. O fewn y corff llywodraethu mae yna hefyd gyfres o is-dimau, a grëir at ddibenion penodol; gallai'r rhain fod yn bwyllgorau statudol, neu rai sy'n diwallu anghenion penodol ysgol unigol. Gall pwyllgorau cyrff llywodraethu gwmpasu meysydd fel materion personél a chyllid, cyflawniad, derbyniadau, llesiant a lles, safle, y cwricwlwm, neu strategaeth.

Mae Gweithgaredd 1 yn gofyn i chi feddwl am y priodoleddau a'r gweithredoedd a ddisgwylir gan lywodraethwyr ysgol, a'r hyn a all fod yn gyffredin rhyngddynt.

Gweithgaredd 1 : Llywodraethwyr a gwaith tîm

Timing: Caniatewch 10 munud

Edrychwch ar y rhestr isod. Pa briodoleddau a gweithredoedd a fyddai'n ddisgwyliedig gennych fel llywodraethwr? A allwch nodi thema gyffredin o ran y priodoleddau a'r gweithredoedd rydych wedi'u dewis?

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Gadael sylw

Mae'r datganiadau wedi'u haddasu o'r Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru (Gwasanaethau Governors Cymru, 2019) ac maent yn rhan o Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwasanaethau Governors Cymru.

Mae pob datganiad yn berthnasol i rôl llywodraethwr ac yn dangos bod gwaith tîm yn rhan bwysig o'ch gwaith fel llywodraethwr. Rydych yn cyfrannu drwy weithio gyda llywodraethwyr eraill, staff, rhieni a gofalwyr, a disgyblion i wneud y canlynol:

  • pennu nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol
  • cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn
  • monitro a gwerthuso er mwyn canfod a yw'r nodau, yr amcanion a'r blaenoriaethau hynny yn cael eu cyflawni.

Bydd pob corff llywodraethu yn cyflawni ei rôl yn y ffordd sydd fwyaf addas i anghenion yr ysgol unigol a'i disgyblion. Fodd bynnag, mae yna rai nodweddion cyffredin rhwng cyrff llywodraethu, er enghraifft:

  • yr angen i greu pwyllgorau a pholisïau statudol
  • cyfrifoldebau cyfreithiol
  • penodi clerc i'r corff llywodraethu
  • cael cyngor gan y Pennaeth cyn gwneud penderfyniadau

Caiff llawer o'ch gwaith fel llywodraethwr ei gyflawni mewn timau ac wrth weithio gydag eraill. Er bod rhai o'r datganiadau uchod yn ymwneud â chi fel unigolyn, mae angen i chi gydweithio ag eraill er mwyn eu cyflawni.

Cyn symud ymlaen i'r adran nesaf, sy'n ystyried rolau tîm, treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono.

Gweithgaredd 2: Eich corff llywodraethu

Timing: Caniatewch 10 munud

Treuliwch ychydig funudau yn myfyrio ar y corff llywodraethu rydych yn aelod ohono ac ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Pa strwythur y mae'r corff llywodraethu wedi ei fabwysiadu?
  • Pa bwyllgorau rwy'n ymwneud â nhw?
  • Beth yw cylch gwaith y pwyllgorau hynny?
  • Pa hyfforddiant rwyf wedi'i gwblhau a gyda phwy?
  • Pa 'fath' o lywodraethwr ydw i?
    • Ymhlith yr enghreifftiau mae rhiant-lywodraethwr, athro-lywodraethwr, staff-lywodraethwr, llywodraethwr awdurdod lleol, pennaeth fel llywodraethwr, llywodraethwr cymunedol, llywodraethwr cymunedol ychwanegol, llywodraethwr sylfaen, disgybl-lywodraethwr cyswllt, llywodraethwr partneriaeth neu noddwr-lywodraethwr

Ar ôl myfyrio ar y cwestiynau, treuliwch ychydig funudau yn nodi eich ymatebion i bob cwestiwn yn y blwch testun isod.

Gallwch lawrlwytho'r nodiadau y byddwch yn eu gwneud drwy ddefnyddio'r blwch ‘lawrlwytho atebion’, a fydd yn ymddangos pan fyddwch yn cadw sylw am y tro cyntaf yn ystod y cwrs hwn.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae gan bob corff llywodraethu strwythur sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned ysgol y mae'n ei chynrychioli. Fodd bynnag, mae yna rai gofynion statudol y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu eu bodloni mewn perthynas â phwyllgorau a pholisïau, gan gynnwys:

  • pwyllgor disgyblu a diswyddo staff
  • pwyllgor apeliadau disgyblu a diswyddo staff
  • pwyllgor disgyblu disgyblion a gwaharddiadau
  • panel dethol y Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth
  • Arfarnwyr Rheoli Perfformiad Pennaeth ac Arfarnwr/Arfarnwyr Apeliadau
  • adolygu cyflogau ac apeliadau'n ymwneud ag adolygu cyflogau
  • cwynion ac apeliadau cwynion
  • medrusrwydd ac apeliadau medrusrwydd
  • gweithdrefnau cwyno.

Bydd gan bob corff llywodraethu ddogfen gyfeirio sy'n pennu ei bwerau a'i ddyletswyddau, ei safle yn y strwythur adrodd, nifer gofynnol y llywodraethwyr. Rhaid adolygu hyn y flynyddol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar hyfforddiant sefydlu a llywodraethiant ysgolion.

Gall y cyhoedd weld pob blog ar y cwrs hwn. Gallwch benderfynu p’un a ydych am i ddysgwyr eraill roi sylw ar eich blogiau.

Ar ôl i chi fyfyrio ar eich corff llywodraethu eich hun a'ch gwaith fel llywodraethwr, mae'r adran nesaf yn ystyried rolau timau.