Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Glossary

Adlogi (llog)
Y broses o gael llog ar log blaenorol a enillwyd (ar gyfrifon cynilo) neu dalu llog ar log blaenorol a dalwyd (ar fenthyciadau).
Aeddfedu (bond neu gyfrif cynilo)
Yr adeg pan mae buddsoddiad – fel bond cyfradd sefydlog – yn cyrraedd diwedd ei oes ac mae’r buddsoddwr yn cael y swm a fuddsoddwyd yn ôl, ynghyd ag unrhyw enillion sy’n weddill (ee, llog) ar y buddsoddiad hwnnw.
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Corff rheoleiddio gwasanaethau ariannol y DU sy’n gyfrifol am ddiogelu defnyddwyr. https://www.fca.org.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Cyfradd dychweliad
Cyfradd llog y morgais sy’n cael ei bennu gan y benthyciwr ar ddiwedd cyfnod y cynnig morgais – ee, pan mae cyfnod cyfradd sefydlog yn dod i ben. Cyfradd amrywiadwy safonol (SVR) y benthyciwr fydd hon fel arfer.
Cyfrifon Rhybudd
Cyfrifon cynilo y mae angen cyfnod rhybudd – fel arfer rhwng 1 a 6 mis – er mwyn cael mynediad at yr arian yn y cyfrif heb orfod talu ffi. Mae cynilion o’r fath yn cynnig cyfraddau llog fymryn yn uwch na'r rheini heb gyfnodau rhybudd.
Enwol
Heb ei addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gelwir hyn yn aml yn ‘yn nhermau arian parod’. Gweler Real.
Ffioedd ad-dalu cynnar
Ffi y bydd eich benthyciwr yn ei chodi os byddwch chi’n gadael y morgais cyn y cyfnod penodedig. Mae fel arfer yn berthnasol i forgeisi cyfradd sefydlog, ond gall fod yn un o nodweddion morgeisi traciwr hefyd.
Gwir
Wedi’i addasu i ystyried chwyddiant prisiau. Gweler Enwol.
ISA
Cyfrif cynilo lle mae'r llog neu enillion eraill yn ddi-dreth.
ISA Cymorth i Brynu
Cyfrif Cynilo Unigol sy’n darparu bonws gan y llywodraeth i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eiddo.
ISA Gydol Oes (LISA)
Cyfrif Cynilo Unigol sy’n darparu bonws blynyddol gan y llywodraeth. Rhaid i gyfrifon LISA gael eu defnyddio naill ai i helpu i brynu eiddo (os ydych chi’n brynwr tro cyntaf) neu i helpu i sefydlu cynllun pensiwn.
Lesddaliad
Bod yn berchen ar eiddo am gyfnod penodedig (cyfnod y les, ee, 99 mlynedd) ond nid y tir mae’n sefyll arno.
Lwfans ISA
Yr uchafswm y gall pob oedolyn yn y DU ei roi i mewn i gyfrif ISA yn ystod pob blwyddyn dreth. Caiff y lwfans hwn ei bennu gan y llywodraeth.
Rhent tir
Tâl mae lesddeiliad eiddo yn ei dalu i rydd-ddeiliad y tir mae’r eiddo wedi'i adeiladu arno.
Rhydd-ddaliad
Bod yn berchen yn llwyr ar eiddo a’r tir mae’n sefyll arno.
Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT)
Treth ar gost eiddo neu dir a brynir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, y dreth gyfatebol i Dreth Dir y Dreth Stamp yw'r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau, a’r Dreth Trafodiadau Tir yw’r dreth gyfatebol yng Nghymru. Mae gan Senedd yr Alban a Senedd Cymru bŵer i ddefnyddio eu cyfraddau eu hunain ar gyfer eu trethi cyfatebol i Dreth Dir y Dreth Stamp.
Ymddiriedolaethau unedau
Cynlluniau buddsoddi cyfun – fel arfer mewn cyfranddaliadau cwmni – a reolir gan reolwyr cronfeydd.