Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

16 Strategaethau buddsoddi: sut i reoli eich risg

Mae’r ddelwedd yn llun o fenyw ifanc yn eistedd wrth fwrdd. Mae hi ar ei ffôn symudol, yn gwrando. Mae hi’n gwneud nodiadau wrth iddi wrando. O flaen y fenyw mae gliniadur agored.
Ffigur 17 Mae angen rhoi sylw i fanylion wrth fonitro eich risgiau buddsoddi

Rhaid inni fod yn ofalus yma gan nad ydym yn rhoi cyngor ar fuddsoddi, sy’n weithgaredd a reoleiddir. Felly fyddwn ni ddim yn dweud wrthych chi ble i roi eich arian. Ac fel yr ydym wedi’i ddweud o’r blaen, cofiwch y gall gwerth eich buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr, tra nad yw perfformiad yn y gorffennol bob amser yn arwydd o enillion yn y dyfodol.

Ond mae rhai egwyddorion allweddol i’ch helpu i wneud y penderfyniadau hynny:

  • Mae buddsoddi ar gyfer y tymor hir, gan ei bod yn ddigon posibl y bydd angen amser arnoch i fynd y tu hwnt i unrhyw gyfnodau lle mae gwerth eich buddsoddiad yn gostwng yn ei werth. Peidiwch â disgwyl gwneud enillion tymor byr neu fe allech chi fod yn siomedig.
  • Peidiwch â cholli gormod o gwsg os bydd gwerth eich buddsoddiadau'n gostwng yn gynnar. Yr unig brisiau sy’n bwysig yw eich pris prynu a’ch pris gwerthu, ac efallai y bydd amser i farchnadoedd neu eich buddsoddiad wella. Mae perygl o werthu ar waelod y farchnad sydd ond yn crisialu unrhyw golledion.
  • Byddwch yn ofalus wrth roi eich wyau i gyd mewn un fasged, fel y dywed yr hen air. Dyna un o’r rhesymau pam mae cronfeydd buddsoddi’n boblogaidd, gan nad ydych wedi’ch cyfyngu i gyfranddaliadau un cwmni. Mae’n hollol iawn cael cymysgedd o fuddsoddiadau.
  • Ystyriwch fanteision treth buddsoddi drwy ISA stociau a chyfranddaliadau – ond cofiwch mai’r terfyn ar arian newydd a roddir mewn pob math o ISAs yw £20,000 y flwyddyn dreth (o 2022/23). Gydag ISA stociau a chyfranddaliadau, nid ydych yn talu treth ar eich enillion, ond nid ydych o reidrwydd yn talu treth beth bynnag os yw eich enillion yn is na'r lwfansau difidend neu enillion cyfalaf, felly nid ydynt mor fuddiol i fuddsoddwyr llai. Mae llawer mwy o gymorth ar hyn yng nghanllaw ISAs stociau a chyfranddaliadau MSE [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gweithgaredd 8 Addasu eich dewis o gronfa ar gyfer oedran

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Un argymhelliad cyffredin yw dewis cronfeydd sy’n isel o ran risg ac anwadalrwydd prisiau wrth i chi fynd yn hŷn! Pam hynny?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Answer

Os ydych chi’n ifanc ac yn gallu buddsoddi yn y tymor hir, mae lle i fuddsoddi mewn cronfeydd sydd â mwy o risg ac, o ganlyniad, mwy o anwadalrwydd posibl o ran prisiau na chronfeydd ‘diogelach’, oherwydd os bydd y gronfa’n colli gwerth, mae mwy o amser i’w ennill yn ôl. Ond wrth i chi heneiddio – ac yn enwedig wrth i chi nesáu at yr angen i wneud defnydd o’ch buddsoddiadau ar ôl ymddeol – efallai y bydd angen mwy o sicrwydd arnoch ynghylch gwerth eich buddsoddiadau a’r enillion ohonynt. Felly, mae buddsoddi mewn cyfranddaliadau (ecwiti) pan fydd pobl yn ifanc ac mewn bondiau (‘buddiant sefydlog’) wrth nesáu at ymddeol yn cael ei ystyried yn synnwyr da (er nad ydym yn gwneud yr argymhelliad hwn ein hunain). Eto i gyd, fel y crybwyllir drwy’r amser, nid oes y fath beth â sicrwydd o ran buddsoddi, felly beth bynnag a wnewch chi, byddwch yn cymryd rhywfaint o risg.